Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau Gwilym Wyn,

Papurau William Jones ('Gwilym Wyn', 1852-1914), Cwmllynfell, yn cynnwys cerddi ac englynion, beirniadaethau eisteddfodol, nodiadau ar gyfer traethodau a phregethau, traethodau a nodiadau amrywiol. Trosglwyddwyd Trwydded Gorsedd 'Gwilym Wyn', 1876, i Adran y Darluniau a'r Mapiau (PG5671).

Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr, yn ddiweddarach Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Gymraeg Penmaen-mawr,

Y mae'r papurau'n ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg ym Mhenmaen-mawr yn 1965 a'r ymgyrch aflwyddiannus i sicrhau ysgol gynradd Gymraeg yno. Yn eu plith ceir cofnodion, 1964-1968; copi o gyfansoddiad y gymdeithas; gohebiaeth gyffredinol, 1964-1967 (gan gynnwys llythyrau oddi wrth Dr Kate Roberts a Ffowc Williams, Llandudno); a gohebiaeth gyda Phwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, 1964-1967, (llythyrau oddi wrth Mansel Williams, y cyfarwyddwr addysg, ac Eluned Ellis Jones, arolygydd ysgolion cynradd y sir), Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg, 1964-1966 (gan gynnwys llythyrau oddi wrth Cassie Davies), Pwyllgor Cyd-enwadol yr Iaith Gymraeg ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, 1964-1966, ac aelodau seneddol, 1964-1965 (llythyrau oddi wrth Denis Howells, Goronwy Roberts a Peter Thomas).

Gwlad y Bryniau

  • NLW MS 24054A.
  • File
  • [1909]

Drafft, [1909], yn llaw T. Gwynn Jones o'i awdl 'Gwlad y Bryniau', awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 1909, Llundain. = A holograph draft, [1909], of 'Gwlad y Bryniau' by T. Gwynn Jones, the winning awdl at the 1909 National Eisteddfod in London.
Mae'r llawysgrif yn gyfrol gyfansawdd, gyda nifer fawr o ddalennau (ff. 2-6, 8, 10-22, 25, 27-29, 32, 34-35) wedi eu tynnu allan o lyfr poced (LlGC, Papurau Thomas Gwynn Jones D320 erbyn hyn) sydd yn cynnwys drafft cynharach o rannau o'r awdl. Mae'r gweddill yn ddalennau newydd yn cynnwys rhannau diwygiedig o'r gerdd (ff. 1, 7, 9, 23-24, 26, 30-31, 33, 36-44). Mae'r testun yn cynnwys nifer fawr o newidiadau a diddymiadau, ac yn y ffurf ddiwygiedig yma mae'n cyfateb yn agos iawn i'r fersiwn orffenedig (gw. LlGC, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a beirniadaethau 1909/1). Cyhoeddwyd yr awdl gyntaf yng Nghofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), gol. gan E. Vincent Evans (Llundain, 1910), tt. 25-36, a'i ail-argraffu yn T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Y Drenewydd], 1926), tt. 20-44. = The manuscript is a composite volume, with many folios (ff. 2-6, 8, 10-22, 25, 27-29, 32, 34-35) being leaves removed from a pocket book (now NLW, Papurau Thomas Gwynn Jones D320) which contains an earlier draft of parts of the awdl. The remaining folios are new leaves containing revised sections of the poem (ff. 1, 7, 9, 23-24, 26, 30-31, 33, 36-44). The text contains many emendations and deletions and in this revised form corresponds very closely to the submitted version (see NLW, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a beirniadaethau 1909/1). It was first published in Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), ed. by E. Vincent Evans (London, 1910), pp. 25-36, and re-printed in T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Newtown], 1926), pp. 20-44.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Nodiadau pregethau a draddodwyd, 1864-72, yn eglwys y Bala, eglwys Llangywer, a mannau eraill. Ar ddiwedd y gyfrol ceir draffl ...,

Nodiadau pregethau a draddodwyd, 1864-72, yn eglwys y Bala, eglwys Llangywer, a mannau eraill. Ar ddiwedd y gyfrol ceir draffl o gyfarchion Saesneg i Syr Watkin [Williams Wynn] ar ran trigolion Llanuwchllyn a thenantiaid stad Glanllyn ac englynion cyfarch iddo. Ceir yr enw 'Evan Owens, Bryn Eden, Trawsfynydd' ar ddiwedd y gyfrol.

Results 121 to 140 of 45762