Showing 3783 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

W. J. Gruffydd

Gohebiaeth, 1928-1952, rhwng Iorwerth Peate a W. J. Gruffydd. Yn eu plith ceir llythyrau gan Jim Griffiths, William George, a H. J. Fleure; llawysgrif o ddarllediad W. J. Gruffydd, 'Yeoman's English' (1935); torion yn ymwneud ag erthygl W. J. Gruffydd 'The case against a National Council of Education for Wales', 1935; a llythyrau yn trafod achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1942-1943 a 1945, yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol W. J. Gruffydd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru yn y senedd, gan gynnwys llythyrau gan E. G. Bowen; David Davies (2); D. J. Llewelfryn Davies (4); E. Tegla Davies; Clement Davies; Leonard Twiston-Davies; D. Owen Evans; D. Tecwyn Evans (2); David Lloyd George (telegram); William Thomas Havard; Ernest Hughes; R. T. Jenkins (2); W. Goscombe John; E. K. Jones (4); Tom Jones (2); Thomas Artemus Jones; John Edward Lloyd; J. Dyfnallt Owen; Thomas Parry; Percy E. Watkins; J. Lloyd Williams; a Stephen J. Williams. Ceir hefyd ddatganiadau wedi'u harwyddo yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd; anerchiadau etholiadol; a deunydd amrywiol, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Lleol Caerdydd i gefnogi W. J. Gruffydd, a thaflenni printiedig.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Nodau clustiau defaid = : Sheep earmarks,

  • Mân Adnau 1626 (i & ii)
  • file
  • 1888-2004.

Cyfrolau llawysgrif, eitemau printiedig a llungopïau o ddeunydd yn cynnwys enghreifftiau o nodau clustiau defaid a ddefnyddir ledled Cymru, gan gynnwys cyfrol John R. Thickens, Cwmystwyth, 1922, gydag ymylon y tudalennau wedi’u torri ar ffurf y nodau clust. Ceir crynodeb o’r cynnwys yn y bocs cyntaf. = Manuscript volumes, printed items and photocopies containing examples of sheep earmarks used across Wales, including a volume by John R. Thickens, Cwmystwyth, 1922, with its pages cut in the shape of earmarks. A summary of the contents is in the first box.

Llythyrau,

Llythyrau, [1943]-[1961]. Ymhlith y gohebwyr mae Gwenallt, T. Charles Edwards (2), D. J. Wiliams, Saunders Lewis, Dr Noëlle Davies, Keidrych Rhys (2) ac Euros [Bowen], ynghyd ag enghreifftiau o emynau Saesneg a luniwyd ganddo.

Teyrngedau,

Teyrngedau i goffáu Trebor Lloyd Evans, 1979, ar gyfer Wilia [papur Cymraeg misol Abertawe], John Griffiths, 1980, Saunders Lewis, 1985, J. Henry Jones, 1985, Chris Zaremba, Y Faner, Mawrth 1990, Pennar Davies [cyhoeddwyd yn Taliesin, Gwanwyn, 1997], 'Cyfarch yr Athro W. D. Davies', [1984] ac i'w frawd Gwilym Griffiths, 2002.

Erthyglau,

Llawysgrifau erthyglau, adolygiadau a beirniadaethau'n bennaf, [1973]-1992, gan gynnwys nifer a anfonwyd at gylchgronau a phapurau Cymreig eraill fel Y Faner, Barn, Barddas a golygyddol Taliesin. Ceir hefyd Ddarlith Dyfnallt 'Yr ymwybod o genedl yng Nghymru diweddar', 1980; Darlith Flynyddol Emrys ap Iwan, Abergele, 1985; 'Gysfenu i'r wasg gynt', (Darlith Radio Flynyddol BBC Cymru, 1980) a 'Saunders Lewis 1893-1985', Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986.

Rhageiriau,

Rhageiriau, 1968-1980, gan gynnwys rhagair Gwenlyn Parry ar gyfer Tŷ ar y Tywod, 1968; rhageiriau Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones ar gyfer un o gyhoeddiadau Rhydderch Jones, [1975x1980]; a rhageiriau Gwenlyn Parry a Saunders Lewis ar gyfer Y Tŵr, 1979.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1962-1989, yn cynnwys yn bennaf llythyron at Gwenlyn Parry yn trafod ei fywyd a'i waith. Ymysg y gohebwyr mae John Wain, Saunders Lewis, Bobi Jones, Islwyn Ffowc Elis, a J. Ellis Williams. Ceir llythyron hefyd gan ei gyhoeddwyr yn trafod materion ariannol; llythyr o Dŷ'r Cyffredin yn beirniadu rhaglenni teledu Cymraeg; a llythyron o Swyddfa'r Arglwydd Siambrlen yn ymwneud â'r dramâu Y Ddraenen Fach a Poen yn y Bol.

Llythyrau P

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae R. Williams Parry (65, gan gynnwys teipysgrif o'r soned 'Y Dieithryn (John Saunders Lewis)', ac un cerdyn post, 1951, at Saunders Lewis), Syr Thomas Parry (25), Syr T.H. Parry-Williams (7), Ffransis G. Payne (20), Iorwerth C. Peate (17), a W. W. Price (7, un at R. T. Jenkins).

Llawysgrifau 'Dafydd Morganwg',

  • NLW ex 2417.
  • file
  • [1876]-[1902].

Papurau, [1876]-[1902], David Watkin Jones ('Dafydd Morganwg', 1832-1905), neu a grynhowyd ganddo. Mae rhai ohonynt yn ymwneud â'i gyhoeddiadau Yr Ysgol Farddol (1869) a Hanes Morganwg (1874), a'i waith fel golygydd barddoniaeth y Cardiff Times ac fel beirniad eisteddfodol.

Dafydd Morganwg, 1832-1905

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol gan gynnwys ysgrif 'The itinerant prophet etc' gan Crwys, 1925, ond a ysgrifennwyd yn Gymraeg; sgript 'Siencyn Penrhydd' gan Crwys, a llythyr, 1953, oddi wrth Elwyn Evans, BBC, yn ei gwrthod; llyfr nodiadau'n cynnwys ?anerchiad gan Crwys yn Saesneg ar 'the late Tom Ellis' [T. E. Ellis], [1899]-[1900]; 'Cywydd cyfarch Wncwl Crwys yn Neuadd y Graig' [yn 90 oed, 1965] gan Gwilym Herber [Williams]; a thaflen rhaglen deyrnged i Crwys a gynhaliwyd o dan nawdd Tŷ'r Cymry yn Abertawe, 1966.

Williams, Gwilym Herber

Plentyn Di-gartref,

Papurau'n ymwneud ag addasiad llwyfan o ddrama radio gan Marion Eames, Plentyn Di-gartref, [1985x2007], gan gynnwys sgript o'r addasiad, cyfarwyddiadau llwyfan a chopi o'r sgript radio wreiddiol. = Papers relating to a stage adaptation of the radio play by Marion Eames, Plentyn Di-gartref, [1985x2007], including a script of the adaptation, notes on stage direction and a copy of the original radio script.

I Hela Cnau,

Papurau'n ymwneud ag addasiad radio o nofel Marion Eames, I Hela Cnau, 1981, gan gynnwys sgriptiau o benodau 1-6 a chyfieithiad Saesneg o bennod 6. = Papers relating to the radio adaptation of the novel, I Hela Cnau, 1981, by Marion Eames, including scripts of episodes 1-6 and an English translation of episode 6.

Rhwng dau fyd

Llythyrau, 1976-1977, yn ymwneud â'r gyfrol Rhwng dau fyd. Darn o hunangofiant (Dinbych, 1976), gan gynnwys rhai oddi wrth David Jenkins; a Kate Roberts; ynghyd ag adolygiadau o'r llyfr.

Jenkins, David, 1912-2002.

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1991, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, yn ogystal ag englynion ganddo (ff. 20 verso, 29 verso, 36, 52). = Diary of T. Llew Jones for 1991, giving an account of his daily life and interests, and also including englynion by him (ff. 20 verso, 29 verso, 36, 52).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), Donald Evans (ff. 86, 96, 100 verso, 101), Llwyd o'r Bryn (f. 132 verso), ac addasiad teledu Carol Byrne Jones o Tân ar y Comin (ff. 47, 85 verso, 92 verso, 146); ceir hefyd gyfeiriadau at gwymp Comiwnyddiaeth (ff. 116-119 verso, 122-123 verso, 169, 173 verso, 178 verso), Rhyfel y Gwlff (ff. 5-56 passim) a throwynt yn Llangynog ger Caerfyrddin (f. 31 verso). = The volume includes references to Dic Jones (passim), Donald Evans (ff. 86, 96, 100 verso, 101), Llwyd o'r Bryn (f. 132 verso) and Carol Byrne Jones' television adaptation of Tân ar y Comin (ff. 47, 85 verso, 92 verso, 146); also included are references to the fall of Communism (ff. 116-119 verso, 122-123 verso, 169, 173 verso, 178 verso), the Gulf War (ff. 5-56 passim) and a tornado which occurred in Llangynog, Carmarthenshire (f. 31 verso).

Papurau Vernon Watkins

Papurau yn ymwneud â'r bardd Vernon Watkins, 1941-1970, gan gynnwys llythyrau oddi wrtho ef a'i wraig at eu plant ac at Dr Iorwerth Hughes Jones a'i wraig, ynghyd â llythyr oddi wrth Miss J. McConnick at Mrs Iorwerth Hughes Jones, llythyr oddi wrth fam Vernon Watkins at Dr Iorwerth Hughes Jones ar ôl marwolaeth ei mab, a chardiau printiedig yn diolch am gydymdeimlad; torion papur newydd yn ymwneud â Vernon Watkins a'i waith, gan gynnwys adroddiadau ar ei farwolaeth a'r gwasanaethau coffa iddo, ynghyd â rhai ysgrifau coffa; a llun o Caswell Bay.

Watkins, Vernon Phillips, 1906-1967

Results 141 to 160 of 3783