Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Pryniant tir Hanson; brydles tir y Goron; cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr; y Pwyllgor Iaith a Marchnata; aseiniadau Heulwen Richards

Gohebiaeth a phapurau, 2002-2008, yn ymwneud â throsglwyddo tir Hanson ac aseiniad y brydles ar dir y Goron (2005-2008); gweinyddiaeth amrywiol, yn ymwneud â datblygu cyfleusterau a gweithgareddau Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys materion staff, hysbysebu a brandio, llif arian, ac amcangyfrifon y Ganolfan (2002-2007); cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr (2003-2008) a’r Pwyllgor Iaith a Marchnata (2003-2004); a chopïau o ddogfennau a gohebiaeth yn ymwneud ag aseiniadau Heulwen Richards (2004-2008). Yn ogystal, ceir nifer o daflenni, nifer fach o samplau ffabrig (2004); ac un ffotograff, ([?2000] x [?2010]).

'Kushti bok, Esmeralda’

Llyfr nodiadau yn cynnwys y ddrama ‘Kushti bok, Esmeralda’, ynghyd â nodiadau ymchwil ar gyfer ‘Rhaglen nodwedd ddramatig’ i Ffilmiau’r Nant’, [[1982x2008].

T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair

Papurau yn ymwneud â’r gyfrol T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair wedi'i golygu gan Alun Eirug Davies yn 2008, gan gynnwys copi teipysgrif gyda chywiriadau a chardiau mynegai yn cynnwys ei nodiadau ymchwil. Ceir hen ffotograffau gwreiddiol, rhai newydd a deunydd a atgynhyrchwyd.

Papurau'r Pwyllgor 2008

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2007 ac Ebrill 2008; ac agendâu Ebrill 2008 a Hydref 2008; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2007-2008 (2008); adroddiad cyhoeddiadau Prifysgol Cymru (2008); a manylion o ymgeision am ariannu prosiectau ymchwil (2008). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007-2008), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Sarah Lewis; Geraint H. Jenkins; Richard Bullen; Jemma Bezant; Malin Stegman McCallion; J. Beverley Smith; Mark Simon; Ralph Fevre; Andrew Thompson; Geraint Phillips; Wendy Davies; Anne Ray; Ashley Drake; Ian George; P. D. A. Harvey; Elizabeth Danbury; Neil Evans; Bill Jones; D. W. Bebbington; a Stewart Brown.

Stump

Papers relating to the production of ‘Stump’ as a novel, and Niall Griffiths’s activities around the time of publication, comprising: a manuscript draft of the book with manuscript annotations by Niall Griffiths; manuscript notes by him on the text of the novel and on related subjects including drug and alcohol addiction, the brain, cognitive dissonance, the properties of light and the relationship between light and sight; copies of full and partial typescript drafts of ‘Stump’ with publisher’s annotations; a typescript synopsis; the author’s page proofs with an accompanying letter to him from the publisher; a cover proof; publicity material for the book and for related literary events in Wales, England and Canada in which Niall Griffiths took part, including the shortlist for the Academi Book Of The Year; an email to Niall Griffiths from the proofreader giving his reaction to the book; typescript proofs, press cuttings, offprints, photocopies and emails containing reviews of the book and associated interviews with Niall Griffiths, articles about his success in winning the Book Of The Year prize in 2004 and his visit to Greenland in 2003, and press listings for the broadcast of a radio play by him; and associated literary and festival ephemera.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2006; amcangyfrifon ariannol, 2006-2007 i 2010-2011 (2006); agenda’r Pwyllgor Rheoli a’r Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Mai 2007; a chofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil (2007). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; Jill Mustard; Ian Broadbridge; Lynn Williams; Ann Parry Owen; Brynley F. Roberts; Dafydd Johnston; Gareth A. Bevan; Aled Gruffydd Jones; Sara Lee Branch; Paul O’Leary; Robert Rhys; Alun Daniel; Ken Emond; Jenny Childs; a llythyr grŵp oddi wrth Jane Cartwright, Marged Haycock, Dafydd Johnston, Peredur Lynch, Patrick Sims-Williams, Gerwyn Wiliams, a Gruffydd Aled Williams.

Papurau'r Pwyllgor 2007

Agenda’r Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2007; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2006-2007 (2007); adroddiad blynyddol y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru, 2006-2007 (2007); adroddiad Gwasg Prifysgol Cymru i’r Ganolfan (2007); adroddiad Llên Cymru (2007); cyfarwyddiadau i ymgeiswyr grantiau Prifysgol Cymru (2007); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007), oddi wrth Vera Bowen; Ralph Griffiths.; a Jeffrey L. Davies.

Arwyddion Treganna

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a deunydd printiedig, 1989-2007. Mae’r ohebiaeth rhwng Cymdeithas Yr Iaith, Cyngor Dinas Caerdydd, y Bwrdd Croeso Cymru, a nifer o westai lleol Caerdydd, yn trafod y defnydd o arwyddion dwyieithog yng Nghaerdydd. Mae’r deunydd printiedig yn ymwneud â gweithgareddau Cyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnwys rhestrau o gynghorwyr Dinas Caerdydd; manylion cyfarfod Gweithgor y Polisi Dwyieithog; copi o Gynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Tân De Cymru; copi o Gyngor Dinas Caerdydd ‘Report 1991’; copi o’r ‘South Glamorgan Review’ (1989-1990); llawlyfrau Gwasanaethau Cymdeithas Tai; a thaflenni Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd. Yn ychwanegol, mae’r ffeil yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.

Cofnodion cyfarfod ac agendâu

Cofnodion y Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, (rhai fel nodiadau), Mehefin, Gorffennaf, a Medi 2006; ac Ionawr, Ebrill, Mai, Mehefin, Medi, Hydref, a Thachwedd 2007; ac agendâu’r Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Mai, Mehefin, Medi, Hydref, Tachwedd, a Rhagfyr 2007. Yn ogystal, ceir llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol oddi wrth Vera Bowen.

Results 81 to 100 of 1033