Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cardiau Nadolig teuluol

Cardiau Nadolig a phen-blwydd, [1850]-[1945], a dderbyniwyd gan Mathonwy Hughes ac aelodau o’i deulu, gan gynnwys ei ewythr Silyn Roberts, a rhai cardiau coffa. Ceir cerdyn Nadolig hefyd oddi wrth 'Squadron-Leader & Mrs G. ap Silyn-Roberts, Henlow.

'Dyddiadur gwyliau'

Torion yn ymwneud â theithiau Mathonwy Hughes i Sir Benfro, Yr Ynys Werdd, Yr Alban, Gwlad yr Haf, Cwm Rhondda, Cernyw a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1963-1972.

Ymgyrch refferendwm datganoli Cymru

Deunydd amrywiol yn ymwneud ag ymgyrch dros bleidlais Ie yn refferendwm datganoli Cymru 1997, cynlluniau am etholiadau i'r Cynulliad, pasio'r deddf yn Senedd y DG a threfniadau mewnol Plaid Cymru am yr ymgyrch.

Mesur datganoli Cymru

Papurau amrywiol ar gyllideb y Swyddfa Gymreig a chynlluniau i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynnwys ddogfen boli gan undeb Unsain.

Mesur yr Iaith Gymraeg

Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys copiau o bapurau polisi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, deddfwriaeth perthnasol, nodiadau a gohebiaeth.

Mesur yr Iaith Gymraeg

Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys nodiadau, gohebiaeth, rhestrau cyrff o fewn cylch gorchwyl y deddf a drafftiau y Gorchymun Cymhwyso Deddfwriaeth.

Diddymu Bwrdd yr Iaith Gymrag

Papurau yn ymwneud a chynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a throsglwyddo rhai swyddogaethau'e Bwrdd i adran o fewn y Llywodraeth, gan gynnwys gohebiaeth, adroddiadau ac ymatebion i'r ymgynghoriad.

Sylwadau'r cynghorydd Seimon Glyn

Papurau ynglyn a sylwadau y Cynghorydd Seimon Glyn ar Radio Cymru yn 2001 am fewnfudo o Leogr i Gymru gan gynwys llythyron at Ieuan Wyn Jones am y sylwadau, papurau a gohebiaeth mewnol a thorrion y wasg.

Rhoddion

Gohebiaeth a phapurau, 1976-1978, y rhan fwyaf gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion i'r Apêl Syr Thomas Parry Williams, yn cynnwys llythyrau oddi wrth J. Haulfryn Williams; J. E. Caerwyn Williams; Jack Evans; Roy Stephens; R. Geraint Gruffydd; G. D. Jones; John Rhys; Brian Ó Cuív; J. A. Edwards; Trevor Morgan; Emrys Wyn Jones; Cyril Moseley; T.A. Owen; Heidemarie Poschbeck; Bobi Jones; Elan Closs Stephens; Ioan Bowen Rees; Douglas Bassett; David Jenkins; Pat Williams; R. Geraint Gruffydd, Ieuan Gwynedd Jones, a J. E. Caerwyn Williams; a Thomas Parry. Yn ogystal, ceir copi o'r cylchgrawn ‘Ninnau’ (1978).

Ysgrifau coffa

Teyrngedau o’r wasg, 1985, i John Eilian, ynghyd â chopi o Barn, Ebrill 2012, yn cynnwys erthygl Geraint Percy Jones am ‘Arloeswr y wasg John Eilian (1903-85)'.

Canlyniadau 21 i 40 o 1033