Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Mesur yr Iaith Gymraeg

Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys nodiadau, gohebiaeth, rhestrau cyrff o fewn cylch gorchwyl y deddf a drafftiau y Gorchymun Cymhwyso Deddfwriaeth.

Caneuon gwerin (i-iv)

Mae’r ffeil yn cynnwys pedwar bocs mynegai Phyllis Kinney (2 goch a 2 lwyd) wedi eu trefnu A-E (ff.1-371), F-M (ff. 372-742), N-W (ff. 743-972), Y (ff. 973-1229). Maent yn nodi teitl, llinell gyntaf, enw lle, a’r ffynonellau lle cafwyd y caneuon (ceir allwedd i’r byrfoddau ar ddechrau bocs 1).

Alawon carolau (v-vi)

Mae’r ffeil yn cynnwys dau focs mynegai Phyllis Kinney (1 llwyd ac 1 coch) wedi eu trefnu A-F (ff.1-248), G-Y (ff.249-524). Maent yn nodi enw'r alaw, enw'r llawysgrif, ac yn cynnwys hen nodiant, a nodiadau.

Geiriau carolau (pynciau) (viii)

Mae’r ffeil yn cynnwys bocs mynegai gwyrdd wedi eu trefnu A-Z (ff. 1-156) fesul pwnc (ac nid alawon). Amryw nodiadau ar garolau ac ati a’r gwahanol fathau o achlysuron ar gyfer canu carolau. Penawdau yn cynnwys Brithwaith Gwilym Pue, Buchedd Meir Wyry, Brodyr crefyddol, Carolau Nadolig dan bared, Cerddi rhydd cynnar D Lloyd Jenkins, Halsing, Llenyddiaeth Gymraeg y 14G, Madog ap Gwallter, Mair, Plygain a Phen croes Crist.

Hwiangerddi (ix)

Mae’r ffeil yn cynnwys bocs mynegai glas ar yr Hwiangerddi sydd mewn pedwar cyhoeddiad y cyfeirir atynt fel (HH, HW, HC, YH). Trefnwyd fesul hwiangerdd A-Y (ff. 1-342) gan nodi enw'r hwiangerdd, y cyhoeddiad a rhif tudalen, brawddeg gyntaf yr hwiangerddi ac weithiau’r pennill cyfan.
Y pedwar cyhoeddiad y gyfeirir atynt yw:
HH - J. Ceiriog Hughes, ‘Hen Hwian-gerddi’, Oriau’r Haf (Wrecsam: Hughes a’i Fab, [1870]),
HW - Hwiangerddi'r Wlad (Eluned Bebb) Llyfrau'r Dryw. Gorff 1942.
HC - Hwian Gerddi Cymru Casglwyd gan Owen M Edwards, Argraffwyr R E Jones a'i frodyr Conwy (120 o eitemau) Darluniau gan Winifred Hartley (Lowri Wynn) Llanuwchllyn Ac Owen.
YH - Yr Hwiangerddi casglwyd gan Owen M Edwards . Edwards, O. M. (1911), Yr Hwiangerddi (Llanuwchllyn: Ab Owen).

'Welsh Folk Song', J. Lloyd Williams (xiii)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs mynegai coch gan Merêd ar ‘Welsh Folksongs in the J Lloyd Williams Collection’ wedi eu trefnu A-Z (ff. 1-52). Mae’n cynnwys gwybodaeth am enw’r alaw, a gyhoeddwyd y gwaith ai peidio, ble cyhoeddwyd, ffynhonnell, geiriau a nodiadau eraill.

Bu Merêd yn gwneud llawer o waith ymchwil ar archif J Lloyd Williams (1854-1945) sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol: https://archives.library.wales/index.php/dr-j-lloyd-williams-music-mss-and-papers-2

Taflen briodas a phapurau eraill

Taflen briodas Eirlys Rees Owen a'r Parchedig Islwyn Foulkes Ellis, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Rhoslefain, Towyn, 28 Hydref 1950; llungopïau o bortreadau pensil ganddo o’i gefnder R. Glynne Lloyd; taflen gyfrannu at apêl Cronfa Gŵyl Ddewi Plaid Cymru un [1969] a'r neges gan Islwyn Ffowc Elis - 'Dyma’r amser ... '; rholyn: 'The ancient history of the distinguished surname Kenrick', [1993]; a thoriad o’r Tyst yn cynnwys adroddiad am ddadorchuddio plac ar ei gartref Pengwern yn 2010.

Mari Lwyd (xii)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs mynegai gwyrdd (ff. 1-320) a ddefnyddiwyd gan Phyllis Kinney o bosibl ar gyfer ei chyhoeddiad Welsh Traditional Music (2011) yn trafod arferion Mari Lwyd, Hela'r Dryw, a chalennig. Mae’r penawdau wedi eu trefnu yn ôl gwlad (Irish, Manx, Shetland, Orkneys, Scotland, England, Wales) ac yn cynnwys y penawdau Cyfri’r geifr, Gŵyl Fair, Hela’r Dryw / Hunting the Wren, Shrove Tuesday, Tri thrawiad, Un o fy mrodyr i, Calennig, Mari Lwyd, a Compass of 3/4/5/6/7.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys ei ddogfen awdurdodi adeg Yr Arwisgo, 1969, fel newyddiadurwr i’r BBC; rhaglenni cymdeithasau y bu’n eu hannerch am farddoni yn 1957, a Chymdeithas Gymreig Sir Gaerloyw, 1982; ynghyd â thaflen ei angladd ar 14 Ebrill 1988; llythyrau cydymdeimlad i'w deulu; sgript (camera) ‘T. Glynne Davies’ sef teyrnged Vaughan Hughes iddo; llythyr, 1990, [at ei weddw], yn ymwneud â sefydlu Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies ym Mhrifysgol Caerdydd; sgript 'Teyrnged T. Glynne' gydag aelodau o'r teulu yn cymryd rhan; a llungopi o erthygl amdano 'From reporter to bard', Cambrian News, 2010 .

'Alawon Fy Ngwlad', Nicholas Bennett (x-xi)

Mae’r ffeil yn cynnwys dau focs mynegai (coch a glas) yn nodi’r alawon sydd yn ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett wedi trefnu fesul alaw A-M (ff. 1-332), N-Y (333-533). Nodir rhif y gyfrol a'r dudalen, teitl y gân, fersiwn sol-ffa, a chyfeiriad at lawysgrifau.

Cyfeiriadau at RM= Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, 1931 gan T.H. Parry-Williams. Ar y cefn ceir gwybodaeth wahanol ac ymddengys eu bod yn ail ddefnyddio cardiau mynegai alawon Saesneg.

Casglodd Nicholas Bennett dros 700 o alawon Cymreig, a chyhoeddwyd 500 ohonynt mewn dwy gyfrol yn 1896, o dan yr enw Alawon fy Ngwlad , wedi eu dewis a'u trefnu gan Emlyn Evans; yn y llyfr ceir darluniau a bywgraffiadau o delynorion a chantorion gyda'r tannau , a nodiadau eglurhaol ar y dull o ganu gyda'r tannau

'Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru', J. Lloyd Williams (xiv)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs cardiau mynegai glas (ff. 1-119) gan Merêd, gydag ystadegau ynghylch ffynonellau caneuon / alawon yng Nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru [I-IV: (i)] yn ystod golygyddiaeth John Lloyd Williams. Trefnwyd fesul Cyfrol I-IV i fyny at Cyfrol IV Rhan 1 sef y rhifyn olaf a olygwyd gan J Lloyd Williams. Ceir cyfeiriadau at ganorion (e.e. John Morris a R. E. Vaughan), unigolion (e.e. Grace Gwyneddon Davies, Ruth Lewis, J Lloyd Williams a Phillip Thomas) a chasgliadau.

Papurau'r Pwyllgor 2010

Cofnodion cyfarfod, Hydref 2009, a Mai a Hydref 2010; agendâu’r Pwyllgor, Mai a Hydref 2010; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2009-2010 (2010); adroddiadau prosiectau ymchwil (2010); manylion o gynigion prosiect a ymgeision am ariannu brosiectau ymchwil (2010); ac adroddiadau gan olygyddion cyfnodolion (2010). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2010), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Christine James; Paul Russell; Jenny Rowland; Patrick Sims-Williams; David Austin; Andrew Fleming; Jeffrey L. Davies; William Manning; Niall Sharples; Stephen Driscoll; Edel Bhreathnach; a Ralph Griffiths.

Hanes teulu

Gwybodaeth achyddol o Gyfrifiad 1891 a 1911, adroddiad o'r wasg am ddadorchuddio plac iddo ar ei gartref yn 2004, ac ysgrif ‘Miss Jones (Miss Jôs)’ am fam John Eilian gyda nodiadau esboniadol gan [y rhoddwr].

Papurau'r Pwyllgor 2009

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2008 ac Ebrill 2009; agendâu’r Pwyllgor, Ebrill 2008 a Hydref 2008; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2008-2009 (2009); adroddiadau prosiectau ymchwil (2009); adroddiad cyhoeddiadau Prifysgol Cymru (2009); manylion o gynigion prosiect a ymgeision am ariannu prosiectau ymchwil (2009); ac adroddiadau gan olygyddion cyfnodolion (2009). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2009), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Ralph Fevre; Richard Wyn Jones; Geraint Phillips; Alaw Mai Jones; Richard Jenkins; Graham Day; John Tribe; Adam Jaworski; Mark Sebba; Pádraig Ó Riagáin; K.S. Williams; Rod Morgan; Dan Hough; Hugh Mackay; Robert Silvester; Peter Webster; John Collis; Ian Ralston; Tadhg O’Keefe; F.A. Aberg; Jutta Leskovar; Klaus Löcker; a J. Beverley Smith.

Y Ddinas

Torion o erthyglau a gyfrannodd i'r golofn 'Sylwadau' yn Y Ddinas (cylchgrawn Cymry Llundain), 1953-1955, a llythyr ato oddi wrth Caradog Prichard, 1955, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad', Y Ddinas, Awst 1957, ynghyd ag erthyglau diweddarach a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan a Y Goleuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Results 61 to 80 of 1033