Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Halsingod

  • NLW MS 14579A.
  • Ffeil
  • 1730-1733

Casgliad o naw deg dau o halsingod o ardal Llandysul, Dyffryn Teifi, wedi eu copïo gan John Evan rhwng 1730 a 1733. Cyfansoddwyd y mwyafrif o'r halsingod rhwng 1654 a 1722 gydag ychydig o enghreifftiau cyfoes ar ddiwedd y gyfrol. = A collection of ninety-two carols of a religious or moral nature ('halsingod') from the Llandysul, Teifi Valley, area, transcribed by John Evan between 1730 and 1733. The majority of the poems were composed between 1654 and 1722 with a few contemporary examples included at the end of the volume.
Priodolir y cerddi i'r awduron canlynol: David Davies [?ficer Bridell, sir Benfro], James Richard, David Lewis [?Llanllawddog], Sampson Lloyd, Evan Griffith, Syr John Owen, David Jones, David Evanes [sic], John Hughes, John Evan, a'r 'hen Glark Einion' (ceir cyfeiriadau at rai o'r unigolion hyn, ynghyd â rhestr o halsingod eraill a gyfansoddwyd ganddynt, yn Geraint Bowen, 'Yr Halsingod', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, (1945), 83-108). = The poems are attributed to the following authors: David Davies [?vicar of Bridell, Pembrokeshire], James Richard, David Lewis [?Llanllawddog], Sampson Lloyd, Evan Griffith, Sir John Owen, David Jones, David Evanes [sic], John Hughes, John Evan, and 'yr hen Glark Einion' (references to some of these individuals, together with a list of other 'halsingod' composed by them, are in Geraint Bowen, 'Yr Halsingod', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, (1945), 83-108).

Evan, John, fl. 1730-1733.

Hanes Cymry Birmingham

  • NLW MS 14340B.
  • Ffeil
  • 1905-1933

Llyfr nodiadau, 1905-1933, y Parch. J. Roberts-Evans, Birmingham, yn cynnwys nifer o ysgrifau yn ymwneud a hanes y Cymry, ac yn benodol y Methodistiaid Calfinaidd, yn ardal Birmingham. = Notebook, 1905-1933, of the Rev. J. Roberts-Evans, Birmingham, containing various texts relating to the history of the Welsh, in particular the Calvinistic Methodist causes, in the Birmingham area.
Mae'r gyfrol yn cynnwys adysgrif, [1906], o hanes y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ym Mirmingham gan Evan Thomas, Handsworth (gweler NLW MS 18151A am y llawysgrif gwreiddiol) (ff. 1-92, rectos yn unig); darlith gan J. Roberts-Evans, 1906, ar y pwnc 'Birmingham Cymreig o 1800 i 1850' (ff. 5 verso-40 verso, versos yn unig); ac adysgrifau, [?1920au], o gofnodion cyfarfodydd Dosbarth y Trefi Seisnig o Gyfarfod Misol Trefaldwyn Isaf, 1885-1915 (ff. 41 verso-58 verso, versos yn unig). Ceir hefyd ddeunydd yn ymwneud â Dr John Birt Davies, [c. 1905] (tu mewn i'r clawr blaen), Humphrey Lloyd, Bala, 1905 (f. 106 verso, tu mewn i'r clawr cefn), a'r Methodistiaid Calfinaidd yn Walsall, 1926-1933 (ff. 58 verso-63 verso, versos yn unig). = The volume contains a transcript, [1906], of a history of the Welsh Calvinistic Methodists in Birmingham by Evan Thomas, Handsworth (see NLW MS 18151A for the original manuscript) (ff. 1-92, rectos only); a lecture by J. Roberts-Evans, 1906, entitled 'Birmingham Cymreig o 1800 i 1850' (ff. 5 verso-40 verso, versos only); and transcripts, [?1920s], of minutes of meetings of the English Towns District of the Lower Montgomeryshire Presbytery, 1885-1915 (ff. 41 verso-58 verso, versos only). Also included is material relating to Dr John Birt Davies, [c. 1905] (inside front cover), Humphrey Lloyd, Bala, 1905 (f. 106 verso, inside back cover), and the Calvinistic Methodists in Walsall, 1926-1933 (ff. 58 verso-63 verso, versos only).

Roberts-Evans, J. (John), d. 1939.

Hanes teulu

Gwybodaeth achyddol o Gyfrifiad 1891 a 1911, adroddiad o'r wasg am ddadorchuddio plac iddo ar ei gartref yn 2004, ac ysgrif ‘Miss Jones (Miss Jôs)’ am fam John Eilian gyda nodiadau esboniadol gan [y rhoddwr].

Hanes teulu a personalia

Torion o ysgrifau coffa i Mrs Jane Eleanor (Nellie) Davies, gwraig Tegla Davies a fu farw yn 1948 a threfn y gwasanaeth, copi Saesneg o ewyllys Tegla Davies, ‘nodiadau teuluaidd’ a chopïau o dystysgrifau geni, priodi a marwolaeth.

Hanes yr achos Methodistaidd yn Pendref

  • NLW MS 16346C.
  • Ffeil
  • 1913

Llawysgrif 'Hanes yr achos Methodistaidd yn Pendref' gan R[obert] C[adwaladr] Evans, wedi ei ysgrifennu ar gyfer Eisteddfod y Groglith, Dolgellau, 1913, o dan y ffug-enw 'Un Mewn Brys'. = A manuscript history of the Methodist cause in Pendref, Dolgellau, written by R[obert] C[adwaladr] Evans and submitted at Dolgellau Eisteddfod, 1913, under the pseudonym 'Un Mewn Brys'.
Mae'r llawysgrif yn adrodd hanes cynnar Methodistiaeth yn Nolgellau, sir Feirionnydd (ff. 1-3), a hanes yr Ysgol Sul a chapel a sefydlwyd ym 1887 ym Mhendref fel cangen o Gapel Salem (ff. 4-52). Bu'r awdur yn athro yn yr Ysgol Sul ers 1898. = The manuscript relates the early history of Methodism in Dolgellau, Merionethshire (ff. 1-3), and the history of the Sunday School and chapel established in 1887 at Pendref as a branch of Capel Salem (ff. 4-52). The author became a teacher at the school in 1898.

Evans, R. C. (Robert Cadwaladr), -1922.

Hawys,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y ceiliog dandi' gan Geraint Lloyd Owen, i'r gainc 'Hawys' gan Mona Meirion.

Hedydd yn yr haul

Rhan o'r sgript radio (comisiwn, 1965) a newidiwyd pan gafodd ei chyhoeddi yn 1969, ynghyd â throsiad i'r Saesneg: 'The gander and the lark’ (poem for voices and music), addasiad T. Glynne Davies, 1970, o ddetholiad o’i gerdd ‘Hedydd yn yr haul’. Fe’i defnyddiwyd gan ei fab Gareth Glyn ar gyfer gosodiad cerddorol, 1971, tra’n astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Merton, Rhydychen.

Hiraethog,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Pen y Cei' gan Trebor Roberts (Porthmadog), i'r alaw 'Hiraethog' gan Haydn Morris. Braslun mewn llawysgrif.

Holiaduron; datganiadau i'r wasg; yswiriant; rhoddion; Plas Pistyll

Papurau amrywiol, 1988-1992, yn cynnwys holiaduron wedi ei chwblhau, datganiadau i’r wasg, ac anfonebau; a gohebiaeth a phapurau yn ymwneud ag yswiriant ceir, rhoddion, a nawdd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â prynu a gwerthu Plas Pistyll (1989-1992), a chopi o Adroddiad y Bartneriaeth Addysg Busnes Gwynedd (1991).

Hunangofiant Gwas Ffarm

Llawysgrif ddrafft, 1925, o 'Hunangofiant Gwâs Ffarm' gan ac yn llaw Cybi, gydag ychydig gywiriadau ganddo (ff. 1-110, rectos yn unig). = Autograph draft manuscript, 1925, of an autobiographical composition 'Hunangofiant Gwâs Ffarm' by Cybi, with a few corrections by the author (ff. 1-110, rectos only).
Cynhwysir tudalen cynnwys (f. iii). Cynigiwyd y gwaith yn gystadleuol yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 (gw. y nodyn ar f. i verso). = A contents page is included (f. iii). The work was submitted for competition at the Pwllheli National Eisteddfod, 1925 (see note on f. i verso).

Cybi.

Huw Puw,

Trefniant Gilmor Griffiths o 'Huw Puw', ar gyfer pedwar llais (S.A.T.B.), yr alaw allan o gasgliad J. Glyn Davies.

Hwiangerddi (ix)

Mae’r ffeil yn cynnwys bocs mynegai glas ar yr Hwiangerddi sydd mewn pedwar cyhoeddiad y cyfeirir atynt fel (HH, HW, HC, YH). Trefnwyd fesul hwiangerdd A-Y (ff. 1-342) gan nodi enw'r hwiangerdd, y cyhoeddiad a rhif tudalen, brawddeg gyntaf yr hwiangerddi ac weithiau’r pennill cyfan.
Y pedwar cyhoeddiad y gyfeirir atynt yw:
HH - J. Ceiriog Hughes, ‘Hen Hwian-gerddi’, Oriau’r Haf (Wrecsam: Hughes a’i Fab, [1870]),
HW - Hwiangerddi'r Wlad (Eluned Bebb) Llyfrau'r Dryw. Gorff 1942.
HC - Hwian Gerddi Cymru Casglwyd gan Owen M Edwards, Argraffwyr R E Jones a'i frodyr Conwy (120 o eitemau) Darluniau gan Winifred Hartley (Lowri Wynn) Llanuwchllyn Ac Owen.
YH - Yr Hwiangerddi casglwyd gan Owen M Edwards . Edwards, O. M. (1911), Yr Hwiangerddi (Llanuwchllyn: Ab Owen).

Hwyl ar y gân,

Hwyl ar y gân, 7 o ganeuon i blant, gan Gilmor Griffiths, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Rhagfyr 1984. Cynnwys: Wedi'r gaeaf; Breuddwydio; Gwylanod; Lliwiau'r Hydref; Y deffro; Cwymp y dail; Santa bach.

Hwyrgân yr Hydref,

Copi sgôr o 'Hwyrgan yr Hydref' (Autumn Nocturn) i Euphonium neu glarinét B♭ gyda chyfeiliant. Hefyd brasluniau ar gyfer offerynnau pres. Sgôr o drefniant William (Bill) Hind, Gorffennaf 1981[82].

Canlyniadau 581 i 600 o 1033