Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 150 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Yr iaith Gymraeg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys llawysgrif ei draethawd ymchwil, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'; darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar hanes yr iaith, yr iaith lafar, gramadeg a geirfa, enwau, yr ieithoedd Celtaidd, ac addysg Gymraeg; ynghyd ag ychydig bapurau perthynol i'w waith fel aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru.

'Yr Iaith Lafar'

Darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar Gymraeg llafar yn bennaf, gan gynnwys 'Yr Iaith Lafar', 'Yr Iaith Lafar a'r Iaith Lenyddol', 'Y Gymraeg ym Mhontypridd a'r Cylch', 'Y Gymraeg yng Nghaerdydd a'r Cylch', 'Yr Iaith Gymraeg ym Morgannwg', 'Y Gymraeg yn Sir Fynwy', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'A Phonological conspectus of the Welsh dialect of Nantgarw', a 'Cymraeg Byw'.

Slipiau ymchwil

Slipiau ymchwil yn cynnwys cyfeiriadau at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau. Mae nifer yn ymwneud â Iolo Morganwg ac yn deillio o'i lawysgrifau.

Llên Cymru

Ffolder yn dwyn y teitl Llên Cymru yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf o erthyglau ac adolygiadau a ymddangosodd yn ystod y cyfnod y bu G. J. Williams yn olygydd ar y cylchgrawn.

Llythyrau L (Saunders Lewis)

Yn eu plith ceir rhai'n ymwneud â sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â'r llythyrau, ceir copi teipysgrif o 'Cywydd Marwnad T. Gwynn Jones' gan, ac wedi ei arwyddo gan, Saunders Lewis; a 'Golygfa Mewn Caffe neu, Y Terfyn yng Nghymru', gan ac yn llaw Saunders Lewis. Hefyd, ceir un llythyr, dyddiedig 1931, at Saunders Lewis.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Llythyrau oddi wrth G. J. Williams

Copïau o lythyrau gan G. J. Williams, 1924-1962. Mae mwyafrif y derbynwyr heb eu henwi, ond ceir un llythyr at Iorwerth Peate (1924) ac un arall at J. E. Caerwyn Williams (1958). Ceir yma hefyd lyfr nodiadau llaw fer yn cynnwys drafftiau o lythyrau.

Canlyniadau 101 i 120 o 150