Showing 159 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File
Print preview View:

Gweithdai eraill

Deunydd yn ymwneud â gweithdai ar gyfer plant ac oedolion a gynhaliwyd gan Menna Elfyn, un a'i ar ei phen ei hunan neu ar y cyd â beirdd neu lenorion eraill, rhai ohonynt dramor dan nawdd y Cyngor Prydeinig, gan gynnwys llyfrau nodiadau (yn bennaf ar gyfer cyrsiau yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy), rhaghysbysebion am gyrsiau, cynlluniau ac amserlenni dysgu, enghreifftiau o waith myfyrwyr ac adborth myfyrwyr, gohebiaeth, torion o'r wasg a gwybodaeth gefndirol.

Darlithoedd ac anerchiadau

Deunydd yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau a draddodwyd gan Menna Elfyn yng Nghymru, Prydain a thu hwnt mewn gŵyliau, prifysgoliaon, cymdeithasau ac achlysuron eraill ar destunau megis llenyddiaeth, menywod a Chymru a'r iaith Gymraeg, gan gynnwys copïau sgriptiau drafft a theg, nodiadau, gohebiaeth a thorion o'r wasg.

Rhaglenni teledu: The Slate/Dim Ond Celf

Llythyr at Menna Elfyn oddi wrth gwmni darlledu'r BBC a sgript a anfonwyd at Menna Elfyn trwy gyfrwng ebost, ill dau'n ymwneud â chyfraniad Menna Elfyn at raglenni The Slate a Dim Ond Celf.

Drama deledu: Pan Ddêl Mai

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama deledu Pan Ddêl Mai, gan gynnwys llythyr oddi wrth Menna Elfyn yn amgau amlinelliad o'r ddrama a'i chymeriadau.

Drama radio: Iechyd yw Popeth

Copïau drafft a theg o sgript y ddrama radio Iechyd yw Popeth, a ddarlledwyd Ionawr 2004, ynghyd â thoriad papur newydd. Diwygwyd teitl blaenorol y ddrama, Legato, ar dudalen flaen copi drafft y sgript.

Rhaglen deledu: Pethe

Toriad papur newydd yn rhaghysbysebu Pethe, rhaglen a ddarlledwyd ar gyfer S4C i ddathlu penblwydd Menna Elfyn yn drigain oed.

Rhaglen radio: Night Waves

Deunydd yn ymwneud â Menna Elfyn yn olrhain hanes y bardd Waldo Williams yn ei darllediad ar gyfer raglen Radio 3 Night Waves, gan gynnwys copïau drafft a theg o'r sgript a bras nodyn oddi wrth Menna Elfyn at gynhyrchydd y rhaglen, Zahid Warley.

Rhaglen radio: Essay for St David's Day

Deunydd yn ymwneud â chyfraniad Menna Elfyn tuag at Essay for St David's Day, a ddarlledwyd ar Radio 3, 2001, gan gynnwys copïau drafft a theg o'r sgript a llythyr oddi wrth BBC Cymru yn amgau rhaghysbysebion ar gyfer y rhaglen.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn gyda'r cyfryngau, gan gynnwys cytundeb printiedig oddi wrth y BBC, llythyrau oddi wrth gwmni cyfryngau digidol Fidgety Lizard a Phrifysgol Copenhagen, slip cyfarchion Ffilmiau Bryngwyn a bras nodiadau.

Rhaglen deledu: Portreadau

Deunydd yn ymwneud â rhaglen yn y gyfres Portreadau a ddarlledwyd ar gyfer S4C, 1998, gan gynnwys copi teg o'r sgript, llythyr at Menna Elfyn oddi wrth gwmni darlledu Ffilmiau'r Bont a thorion papur newydd.

Drama radio: Y Galwr/Dadlau Rhin

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Dadlau Rhin [?teitl blaenorol Y Galwr], a addaswyd ar gyfer Radio Cymru o'r ddrama lwyfan o'r un enw, gan gynnwys copïau drafft a theg o'r sgript (dan y ddwy deitl), gohebiaeth ebost rhwng Menna Elfyn a chynhyrchydd y darllediad Aled Jones, cerdd mewn llawysgrifen gan Menna Elfyn, a thoriad o'r wasg ynglŷn â'r emynyddes Ann Griffiths.

Drama radio: Ann

Copïau drafft a theg o sgriptiau'r ddrama radio Ann, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Ionawr 2005, gan gynnwys un sgript dan ei theitl blaenorol Dwy Chwaer, Un Gân a chyfieithiad o sgript Ann i'r Saesneg.

Results 61 to 80 of 159