- B1/19
- ffeil
- 1877-1878, 1881, 1883
Blackwood's Shilling Scribbling Diary, 1877.
Blackwood's Shilling Scribbling Diary, 1877.
Dyddiadur yr Annibynwyr a Pettitt's Shilling Folio Scribbling Diary, 1878.
Y Llawlyfr Anibynol ac W. Straker's Scribbling Diary, 1894. Mae'r Llawlyfr Anibynol wedi ei labelu 1886.
Cyfrifon (dyddlyfr) : 1867-1900
Dyddlyfr a ymddengys ei fod yn perthyn i David Peate ac un o'i feibion, George H. Peate o bosib. Mae'n cynnwys cyfrifon, 1867-1879 a 1896-1900, ac yn eu plith ceir manylion am rhenti a gasglwyd.
Llyfr cyfrifon David Peate, 1875-1882, yn ymwneud â'i waith.
Llythyrau, 1875-1896, at David Peate, yn cynnwys pum llythyr, 1880 a 1896, oddi wrth ei fab Alexander yn Llundain; a saith llythyr, 1875-1895, gan Thomas Gee (Gee a'i Fab). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys pedwar llythyr gan Samuel Roberts, 1855 a 1878; nid yw'n eglur at bwy y cyfeiriwyd hwy, ymddengys fod un ohonynt o leiaf wedi'i gyfeirio at John Breese, Brynderwen. Yn ogystal, ceir un llythyr at Mary Peate, 1896, yn cydymdeimlo ar farwolaeth ei gŵr.
Gee, Thomas, 1815-1898
Llyfrau nodiadau yn cynnwys 'Extracts from the Old Chapel Church Register' yn ymwneud â'i deulu, ynghyd â 'Dyfyniadau o Ddyddlyfrau David [a Morris] Peate', 1847-1849; a thorion o erthyglau gan George H. Peate, 'Hanes yr Eglwys Annibynol yn Llanbrynmair', 1913, ac 'Addoli Mewn Coedwig ac Ogof', 1934. Yn ogystal, ceir llawysgrif o draethawd ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Y Pandy, Llanbrynmair, 1884, 'Y Niwed o Esgeuluso yr Ysgol Sabbothol' gan 'Un o'i phlant'; a'r ymryson 'A ddylai Cymru gael Ymreolaeth?' gan Nacaol, a ddarllenwyd yng nghyfarfod Cymdeithas Lenyddol Capel Charing Cross Road, 1888. Amgaeëir hefyd feirniadaeth, 1896, ar gyfer cystadleuaeth traethawd ar y testun 'Bywyd Defnyddiol' lle bu 'Disgybl' (George H. Peate) yn fuddugol; adroddiad Diaconiaid yr Hen Gapel, Llanbrynmair, 1906, ynglŷn â'u gweinidog; a thoriad o'r Tyst, 1930, yn cynnwys erthygl 'Stori Cae'r Fendith' gan George H. Peate.
Tystlythyrau, 1923 a 1927, gan T. H. Parry-Williams a T. Gwynn Jones.
Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975
Llythyrau, 1936, yn llongyfarch Iorwerth a Nansi Peate ar enedigaeth eu mab Dafydd.