Showing 197 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn
Print preview View:

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn gyda'r cyfryngau, gan gynnwys cytundeb printiedig oddi wrth y BBC, llythyrau oddi wrth gwmni cyfryngau digidol Fidgety Lizard a Phrifysgol Copenhagen, slip cyfarchion Ffilmiau Bryngwyn a bras nodiadau.

Rhaglen deledu: Portreadau

Deunydd yn ymwneud â rhaglen yn y gyfres Portreadau a ddarlledwyd ar gyfer S4C, 1998, gan gynnwys copi teg o'r sgript, llythyr at Menna Elfyn oddi wrth gwmni darlledu Ffilmiau'r Bont a thorion papur newydd.

Drama radio: Y Galwr/Dadlau Rhin

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Dadlau Rhin [?teitl blaenorol Y Galwr], a addaswyd ar gyfer Radio Cymru o'r ddrama lwyfan o'r un enw, gan gynnwys copïau drafft a theg o'r sgript (dan y ddwy deitl), gohebiaeth ebost rhwng Menna Elfyn a chynhyrchydd y darllediad Aled Jones, cerdd mewn llawysgrifen gan Menna Elfyn, a thoriad o'r wasg ynglŷn â'r emynyddes Ann Griffiths.

Drama radio: Ann

Copïau drafft a theg o sgriptiau'r ddrama radio Ann, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Ionawr 2005, gan gynnwys un sgript dan ei theitl blaenorol Dwy Chwaer, Un Gân a chyfieithiad o sgript Ann i'r Saesneg.

Drama radio: Hirddydd yw Heddwch

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Hirddydd yw Heddwch, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Tachwedd 2012, gan gynnwys nodiadau a chopïau drafft a theg o'r sgriptiau, un yn dwyn ei theitl blaenorol Bobby Sands Y Ddrama.

Rhaglen deledu: Bardd yn Fietnam

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Bardd yn Fietnam (1995), sef cynhyrchiad gan gwmni Boda ar gyfer S4C yn dilyn ymweliad Menna Elfyn â'r wlad, gan gynnwys drafftiau o sgriptiau teledu, amserlen ffilmio, costau a chyfrifon, manylion teithio ac ymweld, dogfennau teithio, copïau drafft a theg o gerddi gan Menna Elfyn (gan gynnwys cyfieithiadau o rai ohonynt i'r Saesneg), gohebiaeth at Menna Elfyn oddi wrth gynhyrchwyr y rhaglen ac oddi wrth Trinh Thi Dieu (sef prif gyswllt Menna Elfyn yn Hanoi), gohebiaeth oddi wrth Menna Elfyn at ei gŵr Wynfford James, cylchgronau a thorion papur newydd.

Rhaglen deledu: Troi'r Dail

Toriad cylchgrawn yn rhaghysbysebu'r rhaglen gyntaf yn y gyfres Troi'r Dail, a ddarlledwyd ar BBC Cymru, Ionawr 1981. Gwrthrych y rhaglen oedd Menna Elfyn.

Rhaglen deledu: Plant y Stryd

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Plant y Stryd, y ddegfed rhaglen yn y gyfres Dewch i Foli, a ddarlledwyd Rhagfyr 1994, gan gynnwys copi o sgript y rhaglen, cardiau a llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Juconi, sef lloches i blant y stryd yn ninas Puebla, Mecsico, ac oddi wrth yr International Children's Trust, cerdd gan Menna Elfyn a thorion o'r wasg.

Darllediad teledu: Rhyw Ddydd

Cyfres o gerddi gan Menna Elfyn a berfformwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr-Pont-Steffan, 1984, ac yn ddiweddarach a ddarlledwyd ar gyfer S4C.

Results 101 to 120 of 197