Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Canu Bobi Jones

Adolygiad gan Waldo Williams o Y Gân Gyntaf gan Bobi Jones (Gwasg Aberystwyth, 1957) a dynnwyd o gyfrol brintiedig; ynghyd ag erthygl gan Bobi Jones yn dwyn y teitl 'Ceiriog - y bardd di-synnwyr', hefyd wedi'i dynnu o [?yr un] gyfrol brintiedig. Ar un ddalen, ceir nodyn [?yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo]: 'Adolygiad - Canu Bobi'.

Nodiadau o Lyfr Du Caerfyrddin, Myvyrian Archaiology of Wales

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys trioedd a cherddi eraill wedi'u cymeryd o ffynhonellau megis Llyfr Du Caerfyrddin a'r Myvyrian Archaiology of Wales; ynghyd â 'Spring is coming' o'r opera Ottone gan Handel, ac amrywiol nodiadau eraill.

Handel, George Frideric, 1685-1759

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Dewi Thomas

Llungopi o lythyr, 24 Medi 1967, at Waldo Williams oddi wrth Dewi Thomas. Nid yw'n eglur pa un ai'r un Dewi Thomas sydd yma â'r Parch Dewi W. Thomas a ddisgrifir gan Alan Llwyd (Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 229-230, 339).

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth George Evans

Llungopi o lythyr, 20 Medi 1970, at Waldo Williams oddi wrth George Evans, a oedd yn wreiddiol o Glunderwen, Sir Benfro (gweler nodyn [?yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo] ar frig y llythyr). Ysgrifennwyd y llythyr tra 'roedd Waldo dan ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.

Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams

Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams, gan gynnwys peth o hanes ei ddyddiau ysgol, ei wrthodiad i dalu'r dreth incwm, a'i ddedfryd a'i garchariad o ganlyniad i hynny; ysgrifau coffa a theyrngedau a luniwyd iddo yn dilyn ei farwolaeth; a dathliadau canmlwyddiant ei eni.

Derbynneb

Derbynneb dyddiedig 15 Mawrth 1935 wedi'i chyfeirio at Waldo Williams gan Gyngor Dosbarth Gwledig Arberth.

Gwahoddiad i ddrama'r geni Ysgol Botwnnog

Cerdyn gwahoddiad (di-ddyddiad) i ddrama'r geni Ysgol Ramadeg Botwnnog, lle bu Waldo Williams yn dysgu o 1942 hyd 1944. Ar gefn y cerdyn ceir enw 'Gruff [Gruffudd] Parry', cyd-athro i Waldo ym Motwnnog, ynghyd ag enwau rhai o gast y ddrama ac enw'r gyfeilyddes.

Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth

Llungopi o doriad a gymerwyd o rifyn 27 Rhagfyr 1923 o'r Narberth, Whitland & Clynderwen Weekly News yn adrodd am ddiwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth, achlysur a oedd yn cyd-ddigwydd ag ymddeoliad y prifathro, John Morgan. Ceir cyfeiriadau at lwyddiannau academaidd Waldo Williams tra bu'n ddisgybl yn yr ysgol a hefyd at yr araith a draddododd er clod am John Morgan ar ddiwrnod y gwobrwyo. Fe ymddengys mai ysgrifen Albert Lewis (gweler Canmlwyddiant geni Waldo Williams dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams) a geir ar gefn yr eitem.

Canmlwyddiant geni Waldo Williams

Gohebiaeth oddi wrth Anna Williams at Albert ac Isobel Lewis yn ymwneud â threfniadau canmlwyddiant geni Waldo Williams yn 2004, sy'n cynnwys manylion am ddigwyddiadau yn Llandysilio, Sir Benfro a chyfeiriadau at aelodau o deulu Waldo. Magwyd Albert Lewis ar aelwyd Rhosaeron, cartref teuluol Waldo, a bu'n was priodas i Waldo.

Gohebiaeth at Dafydd (David/Dai) Williams, nai Waldo Williams (gweler dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), yn amgau manylion ynghylch y digwyddiadau canmlwyddiant yn Llandysilio, sy'n cynnwys rhestr o aelodau o deulu Waldo ac eraill a fyddai'n bresennol a/neu'n cymeryd rhan.

Atgofion am Waldo Williams gan Wynn Vittle, sy'n cynnwys cyfeiriad at Dilys Williams, chwaer Waldo, a fu'n lletya yn nhŷ Benni ac Elsie Lewis, ewythr a modryb Wynn Vittle.

Atgofion am Waldo Williams yn llaw Teifryn Williams, nai Waldo (a brawd i David Williams).

Amserlen digwyddiadau canmlwyddiant geni Waldo Williams.

The Welsh Outlook / Y Geninen / Y Deyrnas

Copïau o gyfnodolion fu ym meddiant John Edwal Williams, sef The Welsh Outlook, 1912, 1915, 1917, 1927, 1928, 1931, 1932, Y Geninen, 1912, 1917, a rhifyn olaf papur newydd Y Deyrnas, Tachwedd 1919. Ar frig tri o'r Welsh Outlook ceir yr arysgrifau 'JEW', 'J Edwal Williams' a 'Mr Williams Brynconin Sch[ool] Clynderwen'. Ar frig hysbyseb di-ddyddiad, o bosib wedi'i dynnu allan o ffynhonell brintiedig, ceir nodyn [yn llaw John Edwal Williams] sy'n crybwyll enwau'r bardd a'r llenor [Walt] Whitman a'r bardd a'r athronydd Edward Carpenter, dau o arwyr John Edwal.

Llythyr at John Edwal Williams oddi wrth Thomas Rees

Llythyr, 29 Ebrill 1916, at John Edwal Williams oddi wrth Thomas Rees, prifathro Coleg Bala-Bangor, Bangor, sy'n sôn am ymdrechion i gefnogi a chynorthwyo un 'Mr Jenkins', gwrthwynebydd cydwybodol ac aelod o'r Frawdoliaeth yn erbyn Gorfodaeth Filwrol (y No-Conscription Fellowship).

Araith wedi'i chyfeirio at blant Ysgol Brynconin

Llungopi o dudalennau llyfr nodiadau yn cynnwys araith yn llaw John Edwal Williams wedi'i chyfeirio at blant Ysgol Gynradd Brynconin, Mynachlog-ddu oedd yn mynd ymlaen i Ysgol Sir Arberth ym mis Medi 1917. Yr oedd John Edwal yn brifathro Ysgol Brynconin ar y pryd. Ar gefn y ddalen olaf ceir arysgrif o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal (gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), sy'n darllen 'Oedd llety personol i bob un o blant ysgol Blaen [sic - am Brynconin] oedd yn mynd ml'an i ysgol Arberth'; ynghyd â llungopi o'r araith fel yr ymddangosodd yn The Baptist Record.

Erthyglau i'r wasg gan John Edwal Williams

Llungopïau o erthyglau gan John Edwal Williams a gyhoeddwyd yn y Narberth, Whitland & Clynderwen Weekly News yn ystod y 1920au, yn bennaf dan y ffugenw 'John Dewsland', ynghyd â llythyr i'r wasg yn ymateb i'r erthyglau.

Cyfrifiadau

Allbrintiadau o gyfrifiadau 1871 a 1891 yn dangos manylion teulu David (Dafydd neu Dafi) a Martha Williams, rhieni John Edwal Williams. Erbyn cyfrifiad 1891 'roedd John Edwal wedi gadael cartref ac ni chynhwysir ei enw ar y cyfrifiad.

Syr Henry Jones

Coeden deulu Syr Henry Jones, brawd John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), a luniwyd - yn ôl nodyn [yn llaw David Williams, nai Waldo a gor-nai Angharad] ar ymyl y ddalen gefn - gan Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones) (a oedd, yn ôl tystiolaeth y goeden deulu, yn wyres i Syr Henry Jones); ynghyd â gwybodaeth bellach ynghylch ŵyrion, gor-ŵyrion a gor-gor-ŵyrion Syr Henry Jones yn llaw Jean Ware (am Jean Ware, gweler Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Erthygl a llun wedi'u llungopïo yn ymwneud ag Amgueddfa Syr Henry Jones yn Llangernyw, Conwy. Addaswyd Cwm, cartref teuluol Syr Henry Jones, yn amgueddfa er mwyn olrhain ei fywyd a'i waith cyntaf fel prentis i'w dad Elias Jones, a oedd yn grydd wrth ei alwedigaeth. Ceir arysgrif [yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr erthygl, sy'n cynnwys cyfeiriad at Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones).

Llungopi o erthygl am Syr Henry Jones a ymddangosodd yn Y Glannau, papur bro ardal Y Rhyl a'r cylch, gwaelod Dyffryn Clwyd a Llanelwy, Sir Ddinbych. Sonnir am rai aelodau o deulu Angharad, a hefyd am y cywydd coffa ysgrifennodd ei mab, Waldo Williaims, iddi (am y cywydd coffa, gweler hefyd Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Elias, Bont Faen, Llangernyw a Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt, ill dau dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams). Cynhwysir y cywydd coffa 'Angharad' yn Dail Pren (1956), unig gyfrol farddoniaeth gyhoeddiedig Waldo Williams.

Rhaglen ddigwyddiadau i ddathlu Ail-Agor Amgueddfa'r Cwm a lansio'r gyfrol Yr Athro Alltud dan nawdd Ymddiriedolaeth Cofeb Syr Henry Jones.

Results 81 to 100 of 210