Showing 159 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File
Advanced search options
Print preview View:

Deunydd amrywiol

Deunydd yn ymwneud â gyrfa Menna Elfyn o fewn Coleg Prifysgol Cymru, gan gynnwys llythyr, 1984, at Menna Elfyn yn ei hysbysu na fu'n llwyddiannus yn ei chais am y Gymrodoriaeth Breswyl i Lenor yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan am y cyfnod 1984-85; datganiad yn y cylchgrawn Llais Llyfrau, Gaeaf 1984, fod Menna Elfyn wedi ennill Cymrodoriaeth Awdur Cymraeg Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan (gyda Gillian Clarke yn cael ei phenodi fel Cymrawd Awdur Saesneg); llythyrau yn cymeradwyo cais Menna Elfyn am swydd darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Drindod, Caerfyrddin (1983), ei chais ar gyfer Ysgoloriaeth Deithio i'r Unol Daleithiau (1986) a'i chais ar gyfer swydd Cydlynydd Prosiect Addysgol Cenedlaethol yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; nodiadau ar y testun 'Hyfforddiant Mewn Swydd'; ac ebyst calonogol at Menna Elfyn oddi wrth rai o'i myfyrwyr.

Achos Blaenplwyf: Gohebiaeth carchar Wynfford James

Deunydd yn ymwneud â dedfryd a charchariad Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, a Rhodri Williams wedi achos ym 1978 lle difrodwyd mast ddarlledu Blaenplwyf gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith fel rhan o ymgyrch i sicrhau sianel deledu i Gymru, gan gynnwys yn bennaf llythyrau, cardiau Nadolig a chardiau post at Wynfford James a Rhodri Williams (y gohebwyr yn cynnwys Menna Elfyn, mam Wynfford James, cyfeillion a chefnogwyr megis Dafydd Iwan, Alun 'Sbardun' Huws ac aelodau Cymdeithas yr Iaith); ynghyd â llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth ei gŵr Wynfford James tra 'roedd yr olaf yn y carchar a llythyr at Menna Elfyn [?wedi rhyddhau Wynfford James], datganiad gan aelodau Cymdeithas yr Iaith i'w ddarllen yn Llys Ynadon Caerfyrddin ar gychwyn yr achos, a cherdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Wedi'r achos (Blaen-plwyf, 1978), ynghyd â chyfieithiad o'r gerdd i'r Ffrangeg. Ymysg y gohebiaeth ceir ambell gyfeiriad at Fflur, merch Menna Elfyn a Wynfford James, a aned ym 1978.

Gohebiaeth deuluol

Gohebiaeth at neu oddi wrth aelodau o deulu Menna Elfyn, gan gynnwys llythyr at Menna Elfyn oddi wrth ei mam; llythyr at Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, oddi wrth Plaid Cymru; llythyrau cyd-rwng Wynfford James a Chyngor Celfyddydau Cymru; ebost at Menna Elfyn oddi wrth Wynfford James sy'n blaenyrru ebyst oddi wrth amryw ohebwyr; ebost at Menna Elfyn oddi wrth ei merch Fflur Dafydd sy'n blaenyrru ebyst a anfonwyd cyd-rwng Fflur Dafydd a Nigel Jenkins; a nifer o gardiau post a anfonwyd gan Menna Elfyn o amryw lefydd ledled y byd at ei rhieni a'i chwaer.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, ebyst, cardiau a chardiau Nadolig a anfonwyd at Menna Elfyn oddi wrth amryw ohebwyr, gan gynnwys Raymond Garlick, Michael Coady, Bobi Jones, Dic Jones, Ted Hughes, Meredydd Evans a Phyllis Kinney, Gerallt Lloyd Owen, Maura Dooley, Shani Rhys James, Seamus Heaney, Eigra Lewis Roberts ac Iwan Llwyd, gyda chanran helaeth o'r ohebiaeth yn ymdrin â gwaith llenyddol Menna Elfyn. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfrol gyhoeddiedig o ohebiaeth (ym Masgeg, Cymraeg a Sbaeneg) rhwng Menna Elfyn a'r awdur a'r actores Fasgaidd Arantxa Urretabizkaia a cherdyn i longyfarch Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James ar enedigaeth eu merch Fflur Dafydd ym 1978.

Barddoniaeth amrywiol

Amrywiol gerddi (llawysgrif, drafft ac argraffiedig) yn ymestyn dros sawl cyfnod, nifer ohonynt wedi'u cyhoeddi yng nghasgliadau barddonol Menna Elfyn, ond y rhan helaethaf ohonynt heb eu dyddio. Ceir rhai cerddi sy'n ymddangos fel petaent yn rhai cynnar (hynny yw, cyn cyhoeddi Mwyara (1976)) ond sydd heb ddyddiad penodol (cynhwysir cerddi cynnar sydd â dyddiad penodol dan y pennawd Cerddi cynnar). Nifer o'r eitemau yn cynnwys arnodiadau/cywiriadau yn llaw Menna Elfyn.

Tosturi

Proflenni Tosturi, sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2022, sy'n cynnwys rhagymadrodd ddwyieithog i'r gyfrol gan Menna Elfyn yn dwyn y dyddiad ysgrifenedig '5.3.2022'; gydag arnodiadau llaw a nodiadau a chywiriadau argraffedig gan Menna Elfyn a nodiadau electronig gan [?y golygydd neu'r argraffydd]. Ynghyd â chyfres o ebyst, 2022, yng Nghymraeg a Saesneg cydrwng Menna Elfyn a'r rheolwraig ddiwylliannol, cyfieithydd a golygydd Alexandra Büchler ac oddi wrth Menna Elfyn at y golygydd a'r ymchwilydd Alaw Mai Edwards, rhai o'r negeseuon yn cyffwrdd â salwch olaf a marwolaeth Geraint Elfyn Jones, brawd Menna Elfyn (cyflwynir y gyfrol i Geraint Elfyn Jones ac i chwaer Menna Elfyn, sef Siân Elfyn Jones, a fu farw yn 2020). Ynghyd ag erthygl a dynnwyd o gylchgrawn Y Wawr, Hydref 2017, am y Dywysoges Gwenllian gan Tecwyn Vaughan Jones, Cadeirydd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

Cwsg

Copi proflen, gyda chywiriadau yn llaw Menna Elfyn, o'r gyfrol Cwsg, sy'n cynnwys rhyddiaith, barddoniaeth ac amrywiol sylwadau ar natur cwsg, ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2019. Ynghyd â deunydd ymchwil a nodiadau yn ymwneud â chwsg yn gyffredinol.

Pennod cyfrol: Comin Greenham

Copi teipysgrif o bennod yn dwyn y teitl 'Comin Greenham', sef cyfraniad Menna Elfyn i'r gyfrol Dros Ryddid!, a olygwyd gan Llinos Dafydd ac Ifan Morgan Jones ac a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa yn 2022.

Darlithoedd ac anerchiadau

Deunydd yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau a draddodwyd gan Menna Elfyn yng Nghymru, Prydain a thu hwnt mewn gŵyliau, prifysgoliaon, cymdeithasau ac achlysuron eraill ar destunau megis llenyddiaeth, menywod a Chymru a'r iaith Gymraeg, gan gynnwys copïau sgriptiau drafft a theg, nodiadau, gohebiaeth a thorion o'r wasg.

Anerchiadau

Anerchiadau a thrafodaethau gan Menna Elfyn ar ffurf llawysgrif ddrafft a theipysgrif, yn bennaf ar bynciau'n ymwneud â barddoniaeth a llenyddiaeth, hawliau merched a'r mudiad heddwch, a draddodwyd mewn amryw leoliadau gan gynnwys Colombo, Sri Lanka (2000) a Segovia a'r Alhambra, Sbaen (2007 a di-ddyddiad). Mae'r deunydd yn cynnwys beirniadaeth a draddodwyd gan Menna Elfyn ar gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe, 2006.
Ar frig tudalen cyntaf anerchiad yn dwyn y teitl 'Bondo Barddoniaeth' a draddodwyd yn Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bodedern 2017, nodir gan Menna Elfyn mai yn Y Fenni (lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2016) y cynhaliwyd yr eisteddfod, ond, gan mai 2017 oedd blwyddyn cyhoeddi detholiad barddonol Menna Elfyn Bondo (gweler dan Barddoniaeth: Bondo uchod), cymerir mai 2017 yw'r dyddiad cywir.

Am anerchiad gan Menna Elfyn ar Radio [Cymru] ar gyfer Sul y Blodau 1985, gweler dan Darllediadau cyfryngol.

Gweithiau llwyfan

Deunydd yn ymwneud â gweithiau llwyfan a gyd-grewyd gan Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys: sgript 'cyflwyniad/drama lwyfan' gan Menna Elfyn o'r enw Y Garthen (dim dyddiad, ond arnodir yn llaw Menna Elfyn fod y gwaith yn rhagddyddio'r sioe Rhyw Ddydd, a gyd-grewyd gan Menna Elfyn ac a lwyfanwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr-Pont-Steffan 1984 (https://mennaelfyn.co.uk/cy/project/rhyw-ddydd/; gweler hefyd dan y pennawd Rhyw Ddydd, gan Menna Elfyn, Eirlys Parri, Llio Silyn a Judith Humphreys o fewn yr archif hon); sgript o ddrama'r geni amgen o'r enw Trefn Teyrnas Wâr, a berfformiwyd yn wreiddiol ar lwyfan ym 1990 gan Theatr Taliesin ac a ddarlledwyd fel drama deledu dan y teitl Ar Dir y Tirion ar S4C ym 1993; poster ar gyfer y ddrama gomedi gymunedol Malwod Mawr! (2004), a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, gyda cherddoriaeth gan Iwan Evans, gŵr Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn; sgript opera neu operetta o'r enw Y Gath Wyllt/Wild Cat (2007) a sgrifenwyd gan Berlie Doherty a Julian Philips ac a gyfieithwyd gan Menna Elfyn; a phoster ar gyfer yr opera aml-ieithog Gair ar Gnawd (2015), y libretto gan Menna Elfyn a'r gerddoriaeth gan yr Athro Pwyll ap Siôn, darlithydd yn Adran Gerddoriaeth Coleg Prifysgol Cymru Bangor.
Ambell eitem wedi'u harnodi yn llaw Menna Elfyn.

Am Trefn Teyrnas Wâr/Ar Dir y Tirion (1990), a hefyd am Y Forwyn Goch (1992), drama am yr aflonyddwraig, diwinydd ac athronydd Simone Weil a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, gweler hefyd dan Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg a dan benawdau Tref[e]n Teyrnas Wâr, Y Forwyn Goch a Drama deledu: Ar Dir y Tirion o fewn yr archif hon.
Am y dramâu radio Dim Byd o Werth (2009) a Colli Nabod (2012), gweler dan Darllediadau cyfryngol.

Darllediadau cyfryngol

Deunydd yn ymwneud â darllediadau cyfryngol gan neu'n ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys drafft llawysgrif o anerchiad gan Menna Elfyn ar gyfer darllediad ar Radio [Cymru], Sul y Blodau 1985; llythyr, 1995, at Wasg Gomer ynghylch hawlfraint ar rai o gerddi Menna Elfyn a ddarlledwyd mewn cyfres o raglenni radio yn Nenmarc; copi teipysgrif o ysgrif gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl 'Under the Influence', a ddarlledwyd ar Radio 3, Tachwedd 2008; sgript ddrama radio o'r enw 'Dim Byd O Werth' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22ain Mawrth 2009; sgript ddrama radio o'r enw 'Colli Nabod' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22 Ebrill 2012; a dogfennau a gohebiaeth ynghylch darlledu rhai o gerddi Menna Elfyn mewn cyfres o raglenni radio a theledu yng Nghatalwnia [2014].

Am Ar Dir y Tirion (1993), drama deledu a ymddangosodd yn wreiddiol fel y ddrama lwyfan Trefn Teyrnas Wâr (1990), gweler dan Gweithiau llwyfan a dan y pennawd Drama deledu: Ar Dir y Tirion o fewn yr archif hon.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau Menna Elfyn, yn cynnwys drafftiau o gerddi, cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith yng Nghymraeg a Saesneg, gan gynnwys cyfieithiadau o 'Y Tangnefeddwyr' a 'Yr Heniaith' gan Waldo Williams a dechreuad yr hyn a ymddengys fel nofel Menna Elfyn i bobl ifanc Madfall ar y Mur (Gwasg Gomer, 1993).

Mwyara

Deunydd yn ymwneud â Mwyara (1976), sef cyfrol flodeugerdd gyntaf Menna Elfyn, gan gynnwys drafftiau teipysgrif a anfonwyd i Wasg Gomer ym 1975 ac adolygiadau o'r gyfrol.

Tro'r Haul Arno

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Tro'r Haul Arno (1982), gan gynnwys rhagair i'r gyfrol gan yr aelod seneddol Dafydd Elis Thomas a llythyr oddi wrth yr Athro John Rowlands ynghylch cyhoeddi ail-argraffiad o'r gyfrol.

Mynd Lawr I'r Nefoedd

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Mynd Lawr i'r Nefoedd (1986), gan gynnwys llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth yr Athro John Rowlands ac adolygiadau o'r gyfrol.

Perffaith Nam

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Perffaith Nam/Perfect Blemish (2005, ail-argraffwyd 2007), gan gynnwys erthyglau, adolygiadau, datganiadau i'r wasg, argraffiadau o gloriau'r gyfrol, rhaghysbysebion ynghylch lansiad y gyfrol, gohebiaeth oddi wrth Gillian Clarke a'r Athro M. Wynn Thomas, a rhifyn o'r gyfrol wedi'i chyfieithu i'r Sbaeneg.

Vualiuotas Bucinys (Veiled Kiss)

Deunydd yn ymwneud â'r gyfrol Vualiuotas Bučinys (2005), sef cyfieithiad i'r Lithwaneg o flodeugerdd Menna Elfyn Cusan Hances/Handkerchief Kiss, gan gynnwys adolygiadau a rhifyn o'r gyfrol brintiedig.

Results 101 to 120 of 159