Mae'r bocs yn cynnwys casgliad o Freintlythyrau [Letters patent], tystysgrifau a llythyrau cymeradwyaeth T. Ifor Rees sy'n cwmpasu ei yrfa ddiplomyddol, sy'n cynnwys ei benodiad cyntaf fel Is-gonswl Feneswela yn 1914 hyd at ei benodiad yn Llysgennad yn La Paz yn 1947.
Sgrôl Federación Sionista De Chile o Meguilath Ester [Llyfr Esther], wedi'i ysgrifennu yn yr Hebraeg a'r Sbaeneg, [1943], ynghyd â llythyr yn cyflwyno'r sgrôl i T. Ifor Rees oddi wrth Natan Bistritzky, Jerwsalem, Hydref 1944.
Effemera personol T. Ifor Rees, yn cynnwys trwyddedau teithio (passports); llyfrau cyfeiriadau; tystysgrif aelodaeth The National Geographic Society (1917); tystysgrif diploma oddi wrth Sociedad Geografica Americana Gran Concurso Fotografico (1941); a chalendr ar gyfer 1946 a ddefnyddiwyd fel dyddlyfr ar gyfer mis Mai. Ceir hefyd cywydd gan Dewi Morgan, Aberystwyth ar achlysur priodas T. Ifor Rees ac Elizabeth Phillips (1918).
Amlen wreiddiol yn cynnwys drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'Y parc llafur (= Y cae yd)' gan Dr T. J. Jenkin, ynghyd â drafft o 'Y Twrci' gan T. Ifor Rees.
Llyfrau ysgrifennu T. Ifor Rees fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth a myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, sy'n cynnwys nodiadau ar gyfer Cymraeg, Lladin, Groeg, Hanes, Ffiloleg ac Athroniaeth. Ceir hefyd papurau arholiadau'r Coleg a chopi o restr llwyddiannau arholiadau gradd Prifysgol Cymru am 1908. Graddiodd gydag Anrhydedd yn y Gymraeg yn 1910.
Papurau a nodiadau yn ymwneud â bathu geiriau a thermau, ynghyd â nodiadau am waith cyfieithu. Ceir rhestrau geiriau a thermau Urdd y Graddedigion / adrannau Prifysgol Cymru ar gyfer amaethyddiaeth; ffiseg, mathemateg a seryddiaeth; a choginio ymhlith y papurau.
Un amlen wreiddiol ac eitemau rhydd a gasglwyd ynghyd wrth drefnu'r archif o eitemau a gasglwyd gan T. Ifor Rees yn ystod ei gyfnod ym Mecsico, gan gynnwys torion o'r wasg; ysgrifau'n dwyn y teitlau 'Excursion a la presa de Becerra', 'Excursion al parque Nacional de las fuentes brotan tes tlalpan, D. F. Mexico' gan Raúl Lozano Garcia (2 gopi), a 'Resena geologia del Distrito Federal' gan Sefydliad Daeareg, Prifysgol Genedlaethol Mecsico; adroddiad ar weithgarwch y British Community War Charities Committee (Rhagfyr 1945), ynghyd â Bwletin (Hydref 1945); cylchlythyr "El Excursionista: Organ del Club Citlaltepetl" Medi 1948 (Rhifyn 260); a mapiau.
Drafftiau teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o drosiad Gwenda Thompson a T. Ifor Rees o'r Ffrangeg o'r nofel 'Derborence' o waith C. F. Ramuz, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â chyhoeddi'r gwaith.