Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Y Môr mawr,

Sgôr mewn llawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths geiriau gan Leslie Harries. Unsain gyda chyfeiliant.

Y Pren afalau,

Copïau o sgôr (anodedig) o 'Y Pren afalau', ar gyfer unawd, gan Gilmor Griffiths, geiriau gan I. D. Hooson. Perfformiwyd am y tro cyntaf gan y Soprano, Jean Gwynn, Nantglyn.

Ymadawiad Arthur,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Ymadawiad Arthur', gan Gilmor Griffiths, geiriau T. Gwynn Jones. Darn adrodd i gyfeiliant telyn o bosib.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod ac agenda Corff Llywodraethol y Ganolfan; memoranda; cofnodion cyfarfod Uwch Gynrychiolwyr y Ganolfan; adroddiad ariannol 1983-1984; manylion am cais y Ganolfan i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion; a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol, oddi wrth Russell Davies; J. E. Caerwyn Williams; Emrys Wynn Jones; Dafydd Bowen; a Peter Swinnerton-Dyer.

Rhaglen Cymuned y ‘Manpower Services Commission’

Papurau, 1981-1984, yn ymwneud â Rhaglen Cymuned y ‘Manpower Services Commission’, yn cynnwys ffurflenni cynigion nawdd (1981; 1984); memoranda (1982-1983); copi o gytundeb y Rhaglen Cymuned (1981); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod y Rhaglen (1981-1982), yn cynnwys llythyrau cysylltiedig oddi wrth T.A. Owen; H. Bowen; Gwyneth A. Evans; G.I. Evans; O.R. Jones; Olwen Daniel; J.K. Heald; a R.C.T Fletcher.

Cofnodion cyfarfodydd

Agenda a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Gwaith y Ganolfan, (1979-1980), yn cynnwys adroddiad ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams (1980); agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol, (1979-1980 a 1983-1984), yn cynnwys Adroddiadau’r Llyfrgellydd; cofnodion cyfarfod yr Uwch Gynrychiolwyr (1983); memoranda yn trafod y cais i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion, (1984); cyfarwyddiadau i wneud cais am grant gan y Llyfrgell Brydeinig (1979); rhestr o gyhoeddiadau a phrisiau, [1979]; copi o’r catalog ‘Books in Print from Ireland’ (1980); adroddiad ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams, (1984); rhestr o gyhoeddiadau a phrisiau, ([1980x1984]); a llythyrau oddi wrth Brian Howells (1979); Gareth Owen (1983) ac Emrys Wynn Jones (1984).

Papurau W. Berllanydd Owen

  • GB 0210 BERWEN
  • Fonds
  • 1929-1984

Papurau Berllanydd, [1929]-1984, yn cynnwys dyddiaduron, 1929-1933,1935-1970, 1982-1984, papurau personol yn cynnwys copïau o'i ewyllys,1981,nodiadau ar gyfer pregethau, anerchiadau crefyddol a gwaith bugeiliol, barddoniaeth a deunydd eisteddfodol, torion papur newydd a deunydd printiedig. = Papers of Berllanydd, [1929]-1984, comprising diaries, 1929-1933, 1935-1970, 1982-1984, personal papers including copies of his will, 1981, notes for sermons, religious addresses and pastoral work, poetry and eisteddfod material, newspaper cuttings and printed material.

Owen, W. Berllanydd (William Berllanydd), 1899-1984.

Ffarwel i ddociau Lerpwl,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Ffarwel i ddociau Lerpwl', trefniant gan Gilmor Griffiths ar gyfer lleisiau merched neu blant gyda chyfeiliant. Brasluniau ar y cefn.

Frühlingslied ( Cân y Gwanwyn ),

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Frühlingslied' (Cân y Gwanwyn) gan Mendelssohn, trefniant Gilmor Griffiths, ar gyfer deilais â chyfeiliant, geiriau Almaeneg gan Sheila Williams, geiriau Cymraeg gan Norman Williams.

Y Deffro,

Llungopi o sgôr mewn llawysgrif o 'Y Deffro' ar gyfer unsain, cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Un ar gyfer llais gyda chyfeiliant, ac un ar gyfer y llais yn unig.

Yr Hydref (Lliwiau'r Hydref),

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi gyda rhai newidiadau, o 'Yr Hydref' ar gyfer unsain, cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Defnyddi'r teitl ychwanegol 'Lliwiau'r Hydref'.

Y Ford Gron

Llythyrau, 1920 -1932, 1984, at John Eilian oddi wrth lenorion a gwleidyddion amlwg yn y 1920au a 1930au, llawer ohonynt yn ymateb i'r cylchgrawn.

Results 681 to 700 of 59614