Copi llawysgrif teg o gywydd mawl i D. J. Williams gan ac yn llaw Waldo Williams. Lluniwyd y cywydd ar gyfer achlysur i anrhydeddu D. J. Williams yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru yn Abergwaun ym 1964.
Cerdd lawysgrif gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl 'Cân Olaf Arthur', sef Cerdd Olaf Arthur ag Ef yn Alltud yn Awstralia, rhan o'r bryddest Y Gân Ni Chanwyd, a gyfansoddwyd gan Waldo Williams tua diwedd y 1920au ond nas cwblhawyd.
Cyfieithiad i'r Saesneg gan William Fillery o Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan o'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams a ymddangosodd mewn rhifyn o'r cylchgrawn Awen, 1966.
Llungopi, a gymerwyd o ffynhonell brintiedig, o'r gerdd Cwm Berllan gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn Hydref 1931 o'r Ford Gron.
Llungopi o'r gerdd Plentyn y Ddaear gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 17 Mai 1939 o'r Faner.
Llungopi o nodyn (neu, o bosib, ran o lythyr) oddi wrth 'Hefin' at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys copi o englyn gan Waldo Williams sy'n cychwyn 'O baradwys ddibryder ...'. Crybwyllir yn y nodyn y gwas ffarm a'r gwrthwynebwr cydwybodol Percy Ogwen Jones, ynghyd a'i fab, Geraint Percy Jones.
Amrywiol gerddi drafft/lled deg, pob un namyn un yn llungopïau, o bosib yn llaw Waldo Williams. Ymddengys un, yn dwyn y teitl 'Significant Departures', fel petai wedi'i ysgrifennu tra yn yr ysbyty.
Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau teg o'r cerddi Byd yr Aderyn Bach a Y Ci Coch gan ac yn llaw Waldo Williams, y ddwy gerdd yn ddi-deitl yn y gyfrol hon ac wedi'u harwyddo 'Waldo'; toriad papur newydd (Y Faner, 30 Awst 1939 a 6 Medi 1939) yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Beth yw Cynghanedd?' gan Waldo Williams, ynghyd â rhan o baragraff cyntaf yr erthygl yn llaw Waldo Williams; torion papur newydd (Y Faner, 23 Chwefror 1944 a 18 Tachwedd 1944) yn cynnwys y cerddi Y Plant Marw ac Elw ac Awen gan Waldo Williams; ac englyn gan ac yn llaw Waldo Williams i gyfarch ei gyfaill yr awdur a'r bardd T. Llew Jones wedi iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958, ynghyd â'r nodyn 'Cyfarfod dathlu Llew yn neuadd Pantycelyn Aberystwyth'. Ceir nodyn o'r dyddiad 'Hyd. 20. 1948' [?yn llaw Waldo Williams] ar un dudalen a cheir enw Dilys Williams, chwaer Waldo, a'r nodyn 'Cynghanedd' ar y clawr. Lluniwyd y gerdd Y Plant Marw yn gynnar ym 1944 a'i chyhoeddi yn rhifyn 23 Chwefror 1944 o'r Faner, tra cyhoeddwyd y ddwy soned Elw ac Awen mewn rhifyn mis Tachwedd o'r Faner yr un flwyddyn.
Copi o rifyn Mawrth 1931 o bapur Y Ford Gron, sy'n cynnwys y gerdd Soned i Bedlar gan Waldo Williams; a thoriad papur newydd (yn bur debyg, rhifyn Mai 1932 o The Welsh Outlook) yn cynnwys cyfieithiad o'r gerdd gan Wil Ifan (y gweinidog Annibynnol, bardd a llenor William Evans (1883-1968)).
Llyfr nodiadau yn cynnwys copi teg o'r awdl Tŷ Ddewi gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyfansoddwyd yr awdl ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, ond bu'r cynnig yn aflwyddiannus.
Trafodaeth gan Jâms (James) Nicholas o'r awdl Tŷ Ddewi yn rhifyn 12 Hydref 1957 o bapur newydd Y Seren.
Copïau llawysgrif drafft a llungopïau o ran o gywydd Waldo Williams Y Tŵr a'r Graig (yma'n dwyn y teitl [?gwreiddiol] 'Rhwng y Ddwy Garn'), y copïau llawysgrif a chopïau gwreiddiol y llungopïau yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y cywydd am y tro cyntaf yn rhifyn Tachwedd 1938 o'r cylchgrawn Heddiw.
Toriad o rifyn 16 Ebrill 1941 o'r Faner, sy'n cynnwys cerdd gan Waldo Williams yn dwyn y teitl Cyrraedd yn Ôl (dan bennawd 'Led-Led Cymru'). Tros y ddalen (dan bennawd Y Golofn Farddol), ceir brawddeg o ganmoliaeth i'r gerdd.
Toriad papur newydd yn adrodd fel yr ennillodd Waldo Williams gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod y Tabernacl, Clunderwen, Mai 1931, gyda'i gynnig 'Ffair Ceffylau Bach'. Crybwyllir hefyd lwyddiant diweddar Waldo yng nghystadleuaeth stori fer y cyfnodolyn Y Ford Gron.
Pamffledyn printiedig yn dwyn y teitl Paham yr wyf yn Grynwr gan Waldo Williams. Darlledwyd y cynnwys yn wreiddiol mewn sgwrs radio ar y 15fed o Orffennaf 1956 ac yna ei gyhoeddi ym mhapur newydd Seren Cymru ar 25 o Fehefin 1971. Ymunodd Waldo Williams â'r Crynwyr yn ystod y 1950au, gan fynychu eu tŷ cwrdd yn Aberdaugleddau.
Adolygiad Waldo Williams o Cerddi Rhydd gan Euros Bowen (Gwasg y Brython, 1961) a Yr Efrydd o Lyn Cynon, a Cherddi Eraill gan Pennar Davies (Gwasg y Dryw, 1961) a dynnwyd o ffynhonell brintiedig.