Print preview Close

Showing 173 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd, file
Advanced search options
Print preview View:

Tystysgrifau,

Tystysgrifau, 1914-1992, gan gynnwys tystysgrif geni Tecwyn Lloyd, 1914, tystysgrifau priodas, 1955 a 1984, tystysgrif marwolaeth Frances Lloyd, 1980, a Tecwyn Lloyd, 1992.

Adroddiadau ysgol,

Ei adroddiadau ysgol tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bala, 1927-1933, ynghyd ag adroddiad a dderbyniodd yn Ysgol y Cyngor, Llawrybetws, 1927.

Tystysgrifau,

Tystysgrifau, 1927-1938, gan gynnwys rhai arholiadau'r Ysgol Sul, am ennill gwobrau llenyddol yn Eisteddfod Myfyrwyr Colegau Bangor, 1937, ac am lwyddo mewn arholiad cwrs ymarfer dysgu, 1938.

John Lloyd 1886-1970,

Teyrnged brintiedig y Parch. Robin Williams i dad D. Tecwyn Lloyd (Llandysul, 1970), ynghyd â thaflen ei angladd, 1 Mehefin 1970. Ceir hefyd anerchiad John Lloyd, 'Y Beibl yng ngolau beirniadaeth ddiweddar', ar gyfer cyfarfod misol yn Nwyrain Meirionnydd, mewn llyfr nodiadau, [1927]-[1928], yn llaw ei fab. Ychwanegwyd nodyn cefndirol ganddo yn 1976. Ceir hefyd goeden deulu Teulu Lloydiaid Penybryn yn cynnwys pedair cenhedlaeth o deulu John a Winifred Lloyd.

Williams, Robin, 1923-

Ymweliadau tramor,

Papurau'n ymwneud â'i ymweliad ag Iwgoslafia, Medi 1976, gydag Undeb y Llenorion, taith Côr Meibion Bro Glyndwr i'r Iseldiroedd, 1988, a thaith i Fflandrys i goffáu Hedd Wyn, 1992. Ceir ei basbort hefyd, 1958-1968.

Papurau arholiad,

Papurau a osodwyd gan Fwrdd Canol Cymru, 1923; papurau arholiad Prifysgol Cymru, 1934-36, ynghyd â chardiau aelodaeth cymdeithasau, taflen ei seremoni raddio yn BA, 1937 a rhaglen, 11 Gorffennaf 1990, y seremoni pan y'i dyfarnwyd yn Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor, a thoriad o'r Cyfnod yn cofnodi'r achlysur.

Papurau Coleg,

Ei draethawd 'Yr elfen bersonol yng Nghanu Taliesin, Llywarch Hen a'r Canu Gwirebol', 1936, ynghyd â phapurau eraill o'i ddyddiau coleg fel bwydlenni Cinio'r Gymdeithas Gymraeg, 1936-1937, wedi'u llofnodi gan y rhai oedd yn bresennol.

Traethawd MA,

Traethawd: 'Natur a datblygiad y dehongliad o Gymru gan awduron Eingl-Gymreig a beirniadaeth lenyddol', Prifysgol Lerpwl, 1961 ynghyd â thaflen y seremoni, Mehefin 1961.

'Taith i'r Eidal',

Llyfr nodiadau'n croniclo'i daith i'r Eidal, 26 Awst-23 Medi 1948, a llythyr, 1952, oddi wrth T[h]om[as] [Jones], ynghyd â chopi teipysgrif 'Taith i'r Eidal'.

Jones, Thomas, 1910-1972.

Llythyrau Rhufain,

Llythyrau a anfonwyd ato tra oedd yn astudio yn yr Eidal gan gynnwys llythyrau o Rufain, rhai oddi wrth ei Dad, ynghyd â llythyrau llawer mwy diweddar. Ymhlith y gohebwyr mae R. O. F. Wynne, Claude [Gildas Jaffrennou] (6), Emyr Wyn Jones, G. J. Williams (2), H. I. Bell, Bobi Jones (2), Meredydd Evans (3), Alun Llywelyn-Williams, Henry E. G. Rope (2), Gwyn [Erfyl] (2), [O.] Llew Owain, T[homas] Parry (2), I[orwerth] P[eate], Meuryn, [J]. Gwyn [Griffiths] (3), Kate Roberts, Aneirin Talfan Davies, W. J. Gruffydd, T. Gwynfor Griffiths, Brenda Chamberlain, Islwyn [Ffowc Elis] (2), Raymond Garlick, a Caradog Prichard.

Wynne, R. O. F. (Robert Oliver Francis), 1901-1993

'Cymry alltud y Gwrthddiwygiad',

Darlith a draddododd wrth Gymrodorion yr Wyddgrug, Ionawr 1950, ynghyd â manylion, 1951, am amodau'r ysgoloriaeth a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Eidalaidd yn Llundain, adroddiad am ei gyfnod astudio a deunydd mewn Eidaleg gan gynnwys tocynnau darllen Llyfrgell ac Archifau'r Fatican, 1952.

Darlithiau,

' Welsh Medieval Poetry' a draddododd i'r Venerable English College, Via Monserrato, Rhufain, 7 Chwefror 1952, a 'The Contemporary Quandry in the Arts' i Goleg Beda, Rhufain [a gyhoeddwyd yn The Beda Review, cyfrol 7, rhif 2, Medi 1952].

Results 61 to 80 of 173