Showing 187 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun
Print preview View:

Llythyrau oddi wrth Kate Roberts

Llythyrau, [1927]-1969, oddi wrth Kate Roberts at D. J. Williams, yn ymwneud â phynciau megis Plaid Cymru, ei gwaith creadigol hi, Gwasg Gee a'r Faner, ynghyd â thri llythyr, 1934, yn rhoi ei barn ar y sgetsys i'w cyhoeddi yn Hen Wynebau (Aberystwyth, 1934) ac ar ei weithiau eraill. Yn y ddau lythyr cyntaf defnyddia'r ffurf 'Catrin Robaits' wrth lofnodi. Yn fynych ceir sylwadau wedi'u hychwanegu gan Morris Williams (Morus Cyffin) arnynt.

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau D (Daniel-Davies, Cassie)

Llythyrau, 1925-1969, gan gynnwys rhai oddi wrth J. E. Daniel (1), [Yr Arglwydd David] Davies, [Llandinam] (1), Alun Oldfield-Davies (1), Alun Talfan Davies (2), Aneirin Talfan Davies (23) a Cassie Davies (49).

Daniel, John Edward, 1902-1962

Llythyrau oddi wrth Lewis Valentine

Llythyrau, [1925]-1969, oddi wrth Lewis Valentine at D. J. Williams, yn trafod ei drefniadau pregethu a'i waith gydag Undeb y Bedyddwyr, Plaid Cymru, ac yn ymateb i weithiau llenyddol y llenor. Yn llythyr 6 Chwefror 1962 ceir nodiadau bywgraffyddol ganddo ar gyfer ysgrif D. J. Williams yn [Seren Gomer] wedi iddo gael ei ethol yn Is-Lywydd Undeb y Bedyddwyr. Mae'r llythyr olaf oddi wrth Margaret Valentine.

Valentine, Lewis

Llythyrau D (Davies, D-I)

Llythyrau, 1920-1969, gan gynnwys rhai oddi wrth [D.] Jacob [Davies] (3), D. Oswald Davies (16), Eic Davies (18), E. Tegla Davies (1), George M. Ll. Davies (63) a'r Parch. Gwilym Davies (1).

Davies, D. Jacob (David Jacob), 1916-1974

Llythyrau D (Davies, J-N)

Llythyrau, 1920-1969, gan gynnwys rhai oddi wrth Jennie [Eirian Davies] (2), John Davies (1), y Parch. [J.] Eirian [Davies] (2), J. H. Davies (1), Nan Davies (1), Neli Davies (11) a Dr Noëlle Davies (94).

Davies, Jennie Eirian, 1925-1982

Llythyrau E (Eckley-Ellis)

Llythyrau, 1918-1969, gan gynnwys rhai oddi wrth Alun R. Edwards (5), D. Miall Edwards (1), Emyr Edwards (1), Huw Lloyd Edwards (1), Huw T. Edwards (10), Ifan ab Owen Edwards (5), Meredydd Edwards (1), Raymond Edwards (5), T. Charles Edwards (2), Islwyn Ffowc Elis (29) a 'Tom' [T. I. Ellis] (5).

Edwards, Alun R. (Alun Roderick), 1919-1986

Dyddiaduron

Dyddiaduron, 1923-1966, gan gynnwys un yn cofnodi ei daith i Lydaw yng nghwmni Ambrose Bebb yn [1924], a 'Dyddiadur dyn anonest', 1941-1951. Trafodir y Blaid, ei waith llenyddol, ei weithgareddau cyhoeddus, ei iechyd, a'i ymwelwyr ac maent yn tueddu i fod yn llawnach yn ystod degawd olaf ei fywyd. Defnyddiodd y dyddiaduron i gofnodi cyfeiriadau yn fynych iawn.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

'Dyddiadur Dyn Anonest'

Mae dechrau'r gyfrol yn cynnwys achres teulu Llywele, Llansawel, a nodiadau am hanes ei hynafiaid, a chofnodion yn ymwneud â chyfrifon Penrhiw ac Abernant, 1938-1953. Defnyddiwyd cefn y ledjer fel dyddiadur, 1941-1951, gyda'r teitl 'Dyddiadur Dyn Anonest', gan gynnwys cerdd 'Pen-yr-Yrfa' gan George M. Ll. Davies wedi'i gopïo gan Siân Williams yn 1943.

Results 81 to 100 of 187