Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1779-1885 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
154 cyfrol.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd Samuel Roberts (S.R.) yn weinidog Annibynol, awdur, golygydd a diwygiwr Radicalaidd. Ganwyd ar 6 Mawrth 1800 yn Llanbrynmair, sir Drefaldwyn, yr ail blentyn a'r mab hynaf i'r Parch. John Roberts (1767-1834) a'i wraig Mary (m. 1848). Ym 1806 symudodd y teulu i fferm Y Diosg i fyw. Cafodd S.R. ei addysgu gan ei dad, ac o 1819 yn yr academi yn Llanfyllin (a symudwyd wedi hynnu i'r Drenewydd). Cafodd ei ordeinio ym 1827 fel cyd-weinidog i'w dad yn Llanbrynmair a daeth yn adnabyddus fel pregethwr. Ym 1835 roedd yn ysgrifennydd Apel y Capeli Annibynol Cymreig a geisiai ddileu dyledion y capeli yng Ngogledd Cymru. Ymgyrchodd dros ddiwygio cymdeithasol ac addysgiadol, gan fynegi ei farn yn y wasg a mewn traethodau eisteddfodol. Ceisiodd wella iechydiaeth, technegau amaethyddol, twf economaidd a trafnidiaeth yng nghefn gwlad Cymru. Yn 1843 cychwynnodd Y Cronicl, papur newydd Radicalaidd misol a ddaeth yn neillduol o boblogaidd. Roedd S.R. yn lwyrymorthodwr ac yn heddychwr ymroddgar. Gwrthwynebai caethwasaeth a chefnogai rhoi'r bleidlais i ferched. Roedd hefyd o blaid diwygio hawliau tenantiaid, yn rhannol oherwydd yr anghytundebau parhaol rhwng ei deulu a stiward stad Wynnstay, perchennog Y Diosg. Hyn yn y pen draw barodd i S.R. ymfudo i Tennessee i sefydlu trefedigaeth Gymreig yn Scott County. Aeth ei frawd Gruffydd (G.R.) a'i deulu yno ym 1856 ac ymunodd S.R. a nhw ym 1857. Ond cafodd yno fwy o broblemau gyda goruchwylwyr tir, a rhoddwyd ei fywyd mewn perygl oherwydd ei ddaliadau heddychol yn ystod y Rhyfel Cartref, 1861-1865. Methodd yr ymgais a dychwelodd S.R. i Gymru ym 1867 i fyw gyda'i frawd arall John (J.R.) yng Nghonwy. Sefydlodd papurau newydd wythnosol Y Dydd ym 1868 a'r Celt ym 1878. Ymysg ei gyhoeddiadau roedd Dau Draethawd (Caernarfon, 1834), Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837), Farmer Careful of Cilhaul Uchaf (1850), Diosg Farm: A Sketch of its History (Drenewydd, 1854), Gweithiau (Dolgellau, 1856), Pregethau a Darlithiau (Utica, N.Y., 1865), Funeral Addresses (Conwy, 1880) a Pleadings for Reforms (Conwy, 1880). Bu farw yng Nghonwy ar 24 Medi 1885.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd John Roberts (J.R.), gweinidog Annibynol ag awdur, yn Llanbrynmair ar 5 Tachwedd 1804. Ym 1831 aeth i'r academi yn y Drenewydd, cyn dychwelyd i Lanbrynmair ym 1834, ar ôl marwolaeth ei dad, i rannu gwaith ei frawd hynaf Samuel (S.R.). Cafodd gyfnodau yn weinidog yn Abergele, 1838-1839, Rhuthin, 1848-1857, ac yn eglwys Gymraeg Aldersgate Street yn Llundain, 1857-1860. Daeth yn ôl i Gymru yn 1860 ac ymsefydlu ym Mrynmair, Conwy. Roedd J.R. yn adnabyddus fel dadleuwr dawnus a radical, ac ef oedd golygydd Y Cronicl o 1857 hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddiddordebau yn llai eang na'i frawd S.R., yn tueddu tuag at dadleuon eglwysig ac enwadol. Cyhoeddodd hefyd nifer o weithiau ar destunau crefyddol. Priododd Ann Jones, Llansansiôr, ym 1838, a cawsant dau blentyn, ond bu farw y tri ohonynt cyn ei farwolaeth yntau ar 6 Medi 1884.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart; G.R.) yn y Diosg, Llanbrynmair, ar 5 Tachwedd 1810, yn frawd ieuengaf i Samuel (S.R.) a John (J.R.). Ymddiddorai mewn llenora, ysgrifennodd eitemau i'r Cronicl a chylchgronnau eraill, yn ogystal a nofel, Jeffrey Jarman (Machynlleth, [1855]), ond ei brif gyfrifoldeb oedd rhedeg y fferm. Priododd ag Anne Jones, Castell Bach, ym 1853 a cawsant un ferch, Margaret. Yn 1856 ymfudodd y teulu i Tennessee a sefydlu fferm o'r enw Brynyffynon. Arhosodd G.R. a'i deulu yno tan 1872 cyn dychwelyd i fyw yng Nghonwy gyda'i frodyr. Yn y cyfnod yma cychwynodd yntau bregethu. Bu farw ar 25 Gorffennaf 1883, a'i wraig ym 1886.
Hanes archifol
Ymddengys i'r llawysgrifau gael eu hetifeddu gan Margaret Roberts, merch Gruffudd Rhisiart, a wedyn gan ei merched hi, Anne Grace Williams a Catherine E. Williams, Gyffin. Ym 1921 priododd Anne Grace Williams a'r Parch. J. Luther Thomas.
Ffynhonnell
NLW MSS 3265-8; Parch. J. Luther Thomas; Cwmafon; Rhodd; [1931].
NLW MSS 9511-98; Miss C. E. Williams; Gyffin; Rhodd; 1932.
NLW MSS 11891-2; Parch. J. Luther Thomas; Cwmafon; Rhodd; Gorffennaf 1938.
NLW MSS 14035-58, 14061-94; Parch. J. Luther Thomas; Cwmafon; Rhodd; Mai 1940.
NLW MSS 14059-60; Parch. J. Luther Thomas; Cwmafon; Rhodd; Medi 1940.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau teulu Roberts, Llanbrynmair a Chonwy, 1779-1885, yn cynnwys dyddiaduron Samuel Roberts (S.R.), 1843-1885 gyda bylchau; gohebiaeth S.R. a'i dad, John Roberts, ymysg eraill, 1800-1884; pregethau a nodiadau pregethau S.R., [1827x1885], ei frodyr John Roberts (J.R.), [1829x1884], a Gruffydd Rhisiart (G.R.), [c. 1872]-1883, eu tad, John Roberts, [19 gan. cynnar], Jenkin Lewis, [1779x1811], Thomas Jones, 1794-1821, a John Breese, 1828-1829; traethodau, erthyglau ac anerchiadau gan S.R., J.R. ac eraill, [1820x1885], llawer ohonynt ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Cronicl; llyfrau casglu, 1828-1881, yn bennaf ar gyfer Apel y Capeli Annibynol Cymreig, 1835; barddoniaeth ac emynau gan S.R. ac eraill, [1820x1885]; nodiadau amrywiol a phapurau eraill S.R., [c. 1807]-[1885], a J.R., 1857-[1884]; 'Llawlyfr y Gweithiwr' gan G.R., 1875; cyfrifon a phapurau eraill mewn perthynas a Thomas Jones ac ysgolion Dinbych a St. Sior, Sir Ddinbych, 1791-1866. = Papers of the Roberts family of Llanbrynmair and Conwy, 1779-1885, including diaries of Samuel Roberts (S.R.), 1843-1885 with gaps; correspondence, 1800-1884, mainly of S.R. and his father, John Roberts; sermons and sermon notes of S.R., [1827x1885], his brothers John Roberts (J.R.), junior, [1829x1884], and Gruffydd Rhisiart (G.R.), [c. 1872]-1883, John Roberts, senior, [early 19 cent.], Jenkin Lewis, [1779x1811], Thomas Jones, 1794-1821, and John Breese, 1828-1829; essays, articles and addresses by S.R., J.R. and others, [1820x1885], many intended for publication in Y Cronicl; collecting books, 1828-1881, mainly for the Welsh Congregational Churches Appeal Fund, 1835; poetry and hymns by S.R. and others, [1820x1885]; miscellaneous notes and other papers of S.R., [c. 1807]-[1885], and J.R., 1857-[1884]; G.R.'s 'Llawlyfr y Gweithiwr', 1875; accounts and other papers relating to Thomas Jones and to Denbigh and St. George schools, Denbighshire, 1791-1866.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl rhifau cyfeirnod llawysgrifau LlGC: NLW MSS 3265-8, 9511-98, 11891-2, 14035-94.
Trefnwyd yn gyfrolau yn ôl maint.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Nodiadau
Catalogwyd llawysgrifau NLW MSS 3265-8, 9511-98, 11891-2 cyn i'r canllawiau cyfredol gael eu mabwysiadu ac o'r herwydd mae'r disgrifiadau ar gyfer rhain yn uniaith Saesneg.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2008 ac Ebrill 2009.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales, Cyfrol III (Aberystwyth, 1961); Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953); Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970 (Llundain, 1997); E. Pan Jones, Cofiant y tri brawd o Llanbrynmair a Conwy (Bala, 1892); Wilbur S. Shepperson, Samuel Roberts: a Welsh colonizer in Civil War Tennessee (Knoxville, 1961); Glanmor Williams, Samuel Roberts, Llanbrynmair, (Caerdydd, 1950); gwefan AncestryLibrary (gwelwyd Ionawr 2009).
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifans ar gyfer cynllun ôl-drosi llawysgrifau NLW, a'i adolygu gan Rhys Morgan Jones.