Dangos 338 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Parch. J. Dyfnallt Owen
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Papurau'r Parch. J. Dyfnallt Owen

  • GB 0210 JDYFWEN
  • Fonds
  • 1863-1956

Papurau o eiddo J. Dyfnallt Owen neu a grynhowyd ganddo, 1863-1956, yn cynnwys pregethau; nodiadau bywgraffyddol ar weinidogion anghydffurfiol; llythyrau a phapurau eraill yn ymwneud ag achos yr Annibynwyr, 1863-1953; llythyrau amrywiol pellach, 1878-1956, rhai ohonynt yn cyfeirio at yr Orsedd yn Llydaw a Chernyw; dyddiaduron, 1897-1956; cyfraniadau ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Tyst, etc., 1923-[1953]; sgriptiau radio, 1931-1955; pregethau, 1919; torion o'r wasg, [1872]-1954; dyddlyfrau taith, a nodiadau ar bynciau hanesyddol a llenyddol, 1901-1953. = Papers of and accumulated by J. Dyfnallt Owen, 1863-1956, including sermons; biographical notes on nonconformist ministers; letters and other papers concerning the Independent cause, 1863-1953; further miscellaneous letters, 1878-1956, some of which refer to the Gorsedd in Brittany and Cornwall; diaries, 1897-1956; contributions for publication in Y Tyst, etc., 1923-[1953]; radio scripts, 1931-1955; sermons, 1919; press cuttings, [1872]-1954; travel journals, and notes on historical and literary subjects, 1901-1953.

Dyfnallt, 1873-1956.

Papurau Amrywiol,

Album, c.1901-04, yn cynnwys darluniau (cardiau post) o'r Eidal, etc., darnau o farddoniaeth, a pheth o waith J. Belt Edwards. Dyddiadur taith i'r Eidal, 1903. (Mewn Pensel.) Nodiadau byrion gan mwyaf. Nodiadau ar wahanol fannau yn Llydaw. Hanes taith i'r Almaen, Dannig, a Gwlad Pwyl, 1939. (Yn Saesneg). (Ceir hefyd lythyrau cyflwyniad oddi wrth Frau M. Garter i ddau o'r arweinwyr yn Dannig.). Darnau o farddoniaeth, rhai mewn llawysgrif, eraill wedi eu hargraffu. Pregethau Cymraeg a Saesneg, rhai yn anghyflawn. Siars a draddodwyd i Mr D.S. Morris, Cwmsymlog, 1919. Hefyd nifer o Weddiau Plant gan Dyfnallt, 1942-46. Nodiadau, ysgrifau, darlithiau, etc., ar bynciau llenyddol a hanesyddol (e.e. Owen Glyndwr, Y Nofel Gymraeg, Jac Glanygors, Gerallt Gymro, Hywel Dda, Twm o'r Nant, Y Beirdd a'r Eisteddfod, Y Cynfeirdd, Elis Wyn a'r Bardd Cwsb, Goronwy a'i Gylch, The Puritan Movement in Wales, Y Pedair Cainc, Hash, "Marchogion Arthur", a John Penri (gweler hefyd y cuttings 'O'r Tyst'.). 'Defnyddiau Capel Seion', 'Defnyddiau Cwmllynfell', &c. Nodiadau a defnyddiau eraill ar gyfer hanes yr achos yng Nghapel Seion, Cwmllynfell, Pencader, etc. 'Genesis a Chamre'r Achos yn Jerwsalem, Gwynfe, a Capel y Maen (Dathlu Canmlwyddiant Capel y maen, Medi 23 a 24, 1953.)' Anghyflawn. Nodiadau, etc., a oedd mewn copi o argraffiad Gwasg y Brifysgol, 1950, o Golwg ar y Beiau Jeremy Owen, Golygwyd gan R.T. Jenkins. 'Geiriau y Cydganai yn yr opera Jezebel gan Dyfnallt Owen a Tawe Jones.'. Toriadau Papur Newydd, ayb. Gwaith Dyfnallt ei hun. Ysgrifau 'O'r Tyst' ganddo ef ac eraill. 'Llythyr y Mis' allan o Tywysydd y Plant, 1945-46. Pregethau Plant allan o Tywysydd y Plant, etc. 'Cornel y Llenor: Cip ar Wasg a Llyfr gan y Brawd Llwyd [= Dyfnallt]' allan o'r News Chronicle, 1933-34. 'Moddion Gras' ac 'Oedfa'r Plant'. Toriadau papur newydd a phroflenni gali. 'The Dramatic Movement in Wales', allan o The Welsh Outlook, Gorff. 1927.

Canlyniadau 81 i 100 o 338