Dangos 219 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gilmor Griffiths, Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Bugeilio'r gwenith gwyn,

Trefniant o'r alaw 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn', (lleisiau S.S.A.) ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

As I went out a strolling,

Trefniant o'r alaw 'As I went out a strolling' (llunell cyntaf) ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr gyda geiriau. Yr enw 'Bernard Woolford , Ruthin Castle', 1971, sef Cyfarwyddwr a stiward y gwledda ar y cefn.

Y Pasg foreddydd llon,

Sgôr mewn llawysgrif 'Y Pasg foreddydd llon', trefniant Gilmor Griffiths o'r carol Is-Almaeneg, cyfieithiad gan James Arnold Jones.

Pawr y defaid,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r aria 'Pawr y defaid yn ddiogel', o'r 'Schafe können sicher weiden' gan J. S. Bach. Geiriau Cymraeg gan James Arnold Jones. Darn ir llais yn unig.

Linda,

Dwy lawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths. Emyn i blant neu gôr pedwar llais ifanc, geiriau 'Ynfyd ydym, ac ni feiddiwn' gan y Parch. Dafydd Owen.

Laudamus te,

Brasluniau anghyflawn o drefniant Gilmor Griffiths o'r gân diolchgarwch 'Laudamus te' (heb ei orffen).

Goleuni'r Gair / Dyfrdwy,

Dau drefniant gwahanol o'r alaw 'Dyfrdwy' gan John Jeffries, trefniant i bedwar llais gan Gilmor Griffiths, geiriau 'Goleuni'r Gair' gan Richard Jones, Llanfrothen.

Emyn y Pasg,

Trefniant Gilmor Griffiths o 'Emyn y Pasg' gan Pietro Mascagni (allan o'r opera Cavelleria Rusticana), geiriau gan J. Arnold Jones. Llawysgrif, llungopïau a brasluniau.

Ein Tad,

Cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries ar gyfer côr pedwar llais.

Duw Hollalluog,

Brasluniau a llungopïau o'r alaw 'Duw Hollalluog' ar gyfer unawd contralto neu fâs, gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.

Cytgan yr Haleliwia,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r 'Cytgan yr Haleliwia' gan G. F. Handel. Copi mewn llawysgrif gyda chyfeiliant, a llungopïau ar gyfer lleisiau merched neu blant, un ohonynt gyda geiriau Saesneg.

Bryn Wgan,

Llawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan John Williams, Myfoniog. 4 llais.

Ave Maria,

Sgôr drafft a chopïau o Ave Maria, gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Rhydwen Williams.

Arweiniol,

Llawysgrif a llungopi o gyfansoddiad Gilmor Griffiths, trefniant i eiriau 'Arglwydd ein Duw fe ddeuwn eto ger dy fron' gan Dafydd Owen. Hen nodiant a sol-ffa.

Am brydferthwch daear fyd,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Am brydferthwch daear fyd', gan J. S. Bach, trefniant gan Gilmor Griffiths, geiriau F. S. Pierpoint. Hefyd fersiwn yn sol-ffa.

Canlyniadau 101 i 120 o 219