Dangos 338 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Parch. J. Dyfnallt Owen
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cyfraniadau I'r Tyst, Etc,

(Llawysgrifau wedi eu dychwelyd i'r Golygydd gan mwyaf). Rhyddiaith. R.G. Berry:. 'Y Seiat yn Dathlu'. [Caerdydd, 1939]. 'Yr oedfa olaf'. 'Trasiedi'r Tylwyth Teg'. 'Y Blaned Fach a'r Chwerthwr Mawr.'. (Stori i blant mewn oed). Anghyflawn. E. Tegla Davies:. Adolygiad ar Ar y Twr, Ysgrifau Dyfnallt [1953]. [D. Silyn Evans]:. O fryn i fryn. 'yng ngwydd y Cedrwydd'. E. Keri Evans:. Moeseg Gristnogol. Y Rhan gyntaf. Penod III: Teyrnas y Tad. W.J. Gruffydd:. 'Hywel Dda'. H.T. Jacob:. Homili Nadolig: 'Dydd o lawen chwedl'. Anghyflawn. Homili Nadolig: Titus II. 11. Nadolig 1952. J.G. Moelwyn Hughes:. Nodiadau ar gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, [1931]. T. Gwynn Jones:. Eisteddfod Gadeiriol Eglwys Gymraeg Mile End Road, Llundain, Ebrill 12, 1928. Beirniadaethau ar gystadleuaeth yr englyn, y delyneg, a'r bryddest. T. Gwynn Jones:. Adolygiad ar Y Greal a Cherddi Eraill gan Dyfnallt. (Gwasg Aberystwyth, 1946). Anghyflawn. 'Dynol-ryw a'i Pherigl'. Iorwerth C. Peate:. 'Y Babyddiaeth Newydd'. 'Datblygiad Dyn. III. Bonedd Dyn. I. Rhagymadrodd'. J.J. Williams:. 'Nadolig mewn hen Bentref'. Barddoniaeth. [William Evans] 'Wil Ifan:. Englyn wedi ei silio ar baragraff cyntaf un o benodau Ym Min Hwyr (Dyfnallt). John Hughes, Montreal:. 'Cyfodiad Haul'. Trosiad o'r emyn 'Sunrise' o waith y Parch. Griffith Quick, M.Sc. Ifano Jones:. 'Gwen o Aberhonddu' (Hen Gerdd Werin o Forgannwg). 1923. [H. Elvet Lewis] 'Elfed':. '1928'. [Penillion ar ddechrau blwyddyn]. O.M. Lloyd:. 'Cân y Bugeiliaid'. (Cyfiethiad of 'Thou must leave thy lowly dwelling' gan Paul England.). Iorwerth C. Peate:. 'Hen Wr y Lleuad.' Ionawr 1929. J.J. Williams:. 'Cofio a Fu'. T.H. Parry-Williams:. 'Dyffryn Elan'. 'Ar y Ffin'. Hefyd englynion gan Ioan Anwyl 'I faban y Parch. J. Dyfnallt Owen a Mrs. Owen'; emyn gan Ifor] L. Evans, cyflwynedig i Dyfnallt; 'Colli'r wyl, penillion o waith T. Eurig Davies, Rhag. 1932; a phenillion gan W.R.E ar achlysur sefydlu gweinidog mewn eglwys arbennig. Scriptiau Radio, etc., gan Dyfnallt. 'Hen gymeriadau Bro (A ddarlledwyd o Gaerdydd Rhagfyr 14, 1931).'. 'Hen Gapel Llanybri'. Ion. 17, 1945. Hefyd ymdriniaeth lawnach â Genesis yr Achos yn Hen Gapel Llanybri. 'Y Dyn a'i Dylwyth.' Tach. 5, 1946. 'Yng Nghwmni George Meredith [1909]'. Ion. 23, 1950. 'Tro yn ôl'. Awst 31, 1952. 'Golygu'r "Tyst" am Chwarter Canrif'. Awst 10, 1953. Hefyd ysgrif ar yr un testun. 'Barsilai: Yr Hen Fonheddwr o Gilead.' Pregeth i'r Henoed a ddarlledwyd mewn gwasanaeth dwyieithog o Jerusalem, Resolven, Hyd. 2, 1955. 'Myfyrdodau Gwyl Ddewi'. Dd. 'Bro Amanw'.

Canlyniadau 21 i 40 o 338