Llyfr nodiadau yn rhannol yn llaw Linda (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams, yn cynnwys mesuriadau a phrisiau carpedi a llenni ar gyfer y cartref (gan nodi fod angen llenni 'black-out' i ambell ffenest) a rhestr siopa ('What Linda wants'); ynghyd â nodiadau bras yn llaw Waldo Williams yng nghefn y gyfrol. Nodir yr enwau 'Waldo' a 'Linda' ar glawr y gyfrol.
Llungopi o lythyr, [1942], oddi wrth Waldo Williams at ei chwaer Dilys Williams. Crybwyllir yn y llythyr fod Waldo newydd gwblhau ei ddatganiad o wrthwynebiaeth cydwybodol i'r rhyfel ar gyfer ei achos yn y tribiwnlys ar 12 Chwefror 1942, a sonnir hefyd am bryderon Waldo ar ran ei wraig Linda (née Llewellyn), oedd yn poeni y byddai Waldo'n colli ei swydd (fel prifathro Ysgol Casmael, Sir Benfro) o ganlyniad i'w ddaliadau heddychol.
Dwy ddalen llungopi ac un ddalen wreiddiol o lythyr, 1958, oddi wrth Waldo Williams at Y Faner, yn cynnig dadansoddiad eglurhaol o'i gerdd Mewn Dau Gae, a gyhoeddwyd yn rhifyn 13 Mehefin 1956 o'r wythnosolyn hwnnw.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth o Gymdeithas yr Iaith; torion o’r wasg; a datganiadau i’r wasg; 1992-1999; yn ymwneud â gweithredu polisi iaith Gymraeg mewn nifer o storfeydd cenedlaethol a busnesau lleol yng Nghaerdydd.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1995-1996, yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg mewn nifer o siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiad i’r wasg (1996).
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd, a storfeydd cenedlaethol, yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1994-1997); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1995-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau yn trafod polisi iaith Gymraeg; a datganiad i’r wasg (1997).
Llungopi o ddrama David Jones a gyhoeddwyd yn 1990, ynghyd â llythyr, 2010, yn rhoi caniatâd i'w pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy y flwyddyn honno.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1984-1998, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o storfeydd cenedlaethol; nifer o Aelodau Senedd Cymraeg; nifer o aelodau Tŷ’r Arglwyddi; yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Wayne David; a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o gylchlythyr Cymdeithas yr Iaith (1994); datganiadau i’r wasg (1994); a nifer o bosteri ymgyrch.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1995-1999, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith i nifer o storfeydd cenedlaethol, a siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd, yn trafod polisi iaith Gymraeg.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1990-1996, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o storfeydd cenedlaethol a siopau annibynol yng Nghaerdydd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys cofnodion cyfarfod (1990); a chopi o Rybudd Datblygiad Arfaethedig o Gyngor Dinas Caerdydd (1996).
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o archfarchnadoedd yng Nghymru yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1996-1997); a nifer fach o dorion o’r wasg.