Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth 'Tryf[anwy', John Richard Williams], ym Mhorthmadog,

Ymddiheuro am ysgrifennu mewn pensel. Caiff feirniadaeth ar ei chân y tro nesaf. Mae ganddo gopïau o Cynfeirdd Lleyn ac yn eu gwerthu am 6/6 y copi. Fe'u cafodd hwy am bedwar swllt yr un ac y mae'n barod i'w gwerthu i KR neu eu disgyblion am y pris hwnnw. Mae ef yn gwella'n dda. Mae salwch mawr yn y dref - 200 yn sâl y diwrnod cynt a llawer yn marw. Gofyn i KR frasgyfieithu nodiadau Llydaweg iddo. Ar gefn y llythyr ceir cerdd gân KR ynglyn â marwolaeth ei brawd, David, yn y Rhyfel Mawr: "Atgof am Ddei". Ychwanegwyd pennill gan 'Tryfanwy'. Gw. Dafydd Ifans, art.cit.

Llythyr oddi wrth David George Williams, yn Ystalyfera,

Diolch i KR am y fraint o gael darllen ei stori. Mae'n gweld ei bod wedi cymryd lle go amlwg yn Y Darian ac ym mywyd cyhoeddus Aberdâr. Testun da ar gyfer erthygl fyddai ynganiad cywir rhai geiriau Cymraeg. Ffurfiwyd cylch yn ddiweddar yn Ystalyfera i astudio barddoniaeth Gymraeg. Buwyd yn astudio "Madog", T Gwynn Jones a chywydd "Yr Eira" Dafydd ap Gwilym. Y tro nesaf byddant yn trafod cywydd "Y Niwl". Rhaid i bob un gyfansoddi englyn bob wythnos er mwyn cyfarwyddo â'r cynganeddion. Dyfynna nifer o englynion. Nodyn ar John Hugh y Rhyddfrydwr. Anghyflawn.

Llythyr oddi wrth J. C. W[illiams], Plaistow, Llundain,

Diolch am lythyr. Cafodd lawer pwl o hiraeth. Mae wedi bod yn sefyll arholiad y Central Midwives Board ac wedi bod yn llwyddiannus. Mae rheolau'r ysbyty yn gaeth iawn. Mae'n mynychu capel Cymraeg Stratford bron bob Sul. Gwelodd un claf yn dioddef o'r gwahanglwyf. Sôn am gleifion o Rwsia a'r Is-Almaen hefyd. Mae trigolion y cartref nyrsus yn Dorïaidd ac Ucheleglwysig ac yn elynion i Lloyd George. Oddi allan i'r ysbyty y mae yna lawer o dlodi a diweithdra.

Llythyr oddi wrth D[afydd] E[lis], [Penyfed, Corwen], CPGC Bangor,

Nid oes llawer o awydd gweithio arno. Bu'n darllen rhai o gywyddau yr hen feirdd. Mae un cwpled wedi aros ar ei gof:. "Ofer yw byw yn y byd. Un ni welo'i anwylyd". Bu wrth y pentan dros y Pasg heb fynychu unrhyw oedfa. Ond bu yn y dre yn gwrando ar gôr yn perfformio "The Creation". Mae R. J. Jones yn dod i aros atynt dros y Sul gan ei fod yn pregethu yn eu capel hwy. Bydd yn disgwyl bod KR wedi ysgrifennu "haid o straeon" ar gyfer ei ddifyrru yn ystod y tymor dilynol. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 159-60.

Llythyr oddi wrth R. W. Lloyd-morath, Casglwr Trethi, yn Y Rhyl,

Nid yw KR wedi gwneud gwell awgrymiadau ar sut i glirio ei dyled. Mae'n deall erbyn hyn fod arni £580 o dreth pellach yn dilyn marwolaeth ei gwr. Ni all y sefyllfa bresennol barhau felly. Rhaid iddi anfon hanner y tâl y mae i'w dderbyn gan y BBC ddiwedd y mis. Rhaid clirio'r ddyled yn llawn erbyn 24 Medi fan bellaf. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth David Thomas, ym Mangor,

Anfon torion o ysgrifau KR a oedd ganddo yn y ty ati. Ni chafodd ardaloedd y chwareli erioed ddisgrifiad mor fyw o fywyd eu gwerin. Hanes ei theulu a'i bywyd yn Rhosgadfan sydd fwyaf diddorol, er bod hanes Ysgol Caernarfon a Choleg Bangor yn ddifyr hefyd. Mae'n gweithio ar fywyd a gwaith [R.] Silyn [Roberts] ar y pryd.

Llythyr oddi wrth Caradog [Prichard], Llundain NW8,

Diolch i KR am ddarllen pennod o'i waith. Wedi ei llythyr addfwyn mae'n barod i fynd ymlaen i ysgrifennu mwy. "Y syniad y tu ôl iddi yw myfyrdod brodor wedi dychwelyd i'w fro ac yn ail-fyw ei blentyndod mewn un daith o ychydig oriau ar noson ola leuad yn yr hen fro". Mae teipio'n flinder iddo. Hoffai anfon y gwaith ati mewn llawysgrifen fesul dwy bennod ar y tro. Nid yw o bwys ganddo os cyhoeddir hi ai peidio, ond mae'n benderfynol o'i gorffen. Mae'n falch i KR weld ei fam yn ei dyddiau olaf. Penderfynodd mai lol a ffug fyddai blodau ar y bedd, ond cafodd lythyr yn ei swyddfa oddi wrth hen wraig o Fethesda yn dilyn yr angladd mewn llaw grynedig. Dywedai mai hi oedd morwyn briodas ei fam. Yr oedd yn un o'r llythyrau prydferthaf a gafodd erioed. Amgaeodd lun ohono ef a'i ddau frawd. Yr oeddent wedi cyfnewid llun eu plant. Amgaeodd hefyd rodd o chweugain iddo. Atebodd gan ddweud mai syniad prydferth fyddai iddi roi tusw o flodau ar fedd ei fam a dychwelodd yr arian iddi.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Byddai'n well ganddo beidio ag adolygu drama Thomas Parry [Llywelyn Fawr]. Fe'i darllenodd hi ddwywaith ond gan fod ganddo yntau ddrama ar yr un thema byddai'n fwy moesgar iddo dewi. Da ganddo glywed bod gan KR ddrama radio wedi ei gorffen. Methu â deall pam na chred KR y byddai ef yn ei hoffi. Gobeithia ei chlywed cyn bo hir.

Results 41 to 60 of 2413