- 25.
- File
- 1940-1972.
Cerddi eisteddfodol gan gynnwys englyn 'Y Brithyll', Eisteddfod Myfyrwyr Cymru 1940, cerddi a ddanfonwyd i eisteddfodau lleol, 1957-72 a heb ddyddiad, ac i'r Eisteddfod Genedlaethol, 1964-72.
Cerddi eisteddfodol gan gynnwys englyn 'Y Brithyll', Eisteddfod Myfyrwyr Cymru 1940, cerddi a ddanfonwyd i eisteddfodau lleol, 1957-72 a heb ddyddiad, ac i'r Eisteddfod Genedlaethol, 1964-72.
Cerddi amrywiol, y mwyafrif heb ddyddiad, a gyfansoddwyd ar achlysuron arbennig gan gynnwys englyn i Syr Geraint Evans; 'Cofio Jennie [Eirian Davies]'; 'Cyfarchion i Ysgol Tegryn (ar ei phen-blwydd yn gant oed)'; 'Cywydd: Mawl i Forgannwg Ganol'; 'Cywydd Cyfarch (i'r Dr W. Emrys Evans, wrth iddo ymddeol o fod yn Drysorydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)'; 'Y Gwladgarwr (Er Cof am D. J. Williams)' a gyhoeddwyd yn ei gyfrol deyrnged; 'Cyfarchion i Brinli - yr Archdderwydd Etholedig'; 'Cyfarchion Pen-blwydd (i 'Ap Llysor' [W. R. P. George] yn 80 oed)'; 'Cywydd Coffa i'r diweddar Athro Stephen J. Williams'; 'Cywydd Croeso i Eisteddfod yr Urdd, Taf Elai', [1985]; 'Cywydd Croeso i Wyl Gerdd Dant Bro Ogwr 1995'; a 'Cywydd Cyfarch i Tegwyn Jones ar ei ymddeoliad', [1996].
Tystysgrifau WRN am ennill mewn Eisteddfodau Cenedlaethol, 1956-69; ac am ennill ar y salm gyfoes yng Ngwyl Gerdd Dant Pwllheli a'r Cylch 1988; a'r salm foliant i'r dysgwyr, Gly Gerdd Dant Bangor 1990; ynghyd â thystysgrif wedi iddo gael ei dderbyn i Urdd Derwydd yn 1969.
Rhaglen 'Beirdd y Fro' a baratowyd gan WRN ar gais pwyllgor Barddas ar gyfer y Babell Lên yn [Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986].
Papurau'n ymwneud â chyfansoddwyr 'Hen Wlad fy Nhadau' gan gynnwys llungopi o erthygl WRN "Cwm Rhymni yn 'Hen Wlad fy Nhadau'" [Barn, Gorffennaf/Awst, 1990], a phosteri'r darlithiau 'Evan a James James a'r Anthem Genedlaethol' a draddodwyd ganddo ym Mhorth-cawl, 1989, a 'The Rhymney Valley and the National Anthem of Wales' ym Margoed, 1990.
Rhai o'r erthyglau, heb ddyddiad, a ymddangosodd ym mhapur bro Yr Hogwr (Bro Ogwr, rhifyn cyntaf yn 1987). Bu WRN yn aelod o'r bwrdd golygyddol.
Allbrintiau, heb ddyddiad, oddi ar brosesydd geiriau WRN a brintiwyd ar ôl ei farwolaeth, gan gynnwys atebion i lythyrau, cerddi, adolygiadau ac ysgrif 'Gwasg Gomer yn y pum a'r chwe degau'.
Papurau amrywiol gan gynnwys sgriptiau ar gyfer 'Trem' neu 'Cywain', 1963 a heb ddyddiad; beirniadaeth anghyflawn John Gwilym Jones ar y fedal ryddiaith yn [Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1980]; traethawd coleg WRN yn ymdrin â rhesymeg mewn athroniaeth; 'Lleisiau'n Galw', cynllun WRN ar gyfer y Gwasanaeth Cenhadol; erthygl 'Y Busnes Golygu 'ma', Llais Llyfrau, heb ddyddiad; ac ysgrif 'Newyddiaduraeth Gymraeg a phroblemau cyhoeddi', heb ddyddiad.
Papurau amrywiol gan gynnwys copïau o lythyrau, 1972-3, oddi wrth WRN yn awgrymu enwau Cymraeg ar strydoedd stad newydd o dai ym Mhorth-cawl; ysgrif 'Beth y carwn ei weld yn 1994'; ac erthyglau ar 'Hen Benillion' a ymddangosodd yn Barn, heb ddyddiad.
Papurau amrywiol, heb ddyddiad, gan gynnwys traethawd anghyflawn 'Athrylith Iolo Morganwg' gan WRN, ynghyd ag atebion papur arholiad ar ddiwinyddiaeth ac ysgrif ar y gair 'Hnera' o dafodiaith sir Benfro.
Teipysgrif 'Cyfrol Goffa i weinidogion yr Annibynwyr Cymraeg a fu'n gwasanaethu yng nghyfundeb De Morgannwg hyd 1939' (teipiwyd gan J. Seymour Rees).
Papurau'n ymwneud â pharatoi'r gyfrol deyrnged Dr John Hefin Owen, 1927-1989. A man for all people. Teyrnged i'w fywyd a'i wasanaeth (Abertawe, 1990), ynghyd â chlawr y llyfr; llungopi o goflyfr ei dad Owen Owen, Muriau Isaf, Trawsfynydd, 1899; a llyfryn Dr John Owen Holiday Trust for Sick Children, yn Ninbych-y-pysgod (1994).