Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith

Amryw agendas, adroddiadau a phapurau perthnasol eraill yn ymwneud â'r cyfarfodydd, gan gynnwys 'Plaid Cymru membership 2000 : analysis of demographic differences within Plaid Cymru membership' gan Sue Granik (LSE).

Preparing for the 2003 election

Adroddiad ar sail etholiad San Steffan 2001, gyda gwersi i ddysgu ar gyfer etholiadau cyffredinol Cymru 2003, Ewrop 2004 a, mae'n debyg, San Steffan 2005, gyda argymhellion i'r Pwyllgor Gwaith.

Amryw gyhoeddiadau

Amryw gyhoeddiadau, yn bennaf gan Blaid Cymru, gan gynnwys 'Cofeb Owain Glyn Dŵr, Medi 10, 1932, rhaglen'; 'Blaenion y Blaid (Ysgol Haf 1936); 'Nationalist Pary of Wales: self-government or mis-government', [1936x1939]; Dafydd Jenkins (ed.), 'Monmouthshire: the case for Wales', [post 1937]; W. Hughes Jones, 'A challenge to Wales', 1938; 'Cymru rydd: braslun o bolisi'r Blaid Genedlaethol', [cyn 1939?]; D. J. a N. Davies, 'Can Wales afford self-government?', 1939; a 'Llais y Cymry yn lluoedd Lloegr, dyfyniadau o'u llythyrau', [1939x1945].

Amryw lyfrau

Amryw llyfrau: W. Hughes Jones, 'Wales drops the pilots', [c.1936?]; Prof. J. E. Daniel, 'Welsh nationalism: what it stands for', [c.1937]; Dr D. J. Williams, 'Towards Welsh freedom', 1958; Phil Williams, 'Voice from the valleys', 1981; John Davies et al., 'Heddgadw gwleidyddol yng Nghymru', 1984.

Yr Her a'r Llwybr

Copiau o'r Her, cylchgrawn Cangen Plaid Genedlaethol Cymru Coleg y Brifysgol, Bangor, rhifau 1-2 (Ionawr-Gŵyl Dewi 1940). Hefyd copiau o'r Llwybr, rhifau 3-6, 10, 21, cyfrol 2, rhifau 4, 6-9, 11-13, cyfrol 3, rhifau 1-4. Mae rhai rhifau cyfrol 2 wedi'u ffeilio mewn cyfrol gartref gyda chyfathrebiadau eraill. Mae gwahoddiad gan Blaid Llafur Ceredigion i Dr Gwenan Jones gwrdd ag Iwan Morgan, darpar ymgeisydd Seneddol, mewn noswaith gymdeithasol, Hydref 1944, yn cael ei defnyddio fel nod llyfr.

Welsh Nation

Copïau o'r 'Welsh Nation', misol: Jan., March 1966-June 1968, Aug. 1968, Nov. 1968-March 1969, May-June, Aug., Oct.-Nov. 1969, Feb., Oct.-Nov. 1970, Jan.-March, June 1971; wythnosol: vol. 43, no's 1, 6-8, 10-11, 20, 24, 28 (Sept. 1971-April 1972), vol. 44, no's 8-9, 49 (Nov. 1972 a Sept. 1973), vol. 45, no's 1-16 (Sept. 1973-Feb. 1974), vol. 46, no's 17, 19, 21-22, 26, 31-32, 34, 36-40, 43-47, 49, 51 (Jan.-Sept. 1974) [mae'n debyg mai cyfrol 45 wedi troi i mewn i gyfrol 46 trwy ddamwain]. Hefyd, copi o 'Y Ddraig Goch', cyf. 35, rhif 3, Mawrth 1966, a'r 'Gwerinwr, cylchgrawn Cangen Llundain', Ebrill 1973.

Amryw Nans Jones

Amryw bapur rhydd Plaid Cymru, gan gynnwys teipysgrif o ganlyniadau etholiadau, 1929-1955; cerdyn cinio ffarwel i Noëlle Davies, 1957; rhaglen cyngerdd Gŵyl Dewi Coleg Hyfforddi Caerdydd, 1961; memorandum gan Ray Smith, trefnydd De Cymru, i'r Pwyllgor Gwaith yn beirniadu trefniannau mewnol y Blaid, 1963; 'bras nodiadau' teipysgrif yn galw am fudiad newydd i ferched yng Nghymru, [1960au?]; cyfansoddiad Adran y Merched, mewn cynnig i Gynhadledd, [1970au?]; rhestr o gyhoeddiadau, c.1971; calendr y blaid genedlaethol 1980; cynigion dilys Cynhadledd 1987; a chyfrifon Plaid Cymru, 30 Mehefin 1993. Hefyd 'Remember Cwm Tryweryn', baled gan Meic Stephens mewn cefnogaeth Cronfa Emyr Llew, [c.1963]; caneuon etholiad Caerffili, 1968; englyn 'I Nans Jones ar ymddeol o'i swydd yn Swyddfa Plaid Cymru', gan Ithel Davies, [c.1967]; 'Gwynfor', cân gan Dafydd Iwan, [d.d.]; a rhaglen perfformiad Cwmni Theatr Gwynedd o 'Excelsior' gan Saunders Lewis, [1991].

Results 1021 to 1033 of 1033