Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

Hanes

Papurau yn ymwneud â'i gyhoeddiadau ynglŷn â hanes Cymru, 1934-1951.

Crefydd a Hanes Crefydd

Mae'r uned hon yn cynnwys deunydd yn ymwneud â gwaith Bebb ar grefydd a hanes crefydd yng Nghymru. Mae'n cynnwys llawysgrifau a nodiadau ar gyfer rhai o'i gyhoeddiadau, llawysgrif o waith anghyhoeddedig, ynghyd â nodiadau ar hanes yr achos Methodistaidd yn Narowen a Melinbyrhedyn, 1937-1956.

'John ap John'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif y ddwy erthygl olaf (gyda'r tudalen cyntaf yn eisiau) mewn cyfres o erthyglau byr ar fywyd a gwaith John ap John, y Crynwr a gyhoeddwyd yn Cymru, 61-63 (1921-1922), sef yng nghyfrol 63 (1922), 46-8, 74-5.

John ap John, 1625?-1697

Deunydd gwreiddiol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad atgyweirio capel Melinbyrhedyn, 1887, adroddiad ar Ddiwygiad [1904-1905] ym Melinbyrhedyn, 1905, a thoriad papur newydd yn cynnwys adroddiad o ymweliad Mrs [Mary] Jones, Egryn, â Melinbyrhedyn, 1905.

Yr Argyfwng

Llawysgrifau a phroflenni yn ymwneud â chyhoeddi Yr Argyfwng a gyhoeddwyd yn Llandybïe ym 1956.

Llythyrau J

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth: D. Lloyd Jenkins (1), R. T. Jenkins (2), Cynan (1), Yr Athro D. James Jones (1), E. D. Jones (1), Dr Gwenan Jones (1), John Charles Jones, Archesgob Bangor (1), John Gwilym Jones (1), John Morris-Jones (1), Mary Vaughan Jones (1) a T. Gwynn Jones (1). Ceir hefyd saith llythyr gan Annie M. Jones, Machynlleth, yn trafod hanes yr achos Methodistaidd ym Melinbyrhedyn, Darowen.

Jenkins, D. Lloyd (David Lloyd), 1896-1966

Results 101 to 114 of 114