Print preview Close

Showing 173 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd, file
Advanced search options
Print preview View:

Llyfrgell Coleg y Bala,

Cardiau mynegai o'r Llyfrgell a achubwyd ganddo wedi iddynt gael eu taflu ar ôl arwerthiant yna, Medi 1964, ynghyd â thoriad o'r Cymro, 1962, 'Coleg y Bala i gau? Bu'n Brifysgol Gymraeg - felly cadwn ddrws agored yno medd D. Tecwyn Lloyd' a phapurau'n ymwneud ag amgylchiadau gwerthu'r Llyfrgell gan gynnwys adroddiad gan Tecwyn Lloyd 'Gwerthiant Llyfrgell Coleg y Bala. Haf 1964', 1965.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol, [1932]-1992, gan gynnwys rhestr o 'Eitemau golygyddol W J. [Gruffydd]' yn Y Llenor, 1927-1942; llyfr nodiadau yn dwyn y teitl 'Moustachiographology' sef ei astudiaeth ddoniol o fwstashis, 1932; copi o'i lythyr, [1942] a anfonwyd at Gwilym Lloyd George, Gweinidog tanwydd a phwêr ar y pryd; memorandwm, 1946, yn ymwneud â'r bwriad o sefydlu Coleg Gwerin i Gymru, ynghyd â nodyn esboniadol gan D. Tecwyn Lloyd, 1963; a phapurau, 1946, yn ymwneud â'i gynllun arfaethedig i gasglu cyfansoddiadau eisteddfodau bach a'u storio yng Ngholeg Harlech.

Aled Vaughan,

Llythyr, 1984, oddi wrth Aled Vaughan yn amgau pennod 11 o'i waith creadigol mewn teipysgrif er mwyn cael barn Tecwyn Lloyd arni.

Vaughan, Aled, 1920-1989.

Erthyglau gwyddonol C. O. W. Davies,

Erthyglau gwyddonol C. O. W. Davies [Owain Wyn Davies]. Rhoddwyd y teipysgrifau’n rhodd gan yr awdur i Tecwyn Lloyd yn 1990, rhai ohonynt yn fuddugol mewn cystadlaethau ysgrifennu erthyglau ar gyfer Y Gwyddonydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Davies, Owain Wyn.

Barddoniaeth Waldo Williams,

'Teipysgrif breifat' a gyflwynwyd i Tecwyn Lloyd gan y bardd. [Ceir cerddi ychwanegol at y rhai a gyhoeddwyd yn Waldo Williams, Dail Pren (Aberystwyth, 1956)].

Clychau mebyd,

Caneuon i blant gan Catherine H. Cooke a gyfansoddodd y gerddoriaeth mewn llawysgrif ac wedi'u darlunio [mae rhai o'r caneuon wedi'u cynnwys yn ei chyfol Caneuon glannau Hesbin : llyfr adrodd a chanu i blant (Lerwpl : Gwasg y Brython, 1960)].

Cooke, Catherine H.

Gildas Jaffrennou,

'When I was in the wine trade' gan Gildas Jaffrennou, [1956], yn ei lawysgrif, ynghyd â 'Building an aeroplane' mewn teipysgrif.

Jaffrennou, Gildas, 1909-2000

Llawysgrifau Mari Ellis,

Llawysgrifau yn dwyn y teitlau 'Llwch yn y llyfrau', a 'Y Ferch o Fawddwy' [a enillodd y goron yn Eisteddfod Powys 1952 ac a gyhoeddwyd fel Awelon Darowen gan Mari Headley yn 1965] .

Ellis, Mari, 1913-2015

David Davies (Dewi Eden),

Llawysgrif David Davies (Dewi Eden), Ardudwy a'i gwron sef y Cyrnol John Jones o Faesygarnedd, Cwmnantcol, ger Drws Ardudwy ym Meirion (1600-1660) , 1912 [a gyhoeddwyd yn 1914]. Y teitl gwreiddiol oedd 'Bywgraphiad neu Hanes y Cyrnol John Jones, o Faesygarnedd ...'. Ceir englynion coffa ganddo i Hedd Wyn a ddarllenwyd yn y cyfarfod coffa yn Nhrawsfynydd, 1917, a llythyr oddi wrth W. Lloyd Davies, 1927.

Davies, David, Dewi Eden, 1858-1929.

Papurau amrywiol Owen Rhoscomyl,

Papurau, [1907]-[1926], gan gynnwys ei ymateb mewn llythyr i adolygiad o'i lyfr The Matter of Wales [1913] yn y Manchester Guardian, a 'The adverse report of the Deputy Keeper of the Public Records, on the matter of a Welsh Record Offices'.

Vaughan, Arthur Owen.

Llun Meirion Roberts,

Darlun ohono gyda'r pethau oedd yn bwysig iddo yn ei fywyd o'i amgylch gan gynnwys ei gyhoeddiadau ac adeiladau arwyddocaol [a gyhoeddwyd yn Robert Owen a John Gruffydd Jones (golygyddion), Darlun o arlunydd : E. Meirion Roberts (Caernarfon, 1995) ac yn ddiweddarach yn Elwyn Edwards (golygydd), Bro a Bywyd D. Tecwyn Lloyd (Abertawe, 1997)].

Roberts, Meirion.

Teyrngedau,

Teyrngedau iddo mewn cylchgronau a phapurau bro, cerddi coffa iddo gan gynwys englynion gan Emrys Deudraeth [Roberts], ynghyd â llythyr, 1993, oddi wrth yr Academi Gymreig yn ymwneud â threfnu cyfarfod i'w goffáu. Ceir hefyd sgript 'Dydd Da, Lloyd' gan Aled [Lloyd Davies] ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol De Powys, Llanelwedd 1993, teipysgrif teyrnged iddo gan Nesta Wyn Jones, [Taliesin, 1992] ac adolygiad o Bro a Bywyd, 1998.

Roberts, Emrys.

Llythyrau at Gwyneth Lloyd,

Llythyrau, 1992-1993, gan gynnwys un yn ymwneud â sefydlu ymddiriedolaeth er cof am Tecwyn Lloyd, a llythyr oddi wrth Gwyn Thomas yn ymwneud â derbyn rhodd er cof amdano i'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Thomas, Gwyn, 1936-

Bro a Bywyd,

Papurau, [1968]-[1997], yn ymwneud â pharatoi'r gyfrol gan gynnwys manylion am y ffotograffau a'r llyfryddiaeth a ddefnyddiwyd, ynghyd â gwybodaeth am ei yrfa a'i gyhoeddiadau, [1968], yn Saesneg.

Results 41 to 60 of 173