Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Amlen wedi'i chyfeirio at Waldo Williams oddi wrth Jâms Nicholas

Amlen wag, marc post cyntaf 23 Hydref 1958, ail farc post 10 Awst 1960, wedi'i chyfeirio at Waldo Williams oddi wrth ei gyfaill, y bardd a'r athro Jâms Nicholas. Ar gefn yr amlen mae arysgrif, yn ôl pob tebyg yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn darllen 'I'W BEIRNIADU?? LLAWYSGRIFEN JAMS [sic] AR YR AMLEN YN DWYN Y CERDDI COFFA'.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Brenda Jones

Llythyr, 4 Mai 1960, at Waldo Williams oddi wrth Brenda Jones yn amgau barddoniaeth yng Nghymraeg a Saesneg gan D .T. Jones, o bosib ei gŵr, rhai o'r cerddi mewn teipysgrif a rhai ohonynt wedi'u copïo yn llaw Brenda Jones; hefyd, copïau teipysgrif o farddoniaeth gan Esther Phillips.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth David Williams

Llythyrau, 10 Mawrth [1960] a 5 Chwefror 1961, at Waldo Williams oddi wrth ei nai, David Williams, tra 'roedd yr olaf yn cyflawni gwasanaeth milwrol fel fferyllydd mewn gwersylloedd ym Malaysia. Yn y llythyr cyntaf cyfeirir at fywyd bob dydd David Williams yn y gwersyll milwrol yn Kuala Lumpur, ynghyd â'r bwriad i'w symud i wersyll yn Taiping; cyfeirir hefyd at Jim a Winnie Kilroy, sef y Crynwyr y bu Waldo'n lletya gyda hwy ers hanner cyntaf y 1950au, yn symud o'u ffermdy i dŷ cyngor yn Johnston, Sir Benfro, digwyddiad a'i gwnaeth yn ofynnol i Waldo chwilio am lety newydd. Mae'r ail lythyr yn sôn yn bennaf am fywyd David Williams yn y gwersyll milwrol yn Taiping, ynghyd â sylwadau am ŵyliau gwahanol grefyddau'r wlad; ceir hefyd gyfeiriadau at "Anti Dil" (Dilys Williams, chwaer Waldo Williams a modryb David Williams), ac at [The] Old Farm House [sic], cyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Fferm gan D. J. Williams a gyhoeddwyd ym 1961.

Emynau

Emynau, 1967-1969, a anfonodd i gystadlaethau cyfansoddi emyn yn eisteddfodau Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys emyn ar gyfer gwasanaeth priodas, ynghyd â chopi o’r Drysorfa, Mehefin 1957, yn cynnwys ei erthygl ‘Crefftwr o emynydd’ (Thomas Jones o Ddinbych).

Gohebiaeth

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, 1964, yn ymwneud â llwyddiant ei nofel [Lleian Llanllŷr]; llythyr oddi wrth Gruffydd Aled Williams, 2002, yn ymateb i’w nofel olaf Cydio mewn Cwilsyn ac oddi wrth Geraint V[aughan] Jones, 2003.

Results 101 to 120 of 1284