Dangos 54 canlyniad

Disgrifiad archifol
Wales Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

The Old Theology,

Cyclostyle copy of 'The Old Theology', a sonnet by Prof. J. Young Evans, dated Christmas 1907.

Evans, J. Young (John Young), 1865-1941.

Hanesion ardal Tanygrisiau,

  • NLW MS 21707B.
  • Ffeil
  • [1885x1915].

Dros ddau gant o straeon digri a ffraeth o ardal Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, sy'n cyfeirio'n bennaf at fywyd y chwarel. Ceir hefyd sawl braslun, rhai ohonynt gan J. Kelt Edwards. = Over two hundred anecdotes and witticisms from the Tanygrisiau district, Blaenau Ffestiniog, mainly relating to quarry life. A number of sketches are also included, a few of which are by J. Kelt Edwards.
Ymddengys fel pe rhai dalennau wedi'u anodu yn llaw plentyn. = Some folios appear to be annotated in a child's hand.

Pregethau,

  • NLW MS 23885B.
  • ffeil
  • [18 gan., canol]-1807 /

Llyfr nodiadau yn cynnwys dwy bregeth ar gyfer y Pasg, [18 gan., canol]. Mae arnodiadau, mewn llaw ddiweddarach, yn dangos eu bod wedi eu pregethu yn Llanegryn, sir Feirionnydd, ar amryw o achlysuron rhwng 1791 a 1807. = A notebook containing two Easter sermons, [mid 18 cent.], in Welsh. Annotations, in a later hand, indicate that they were preached at Llanegryn, Merionethshire, on various occasions between 1791 and 1807.
Mae tair gweddi y tu mewn i'r cloriau, yn ôl pob tebyg yn llaw Robert Morgan, curad Llangelynnin, sir Feirionnydd. = Inside the covers are three prayers, apparently in the hand of Robert Morgan, curate of Llangelynnin, Merionethshire.

Morgan, Robert, fl. 1778-1784.

Llyfr Tonau William Jenkins,

  • NLW MS 23995A.
  • ffeil
  • [1818]-1852.

Llyfr tonau William Jenkins, Blaenbarthen, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, a enwir fel saer maen 50 oed yng Nghyfrifiad 1851. Cynhwysa'r gyfrol donau, a rhai anthemau, a nodwyd gan Thomas John, 1820-1825 (ff. 39-106), a William Jenkins, 1824-1852 (ff. 57-255), rai ohonynt yn dwyn geiriau. Rhwymwyd yn y gyfrol hefyd hyfforddwr cerddorol Saesneg printiedig o 32 tt., [1818x1820], yn dwyn y teitl 'The Vocal Preceptor' (ff. 17-33). = The tune-book of William Jenkins, Blaenbarthen, parish of Llangoedmor, Cardiganshire, who is named as a 50 year old mason in the Census of 1851. The volume contains hymn-tunes, and some anthems, noted by Thomas John, 1820-1825 (ff. 39-106) and William Jenkins, 1824-1852 (ff. 57-255), some accompanied by texts. Bound in the volume is a 32 pp. English printed musical instruction manual, [1818x1820], entitled 'The Vocal Preceptor' (ff. 17-33).
Nodir dyddiad wrth gofnodi mwyafrif y tonau, ac ychwanegwyd manylion ffynhonnell yn achlysurol, gan gynnwys y Parch. Daniel Davies, 1830-1832 (ff. 135, 148, 159-60, 163), ynghyd â rhai priodoliadau (ff. 56, 72, 162). Ceir mynegai i'r tonau ar ff. 1-12. = Accompanying dates are noted with the majority of tunes, and sources are occasionally noted, including the Revd. Daniel Davies, 1830-1832 (ff. 135, 148, 159-60, 163), together with some attributions (ff. 56, 72, 162). There is an index to the tunes on ff. 1-12.

The manor of Manordeilo, &c.,

Miscellanea, including printed matter relating to the court leet for the manor of Manordeilo, 1922; copies of two poems by Robert Roberts (Isallt); a 'collection of peculiar surnames', etc.

Hanes eglwysi'r Bedyddwyr yn Ynys Môn,

  • NLW ex 2427.
  • ffeil
  • 2005.

Hanes Eglwys Bethel (B), Rhosybol, 1841-2002, Eglwys Sardis, Dulas, (dathlu canmlwyddiant a hanner, 1983) gan y rhoddwr; ac Eglwys Bethania, Llaneilian (allan o'r Greal).

Atgofion Capten,

  • NLW ex 2486.
  • ffeil
  • 1935-1936.

Atgofion y Capten llong R. E. Jones, y Felinheli, 1935-1936.

Papurau Richard Hughes ( 'Co Bach'),

  • NLW ex 2504.
  • ffeil
  • [1948]-2002.

Sgriptiau dramâu'r BBC, c. 1948-1963, y bu Richard Hughes, awdur adroddiadau a sgriptiau doniol, yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys y sgriptiau radio 'Llywelyn Fawr', 1951, 'Gŵr Pen y Bryn', 1952, a 'Traed mewn cyffion, 1953, a sgript deledu, 1963, ynghyd â darnau a luniwyd ganddo yn iaith y Cofi (gweler Gruffudd Parry, Co Bach a Hen Fodan a Wil (Llanrwst, 2002)).

Hughes, Richard, Co Bach, 1905-1997.

Achos Brewer-Spinks,

  • NLW ex 2566.
  • ffeil
  • 1965.

Cyfrol yn cynnwys llythyrau o gefnofaeth yn ymwneud â safiad dau weithiwr ffatri ym Mlaenau Ffestiniog, wedi iddynt golli'u swyddi am siarad Cymraeg yn y gweithle yn 1965, a thorion o'r wasg yn ymwneud â'r achos. Enwyd yr achos ar ôl perchennog y ffatri sef Brewer-Spinks. = A scrapbook containing letters of support following the sacking of two factory workers in 1965 in Blaenau Ffestiniog for speaking Welsh in the workplace, and press cuttings relating to the case. It was named after the owner of the factory, Brewer-Spinks.

Papurau Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed Papers,

  • NLW ex 2753.
  • ffeil
  • 1998-2011.

Deunydd hyrwyddo, rhaglenni a phapurau eraill, 1998-2011, yn ymwneud â chystadleuaeth Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed a drefnir gan Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed. = Advertising material, programmes and other papers relating to the Young Composer of Dyfed competition organised by Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed.

Hanes Eglwys Seion (W), Pwllheli,

  • NLW ex 2777.
  • ffeil
  • 2012 /

Hanes Eglwys Fethodistaidd (Wesla) Seion, Pwllheli gan W. Arvon Roberts, 2012.

Roberts, W. Arvon.

Papurau'n ymwneud â Chapel Tan'rallt, Llanllyfni

Mae'r gyfres yn cynnwys Adroddiadau Blynyddol, 1942, 1975 ac 1977, Capel Tan'rallt, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, sef y capel a fynychwyd gan deulu Mathonwy Hughes, ynghyd â dwy gyfrol yn cynnwys gwaith gan ddisgyblion Ysgol Sul yr un capel, 1865 a 1979.

Deiseb y Gymraeg yn y Rhondda,

Papurau, 1924-1926, a gasglwyd gan y Parch. Fred Jones, Tal-y-bont (aelod o'r pwyllgor), yn ymwneud â'r Ddeiseb ar ddysgu'r Gymraeg yn Ysgolion Cymoedd Rhondda i Bwyllgor Addysg Rhondda, gan gynnwys torion o'r wasg.

Canlyniadau 41 i 54 o 54