Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Adlais,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Adlais' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones (Langwm). Dau wahanol gywair.

Boed mawl i ti,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Boed mawl i ti' mewn dau wahanol gywair, i S.A. gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones.

Carol Parsal,

Sgôr yr hen nodiant a hefyd tonic sol-ffa i eiriau Wil Parsal ar gyfer lleisiau merched (S.S.A.A.).

Coediog,

Llawysgrif o'r alaw 'Coediog' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.

Glan Aber,

Llungopi o gyfansoddiad Gilmor Griffiths, trefniant i eiriau 'Deisyfiad yr Ysbryd Glan' sef emyn gan John Hughes. Hen nodiant a sol-ffa ar gyfer S.A.T.B.

Huw Puw,

Trefniant Gilmor Griffiths o 'Huw Puw', ar gyfer pedwar llais (S.A.T.B.), yr alaw allan o gasgliad J. Glyn Davies.

Molawd i Gymru,

Cerddoriaeth gan Gilmor Griffiths 'Molawd i Gymru', ar gyfer S.A.T.B., geiriau gan Leslie Harries. Cyfansoddwyd ar gyfer Pasiant y Plant yn Eisteddfod yr Urdd, Yr Wyddgrug, 1958.

Wareham,

Copi sgôr 'Wareham', trefniant Gilmor Griffiths o emyn William Knapp, ar gyfer lleisiau merched (S.A.).

Bro Meirion,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Hen ŵr bychan a dwy ŵydd dew' i'r alaw 'Bro Meirion' gan E. G. Griffiths, Blaenau Ffestiniog.

Cloch Llanerfyl,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Gwyn ap Nudd' gan Elfed, i'r gainc 'Cloch Llanerfyl' gan Dwynwen Jones.

Hiraethog,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Pen y Cei' gan Trebor Roberts (Porthmadog), i'r alaw 'Hiraethog' gan Haydn Morris. Braslun mewn llawysgrif.

Llety'r bugail,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'O nefol addfwyn oen', gan William Williams, Pantycelyn, i'r alaw 'Llety'r Bugail' gan Eleri Owen. Llawysgrif a llungopi tonic sol-ffa.

Llyn Llech-Owain,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Guto Benfelyn' gan I. D. Hooson i'r alaw 'Llyn Llech-Owain'. Ychwanegiad tonig sol-ffa mewn pencil.

Maes Garmon,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Cymer, Arglwydd, f'einioes i', gan F. R. Havergal i'r alaw 'Maes Garmon' gan Edna Wyn Griffiths.

Pen Dinas,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Dydd o Haf' gan Geraint Lloyd Owen, o'r alaw 'Pen Dinas' gan Elisabeth M. Jones.

Bryn Wgan,

Llawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan John Williams, Myfoniog. 4 llais.

Canlyniadau 81 i 100 o 1033