Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

Personol

Mae'r uned yn cynnwys llawysgrifau rhai o weithiau hunangofiannol Ambrose Bebb, 1941-1954.

'Y Stâr Fach'

Llawysgrif erthygl hunangofiannol yn dwyn y teitl 'Y Stâr Fach' a gyhoeddwyd yn Blodau'r Ffair ym 1954.

Sgriptiau

Mae'r uned yn cynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif o sgriptiau radio a baratowyd gan Ambrose Bebb.

'Y Beibl'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau diwygiedig a theipysgrifau terfynol o sgript radio ar y Beibl, 1948.

'Y March Gwyn'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a sgriptiau terfynol o gyfieithiad Cymraeg Ambrose Bebb o 'The White Steed', drama gan Paul Vincent Caroll a gyhoeddwyd gan Macmillan ym 1944, [1944]-[1945].

Caroll, Paul Vincent,

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron Ambrose Bebb, yn bennaf o'r cyfnod yr oedd yn byw ym Mangor ac yn ddarlithydd ar staff y Coleg Normal. Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel, a'i gyfnodau yn Ffrainc a Llydaw, gyda sylwadau ar ddigwyddiadau cyfoes, yr Ail Ryfel Byd, a dyddiau cynnar Plaid Cymru. Ar y cyfan, mae'r cofnodion yn y dyddiaduron yn eithaf llawn, ac eithrio o 1930 hyd 1936. Mae'r dyddiaduron yn rhedeg o Ionawr hyd Ragfyr oni nodir yn wahanol.

Dyddiadur

Dyddiadur am y flwyddyn 1940 a gyhoeddwyd dan y teitl 1940: Lloffion o Ddyddiadur, ym 1941.

Dyddiadur

Dyddiadur am y flwyddyn 1940 a gyhoeddwyd dan y teitl Dyddlyfr 1941, (Llandybïe, 1942).

Results 61 to 80 of 114