Showing 26 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Roberts, Samuel, 1800-1885 -- Diaries Welsh
Print preview View:

Dyddiadur S.R.

Almanac a Dyddiadur am y flwyddyn 1843, gol. gan Josiah Thomas Jones, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn Saesneg (tt. 17-69) yn nodi manylion pregethau, enwau gohebwyr a gwaith golygu Y Cronicl. = Almanac a Dyddiadur am y flwyddyn 1843, ed. by Josiah Thomas Jones, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries in English (pp. 17-69) recording preaching and other engagements, names of correspondents and the editing of Y Cronicl.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1846, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55) yn nodi manylion pregethau ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1846, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (pp. 3-55), including preaching engagements and names of correspondents.
Mae eitemau rhydd (5 ff.) wedi eu tipio i mewn ar ddiwedd y gyfrol. = Loose items (5 ff.) have been tipped in at the end.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1849, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55) yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1849, ed by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries mostly in English (pp. 3-55) including sermons preached, other engagements, editing work and names of correspondents.

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Annibynol am 1883, gol. gan D. Evans a D. Stanley Davies, o eiddo Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Ngymraeg a Saesneg (tt. 9-61). = Y Dyddiadur Annibynol am 1883, ed. by D. Evans and D. Stanley Davies, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 9-61).
Cofnodir marwolaeth Gruffydd Rhisiart ar 25 Gorffennaf (t. 38). Ceir hefyd nodiadau a chofnodion (tt. ii, 145-153, 155, 172-175 a tu mewn i'r clawr cefn). = The death of Gruffydd Rhisiart is recorded on 25 July (p. 38). There are also notes and memoranda (pp. ii, 145-153, 155, 172-175 and inside back cover).

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Eglwysi Cynnulleidfaol Cymreig yn Unol Daleithiau America, am 1857, gol. gan Iorthryn Gwynedd, o eiddo i Samuel Roberts o Lanbrynmair a Tennessee, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (tt. 2, 6-57; ff. 4-30), yn nodi manylion pregethau, gwaith ysgrifennu a golygu, enwau gohebwyr a'r tywydd. = Dyddiadur yr Eglwysi Cynnulleidfaol Cymreig yn Unol Daleithiau America, am 1857, ed. by Iorthryn Gwynedd, belonging to Samuel Roberts of Llanbrynmair and Tennessee, containing brief entries, mostly in English (pp. 2, 6-57; ff. 4-30), recording sermons, writing and editing work, names of correspondents and the weather.
Mae'n cofnodi ei ymadawiad a Chymru (t. 22), y fordaith i America a'r siwrne i Tennessee (tt. 23-29), yn ogystal a'i daith pregethu deg wythnos i Washington, Efrog Newydd, a mannau eraill (tt. 39-49), pan gyfarfu a'r Arlywydd Buchanan yn y Ty Gwyn, 31 Awst (t. 40). = He records his departure from Wales (p. 22), the voyage to America and journey to Tennessee (pp. 23-29) as well as a ten week preaching tour to Washington, New York and elsewhere (pp. 39-49), during which he met President Buchanan at the White House, 31 August (p. 40).

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur y Trefnyddion Calfinaidd yn y Taleithiau Unedig a Chymru, am 1864, gol. gan D. C. Evans, o eiddo i Samuel Roberts, Scott County, Tennessee, yn cynnwys cofnodion cryno ar gyfer 1864 (tt. 7-57), yng Nghymraeg a Saesneg, yn nodi effeithiau a pheryglon parhaol y Rhyfel Cartref (tt. 8-34 passim) yn ogystal ag enwau gohebwyr, manylion gwaith ysgrifennu, gwaith fferm a'r tywydd. = Dyddiadur y Trefnyddion Calfinaidd yn y Taleithiau Unedig a Chymru, am 1864, ed. by D. C. Evans, belonging to Samuel Roberts of Scott County, Tennessee, containing brief entries for 1864 (pp. 7-57), in Welsh and English, recording the continuing effects and dangers of the Civil War (pp. 8-34 passim) as well as names of correspondents, writing and farm work and the weather.
Mae yna fwlch sylweddol (tt. 44-51) yn cyfateb i'w salwch difrifol o ddiwedd Medi i ganol Tachwedd; digwyddodd hyn yn ystod taith pregethu i nifer o daleithiau Gogleddol. Mae yna nodiadau amrywiol tu mewn i'r cloriau ac ar tt. i-ii. = Contains a large gap (pp. 44-51) corresponding to his serious illness from late September to mid November; this occurred during a preaching tour of several Northern states. There are various notes inside the covers and on pp. i-ii.

Results 21 to 26 of 26