Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

Llythyrau K-P

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth Abbe M. Klerg (4), Roparz Le Mason (6), Saunders Lewis (6), O. M. Lloyd (1), Per Loisel (1), Joseph-Marie Loth (1), Per Mocaer (4), Olivier Mordrel (2), Owain Llew Owain (1), John Dyfnallt Owen (1), Y Barnwr Dewi Watkin Powell (1), Caradog Prichard (1), Y Barnwr Alun Pugh (1) yn ogystal ag un llythyr Ffrangeg gan J. Nemo, mam Roparz Hemon.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Llythyrau R-V

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth Prosser Rhys (2), Gomer M. Roberts (1), a Sarnicol (1).

Llythyrau gan unigolion anhysbys

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau yn trafod cyhoeddiadau Bebb a'i waith gyda'r capel yn bennaf. Nid yw'r llythyrau hyn wedi eu harwyddo, neu mae'n anodd darllen y llofnodion os cawsant eu harwyddo. Hyd y gellir barnu o'r cynnwys, ymddengys mai cyfeillion, teulu a chydweithwyr yw'r prif ohebwyr.

Adroddiadau ac areithiau

Mae'r gyfres hon yn cynnwys adroddiad ar yr Ysgol Sul, [?1943], ei 'araith etholiadol' ar gyfer taflen Etholiad Cyffredinol 1945, ac araith Bebb yn llywydd y dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 1948.

'Yr Ysgol Sul a'r Beibl'

Mae'r ffeil yn cynnwys copi llawysgrif o adroddiad yn dwyn y teitl 'Yr Ysgol Sul a'r Beibl' a oedd, cyn hynny, yn 'Adroddiad Pwyllgor y Gogledd am yr Ysgol Sul'. Ysgrifennwyd hwn yn yr un cyfnod â'i lyfryn Yr Ysgol Sul, a gyhoeddwyd yn Llandybïe yn 1944, er ei fod yn gwbl wahanol.

Cyfieithiadau o gerddi

Cyfieithiadau Cymraeg o gerddi gan y bardd Llydaweg Yann-Ber Kalloc'h wedi eu dyddio rhwng 1910 a 1914; 'Ar ein deulin', 'Yn Llydaw mae fy Nghalon', 'Barn Fi' (2), 'Priod y Bardd' a 'Gweddi Mewn Lleoedd Tywyll'.

Calloc'h, Yan Ber, 1888-1917

Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru 1485-1603

Copïau llawysgrif a theipysgrif o Cyfnod y Tuduriaid 1485-1603. Ymddengys o wynebddalen y copi teipiedig (LH2/5) fod Bebb wedi cynnig, neu yn bwriadu cynnig, y gwaith mewn cystadleuaeth eisteddfodol. Fe gyhoeddwyd y gwaith yn Wrecsam yn 1939.

Llenyddol

Llawysgrif a phroflenni yn ymwneud â dau o weithiau creadigol Ambrose Bebb.

Results 61 to 80 of 114