Mae ei gwr yn gwella gyda gofal. Cafodd Daisy afael ar y cyffuriau angenrheidiol yn Y Swistir ac y maent yn gwneud lles iddo. Nid yw ei sefyllfa waith hi wedi newid ond nid yw hynny yn ei phoeni tra pery iechyd ei gwr. Pwyso ar KR i ddod i aros atynt. Gofyn iddi ysgrifennu i gadarnhau ei bod yn iach. Saesneg/English.
Hoffai dderbyn copi da o'r llun ohoni sydd yn Y Winllan am Awst 1948. Anfonodd am y tri rhifyn o'r Winllan. Y mae'r "Atgofion" yn bwysig. Mae newydd ddarllen ei beirniadaeth ar y perfformiad yng Ngarthewin [Blodeuwedd]. Yr oedd yr actores a chwaraeai Blodeuwedd [Ellen Wyn Jones] yn agos at ddagrau ar y nos Wener. Morris Jones a'i darganfu ac y mae deunydd addawol ynddi. Bydd adolygiad KR yn galondid i'r cwmni.
Bu'n peintio'r gegin ac yn garddio. Nid oedd wedi dod â chyfieithiad o'r stori "Begw" adre gyda hi o Ddinbych. Mynegi ei llawenydd o ddarllen stori gan KR yn y London Evening News. Cafodd aros yn y ty am flwyddyn arall am chwe gini'r wythnos, pris uchel o ystyried nad enillodd geiniog ers mis. Mae'n dal i hiraethu ar ôl David ond nid oes neb yn deall ei hiraeth ar ei ôl. Esbonio sut y mae hi'n teimlo am fywyd a'i dyheadau a'i gobeithion. Pwyso ar KR i ddod i aros ati. Saesneg/English.
Mae ei gwr wedi dechrau dychwelyd i'w waith ond y mae'n sylweddoli bellach y gall gorweithio olygu marwolaeth iddo. Sôn am y tebygrwydd y câi Daisy ganiatâd i astudio ym Mhrydain. Ni all roi addewid pendant i'r brifathrawes y bydd Daisy'n dod. Esbonio bod rhaid iddi gael rheswm dros ymweld â Hwngari ar gyfer yr awdurdodau. Derbyn cynnig o gael siwt goch a fu'n eiddo i KR. Mae'n dal yn anodd cael ffrogiau yn Hwngari. Saesneg/English.
Mae ei gwr yn well ac wedi dychwelyd adref, er ei fod yn gorwedd yn llonydd yn ei wely. Dywed y meddyg fod gobaith iddo wella. Ni chaiff weithio mwy na phum diwrnod yr wythnos a bydd raid iddo orwedd yn y gwely am y ddau ddiwrnod arall. Bydd yn rhaid iddo roi'r gorau i'w weithgarwch gwleidyddol. Nid oes angen i KR boeni am iddi fethu â chael gafael ar y cyffur i wella ei gwr. Cafodd beth o'r America drwy law cyn athrawes iddi. Dim ond un ffrind a fu'n gymorth iddi yn ystod y cyfnod pryderus a gafodd. Gofyn beth fydd yr anghenion addysgiadol gofynnol er mwyn i Daisy gael mynediad i Ysgol Howells, Dinbych. Rhwng ei gwybodaeth o'r Ffrangeg a'r Saesneg dylai Daisy fedru gofalu amdani ei hunan yn y dyfodol. Saesneg/English.
Mae'n falch iawn o glywed bod posibilrwydd y gall KR ymweld â Hwngari y flwyddyn ganlynol. Da ganddi glywed bod storïau KR yn derbyn mwy o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar. Pwyso ar KR i beidio ag esgeuluso ei thalent. Ni fydd Daisy yn gallu dychwelyd adref am flwyddyn arall. Ni fydd hithau yn medru cael passport er mwyn ymweld â hi. Nid yw iechyd ei gwr ddim gwaeth ond ni wêl welliant mawr ynddo. Cawsant drafferth yn y ty gyda math o gaws llyffant yn tyfu ar y pren. Bu'n rhaid codi'r lloriau mewn dwy ystafell a llosgi'r pren i gyd. Gofyn eto iddi geisio trefnu lle i Daisy yn Ysgol Howells, Dinbych, ar gyfer 1949-50. O.N. (10 Awst) Cafodd ei gwr drawiad ar y galon. Y mae ei gyflwr yn dal yn beryglus er ei fod ychydig yn well. Mae angen y cyffur Lacarnol arno. Ni ellir ei brynu yn Hwngari. Tybed a fedr KR gael gafael arno?. Saesneg/English.
Cyngor ynglyn â throsglwyddo siariau Gwasg Gee. Gall esbonio'r sefyllfa yn well wrthi yn bersonol pan gaiff gyfle i'w gweld. Nid yw'n bwriadu mynd i [Eisteddfod Genedlaethol] Pen-y-bont ar Ogwr.
Ymddiheuro am fod cyhyd cyn cyhoeddi'r cyfieithiad Llydaweg o stori KR "Y Wraig Weddw". Hydera ei bod wedi derbyn y copïau o Gwalarn a anfonodd ati. Mae awch mawr am ddarllen pethau Cymraeg yno. Bu cryn ddiddordeb yn ei gwaith. Cyfieithodd ddrama hefyd o waith A. O. Roberts sy'n debyg o deithio o gwmpas. Pa ddramâu eraill a fyddai'n addas i'w cyfieithu o'r Gymraeg i'r Llydaweg. Ymddiheuro am beidio ag ysgrifennu yn Gymraeg. Nid yw wahaniaeth ganddo ysgrifennu Saesneg gwael ond nid yw'n fodlon ysgrifennu Cymraeg gwael. Saesneg/English.
Llongyfarch KR ar ddarllediad ei stori. Ysgrifennodd i longyfarch y darllenydd David Lloyd James, mab yr Athro Lloyd James, Phonetics. Hydera y ceir mwy ohonynt. Ei chymell i ysgrifennu ac i adael llonydd i'r golofn ferched yn Y Faner. Pam na wnaiff KR ofyn i Myfanwy Howell wneud hynny. Mae'n slafio gyda'r hen lyfr sydd ganddo ar y gweill ond y mae wedi diflasu arno gan nad yw yn credu ynddo.
Drwg ganddi glywed am helyntion KR oddi ar iddi golli Morris T. Williams yn Ionawr 1946. Cafodd hithau hefyd dipyn o helynt teuluol. Roedd yn ddrwg ganddi golli cynhadledd Save Europe Now ym mis Mawrth. Gwnaeth KR yn rhyfeddol i gasglu cymaint o arian ar gyfer y gronfa honno. Mae'n gobeithio clywed stori o waith KR yn cael ei darllen [ar y radio] ar 4 Gorffennaf. Mae am geisio prynu A Summer Day hefyd. Holi os yw'n aelod o'r PEN Club. Hoffai ei chyfarfod pe bai yn Llundain rhywdro. Saesneg/English.
Mae ei gwr wedi gwella rhywfaint. Mae'n poeni o glywed bod KR wedi cael gwenwyn yn y gwaed. Awgrymu iddi fwyta llawer o ffrwythau a llysiau amrwd. Da ganddi glywed bod Goronwy, [nai Kate Roberts], yn well o lawer. Trafod ei diflastod ar golli ei swydd oherwydd annhegwch y peth. Yng nghanol a dwyrain Ewrop fe ddisgwylir i'r gwr a'r wraig i weithio er mwyn talu eu ffordd. Agwedd y gymdeithas at wragedd di-waith. Mae ei gwr yn hiraethu am Daisy. Saesneg/English.
Trafod cywiriadau cysodi Blodeuwedd. Ceisiodd gymysgu iaith lafar â'r iaith lenyddol yn fwy yn y ddrama Blodeuwedd nag a fentrodd erioed o'r blaen. Awgrymodd Gwenallt y gellid cyhoeddi'r sgyrsiau radio gan y Clwb Llyfrau [Cymraeg]. Digiodd Tegla yn arw pan wrthodwyd cynnig Gwasg y Brython. Ni fwriadodd Saunders Lewis ei frifo wrth wrthod. Y peth gorau felly fyddai cynnig y gyfrol i gwmni hollol annibynnol. Mae'n addo y caiff Gwasg Gee y cynnig cyntaf ar unrhyw beth arall a ysgrifennir ganddo. Dylid cofio, fodd bynnag, nad yw ei lyfrau ef yn boblogaidd. Mae'n amau a fydd gwerthu buan ar Blodeuwedd. Newydd fynd i'w ailargraffu y mae Buchedd Garmon a gyhoeddwyd gyntaf yn 1937.
Da ganddo glywed bod KR yn cytuno bod y tâl yn rhy isel. Mae'n bwriadu anfon at Tegla i wrthod. Os dymunai Gwasg Gee gyhoeddi'r sgyrsiau a rhannu 121/2% o freindal rhwng y chwech yn gyfartal, popeth yn iawn. Mae'n gwrthod Cyfres Pobun. Bydd yn wers werthfawr ac yn ergyd fechan ar ran awduron Cymraeg. Cawsant wraig i ofalu am ei fodryb o'r diwedd. Daeth tro er gwell o safbwynt ei hiechyd. Canmol Cymraeg y golofn ar fara ceirch yn Y Faner.
Derbyniodd lythyr oddi wrth Tegla Davies yn gofyn am gael cyhoeddi sgyrsiau'r stori fer yng nghyfres Pobun. Tair punt i bob un o'r chwe awdur. Mae'n ystyried y tâl yn rhy isel ond £15 y gyfrol a delir am gyfres.
Bu'n disgwyl llythyr cydymdeimlad oddi wrth KR ar farwolaeth [ei wraig]. Yr oedd ei llythyr hi yn un o'r ychydig dethol a fu'n gysur a chymorth iddo. Daeth ei marwolaeth yn sydyn. Cafodd drawiad ar y galon. Hanes ei marwolaeth. Yr oedd hi'n bopeth iddo. Ni ddeallodd arwyddocâd hynny yn llwyr nes ei cholli.
Mae Mair [ei ferch] yn gwella'n foddhaol a bydd yn gadael y sanatorium y mis dilynol. Bydd gofyn iddi gael tri mis o orffwys wedyn cyn ailafael yn ei gwaith. Mae Saunders Lewis yn gofalu am ei hen fodryb a'i magodd. Bu ei wraig yno am bythefnos ac yntau dros y Sulgwyn. Y mae hi'n wael, y forwyn wedi priodi a neb i gymryd ei lle. Ni chafwyd neb eto er cynnig hyd at dair punt yr wythnos. Mae'n canmol cyfraniad Kate Roberts i'r golofn "Ledled Cymru".
Mae cyflwr iechyd ei gwr rywfaint yn well. Mae'n dymuno bywyd tawelach iddo. Mae hi wedi colli ei swydd yn y llyfrgell a'r gobaith am unrhyw waith arall. Cymhellion gwleidyddol a oedd tu cefn i'r diswyddo. Mae'r lelog yn blodeuo yn yr ardd a'r eos yn canu bob nos. Mae Daisy yn iach ond yn hiraethu. Holi am iechyd Goronwy, nai KR. Holi am iechyd KR hefyd ac awgrymu y dylai gymryd gofal. Saesneg/English.
Ni fydd problem trefnu dyddiad ar gyfer ymweliad nithoedd KR â hi. Amlinellu ei phrysurdeb. Trafod iechyd a blinder KR a dweud cymaint y medrai hi wneud drosti pe bai'n byw yn nes. Hanesyn am Clement Attlee. Ei gwahodd hi i aros er mwyn dadflino a'i hatgoffa o'i lletygarwch iddi hithau. Saesneg/English.
Mae ar wyliau yn yr Alban heb fod ymhell o gartref y brifathrawes. Bu'n ymweld â siop y gof yn Gretna Green a gobeithia gyrraedd Caeredin y diwrnod canlynol. Cawsant dywydd da yn Nyfnaint a Chernyw. Cerdyn post. Saesneg/English.
Mae'n anfon cyfieithiad o un o straeon KR. Methodd â chael gair unsill yn Saesneg am 'ever' neu 'eternity'. Drwg ganddo glywed am helbulon KR, mae'n amlwg ei bod hi'n gweithio'n rhy galed. Y mae ef yn methu â chodi hwyl i fynd ymlaen â'i lyfr ar gyfer Penguin. Aeth Hugh yn ôl i Rydychen ac y mae'r ty yn dawel hebddo. Trueni na fuasai KR yn medru troi ei chefn ar Y Faner a Dinbych am dipyn. Mae ei storïau yn bwysicach i Gymru na mwdwl o golofnau i'r Faner. Mae ef wedi llunio stori ar gyfer y radio a chaiff fynd i'r Fflam wedyn.