Dangos 142 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Pennar Davies,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau, [1926]-1992, oddi wrth aelodau o'r teulu, cyfeillion a llenorion yn ymwneud â'i fywyd cyhoeddus, ei yrfa fel academydd a'i ddiddordebau ysgolheigaidd ac fel bardd a nofelydd. Ymhlith yr unigolion sy'n gohebu'n gyson mae J. Gwyn Griffiths, Nathaniel Micklem, Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. LInnenberg a Geoffrey Nuttall. Neillltuwyd ffeiliau unigol hefyd i'r pedwar olaf gan Densil Morgan (gw. cyfres PD2).

Griffiths, John Gwyn.

Gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth er anrhydedd,

Llyfryn yn cynnwys cyflwyniad y Parchedig Dr Gwilym H. Jones adeg ei anrhydeddu â'r radd gan Brifysgol Cymru yn 1987, ynghyd â thorion o'r wasg amdano, 1977-1983. Hefyd ceir llyfryn pan y'i derbyniwyd yn Gymrawd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1986.

Graddio,

Taflen ei seremoni graddio yn BA gydag Anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Lladin, 1932, ynghyd â rhestri o'r rhai fu'n llwyddiannus yn arholiadau Prifysgol Cymru, 1932-1934.

'Gweddi a myfyrdod',

Dyddiadur a ddefnyddiwyd i gofnodi gweddïau a myfyrdodau, [1958]-[1959], gan gynnwys gweddïau a draddododd fel Prifathro [Coleg Coffa Aberhonddu] yn 1959 yn rhydd yn y gyfrol.

Gwrthwynebydd cydwybodol,

Papurau, 1940, yn ymwneud â'i gais i gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol yn erbyn gwasanaeth milwrol, ynghyd â deunydd a dderbyniodd oddi wrth CBCO (Central Board for Conscientious Objectors), 1942-1954.

Llais y durtur,

Drafftiau teipysgrif o'r storïau a gyhoeddwyd yn y gyfrol, rhai yn anghyflawn, ynghyd â chyfieithiadau i'r Saesneg o 'Y llwy serch', 'Gazeles' a 'Pencampwr' (er cof am Freddie Welsh, cefnder i'w Dad) a thorion o'r wasg am y bocsiwr, [1972]. Ceir dwy stori ychwanegol 'Crachlenor' a 'Nei a Dyddgu'.

Llyfr cofnodion,

Llyfr cofnodion, 1960-1982, yn cynnwys cofnodion amrywiol pwyllgorau Coleg Coffa, Abertawe. ynghyd â llungopïau [gan Densil Morgan o Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1961-1980 (gyda bylchau)] yn rhestru staff a myfyrwyr yn Abertawe].

Llyfr cofnodion,

Llyfr yn cofnodi cyfarfodydd Senedd Colegau Aberhonddu ac Abertawe yn ddiweddarach, 1950-1970.

Llythyrau Clem C. Linnenberg,

Llythyrau, oddi wrth ei ffrind yn Washington. [Yr oeddent yn ffrindiau agos wedi iddynt gwrdd ym Mhrifysgol Iâl, 1936-1938, a bu'r Dr Linnenberg yn anfon rhoddion ariannol hael i'r teulu ar hyd y blynyddoedd].

Linnenberg, Clem C. (Clem Charles), 1912-

Llythyrau (Cyfnod Coleg Bala-Bangor),

Llythyrau gan gynnwys rhai oddi wrth Lewis Valentine, Aneirin Talfan Davies, Dom Hubert Dauphin, Euros [Bowen], ynghyd â llythyr oddi wrth Pennar Davies at J. E. Daniel, 1946. Ceir llungopïau [Densil Morgan] o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1946-1950], yn rhestru'r myfyrwyr yn Athrofa Bala-Bangor.

Valentine, Lewis.

Llythyrau Geoffrey Nuttall,

Llythyrau, 1966-1989, oddi wrth ei ffrind y gweinidog a'r hanesydd, o Lundain a Birmingham, yn trafod materion academaidd a'i gyhoeddiadau, ynghyd â throsiad Geoffrey Nuttall o gerdd Pennar Davies 'Moment'. Ceir hefyd ddyfyniadau o'r llythyrau hyn a rhai at Clem Linenberg wedi'u crynhoi gan [Densil Morgan].

Nuttall, Geoffrey F. (Geoffrey Fillingham), 1911-2007.

Llythyrau gohebwyr cyson,

Llythyrau, [1940]-1989, oddi wrth ohebwyr cyson sef Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. Linnenberg a Geoffrey Nuttall. Ceir nifer fawr o lythyrau oddi wrth y pedwar hyn hefyd o fewn cyfres PD1.

Canlyniadau 41 i 60 o 142