Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Dramâu

Sgript ‘Y lle i mi’ (drama fer yn ymwneud ag agwedd arbennig ar yr her i fywyd Cymru heddiw), cystadleuaeth y fedal ryddiaith, Eisteddfodau Teulu Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid, 1965. [Cyhoeddwyd y ddrama yn 1965] a 'Gair yn ei le', pantomeim Nadolig, 1979.

Sgyrsiau

Sgriptiau amrywiol gan gynnwys ‘Gwlad pob peth o chwith’, Merched yn bennaf, 1980; Ofn a dychryn’, Merched yn bennaf, 1981; ‘Ceiniog a cheiniog’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1981; ‘Dechrau blwyddyn’, 1982; ‘Enid Blyton’ ac ‘I lawr ymysg y merched’, Merched yn bennaf, 1982; ‘Beirniadaeth’, Merched yn bennaf, 1983; ‘Y Nadolig’, Merched yn bennaf, 1983; ‘Ofn’, Merched yn bennaf’, 1984; ‘Darluniau’, Gŵyl Caradog Prichard, Merched yn Bennaf, 1985; ‘Allen Raine’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1987; ‘Cathod’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1989; ‘Chwarae â thân’, 1991; a 'Camgymeriad’, Sglein, 1995.

Darlithiau

Darlith i Gylch Llenyddol Caerdydd ar ‘Llenydda heddiw’, 1974; darlith ar ‘Cariad a serch mewn llenyddiaeth ddiweddar’, Ysgol Haf Gymraeg, Coleg Harlech, 1989; a beirniadaeth ar gystadleuaeth y Fedal ryddiaith, Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle ac Arfon, 1990, erthyglau a gyhoeddwyd yn The teacher in Wales, 1967-1971, ynghyd ag adolygiadau o lyfrau i'r Faner a chylchgronau eraill.

Sgriptiau

Sgriptiau ‘Dim o’n hol’, Trioleg (Drama 3), HTV; ‘Dail tafol’; ‘Y wers rydd’ a sgript camera, 1981; ‘Myfanwy arall’, 1983; a ‘Pwy rydd i lawr?’, addasiad, 1992, o’r stori o’i chyfrol Llygad am lygad [1990].

Ffotograffau

Ffotograffau teuluol yn bennaf, [1895]-[1970], ynghyd â lluniau o Tegla Davies yn fyfyriwr yng Ngholeg Didsbury, Manceinion, a ffotograffau o Landegla, ei fro enedigol.

Llythyrau a cherddi ar gyfer Yr Efrydydd

Llythyrau a cherddi i Yr Efrydydd, [1917]-[1946], oddi wrth T. Gwynn Jones at y golygydd E. Tegla Davies. = Letters and poems, [1917]-[1946], from T. Gwynn Jones to E. Tegla Davies, editor of Yr Efrydydd.

Llythyrau at E. Tegla Davies

Llythyrau at E. Tegla Davies, 1919-1963, oddi wrth O. M. Edwards, Megan [Lloyd George], W. J. Gruffydd, R. Williams Parry ac Ifor Williams, ynghyd ag englynion gan T. Rowland Hughes i Tegla Davies pan roedd yn ŵr gwadd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn 1930. = Letters to E. Tegla Davies, 1919-1963, from O. M. Edwards, Megan [Lloyd George], W. J. Gruffydd, R. Williams Parry and Ifor Williams, together with englynion by T. Rowland Hughes for Tegla Davies as guest of honour of the Dafydd ap Gwilym Society in 1930.

Torion

Torion o gylchgronau fel Y Winllan, Yr Eurgrawn, Y Genhinen a’r Traethodydd, 1937-1965, yn cynnwys ysgrifau ganddo neu amdano.

Deunydd print

Llyfrau o lyfrgell Tegla Davies, gan gynnwys William Jones (Ehedydd Iâl), Blodau Iâl (Treffynnon, 1908), gyda thorion o erthyglau gan awduron gwahanol; The poems of Francis Thompson (London, 1913), yn cynnwys copi o Y Winllan, Ebrill 1939.

Torion

Cyfrol yn cynnwys torion o’r wasg, 1932-1943, gan gynnwys rhai am ‘Pryddest Dafydd Huws’, pryddest ddigrif a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 ac a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron.

Adolygiadau

Adolygiadau o’i weithiau ac adolygiadau ganddo, 1911-1960, a gyhoeddwyd yn Yr Eurgrawn yn bennaf, ynghyd â rhai yn Y Beirniad, Yr Efrydydd, Y Traethodydd a Y Dysgedydd.

Gradd er anrhydedd

Rhaglen Prifysgol Cymru yn cynnwys cyflwyniad Yr Athro G. J. Williams i Tegla Davies pan dderbyniodd radd Doethur mewn Llên er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1958.

Hanes teulu a personalia

Torion o ysgrifau coffa i Mrs Jane Eleanor (Nellie) Davies, gwraig Tegla Davies a fu farw yn 1948 a threfn y gwasanaeth, copi Saesneg o ewyllys Tegla Davies, ‘nodiadau teuluaidd’ a chopïau o dystysgrifau geni, priodi a marwolaeth.

Results 81 to 100 of 1033