Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cerdd Olaf Arthur ag Ef yn Alltud yn Awstralia

Cerdd lawysgrif gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl 'Cân Olaf Arthur', sef Cerdd Olaf Arthur ag Ef yn Alltud yn Awstralia, rhan o'r bryddest Y Gân Ni Chanwyd, a gyfansoddwyd gan Waldo Williams tua diwedd y 1920au ond nas cwblhawyd.

Cerddi

Cerddi yn ei law, cyhoeddwyd llawer ohonynt yn Ffynhonnau uchel (2012), ynghyd â 'High Springs' sef cyfieithiad o'r gerdd sy'n dwyn yr un teitl â'r gyfrol a chopi o'r gyfrol hefyd,

Cerddi

Tri llyfr nodiadau, [1935]-[1952] yn cynnwys cerddi ganddi, nifer ar ffurf cwpledi. Ymhlith y cerddi mae cerdd i 'Capel Salem', 1936, a llyfr 'Brynhyfryd Grammar School' yn cynnwys hwiangerddi.

Cerddi

Cerddi, 1937-[1988], gan gynnwys 'Codasom gaer' mewn copi o Tir newydd, Tachwedd 1937; 'Siwrnai'r dewiniaid', trosiad o [Journey of the Magi] gan T. S. Eliot; ‘Cyfarchiad i’r Cymry ar wasgar’ a ‘Mynydd fy mynyddoedd’.

Cerddi

Cerddi llawysgrif a theipysgrif gan T. Eirug Davies, 1913-1951, gan gynnwys ‘Unigedd’, pryddest a anfonodd i gystadleuaeth y bryddest, Eisteddfod Bala Bangor, 1913; soned ‘Pori’, Eisteddfod y Brifysgol, 1919; 'Rhyfel’, Eisteddfod y Brifysgol. Ceir cerddi hefyd ar gyfer eisteddfodau lleol fel ‘Y gof’ a cherddi a anfonodd i’r Western Mail, ynghyd â chopi o gerdd deyrnged ‘Er cof am Eirug’ gan S. B. Jones, a gyhoeddwyd yn Y Tyst, 25 Hydref 1951.

Cerddi amrywiol

Teipysgrif a llungopïau o amrywiol gerddi yn dwyn y teitlau 'Dydd Barn A Diwedd Byd', 'Saunders Lewis', 'Brambles' a 'Ynys Ffri (O Saesneg W. B .Yeates [sic]' (y ddwy olaf wedi'u llungopïo o ffynhonell brintiedig). Ceir llungopi o gerdd ddrafft - a ymddengys ei bod yn hanner Cymraeg, hanner Saesneg - ar gefn y gerdd 'Saunders Lewis'.

Copïau teipysgrif o sonedau a ymddengys fel pe baent wedi'u cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth, gan gynnwys y soned fuddugol, pob un â ffugenw atodol.

Llungopi o gerdd ddi-enw mewn teipysgrif yn dwyn y teitl 'Stafell Blaentwrch'.

Cerddi amrywiol

Cerddi gan gynwys torion o'i gerddi a gyhoeddwyd yn Barn a'r Faner a llyfr wedi'i labelu ganddo yn 'Cerddi newydd Gwilym R.' gyda nodiadau cefndirol wedi'u hychwanegu yn ddiweddarach, ynghyd â llythyr oddi wrth aelod o dîm golygyddol y cylchgrawn Woman's Own yn dychwelyd ei bennill 'Compensation (for men)' gyda'r ffugenw 'Rhys Colwyn' .

Cerddi Gwilym Cowlyd

  • NLW MS 14926A.
  • File
  • 1819-1868

Llyfr nodiadau, 1819-1868, yn cynnwys cerddi holograff gan W. J. Roberts (Gwilym Cowlyd), 1858-1868. = Notebook, 1819-1868, containing holograph poems by W. J. Roberts (Gwilym Cowlyd), 1858-1868.
Mae'r cerddi yn cynnwys fersiwn ddrafft a chynllun o'r bryddest 'Dr William Morgan' (ff. 2-15) a fu'n fuddugol yn Eisteddfod Betws y Coed, Nadolig 1859, a 'Gogangerdd i Ddirmygwyr Cyfarfodydd Llenyddol', 1868 (ff. 17, 19), y ddwy wedi eu cyhoeddi yn Y Murmuron (Llanrwst, 1868), ynghyd â nifer o englynion a phenillion eraill (f. 17 verso-18 verso, 19 recto-verso, 21 verso). Mae yna hefyd nodiadau amrywiol ar William Morgan, Robert Ferrar a'r Diwygiad Protestannaidd (ff. 19 verso-21). Mae yna ychydig gyfrifon amrywiol, 1819, mewn llaw arall (f. 1 a thu mewn i'r cloriau). = The poems include a draft version and a plan of a pryddest to Dr William Morgan (ff. 2-15) which won a prize at Betws y Coed Eisteddfod, Christmas 1859, and a satire, 'Gogangerdd i Ddirmygwyr Cyfarfodydd Llenyddol', 1868 (ff. 17, 19), both published in Y Murmuron (Llanrwst, 1868), along with englynion and other verses (some illegible) (f. 17 verso-18 verso, 19 recto-verso, 21 verso). There are also miscellaneous notes on William Morgan, Robert Ferrar and the Protestant Reformation (ff. 19 verso-21). A few miscellaneous accounts, 1819, are in a different hand (f. 1 and inside the covers).

Gwilym Cowlyd, 1828-1904

Cerddi Rhys Jones o'r Blaenau

  • NLW MS 23904D.
  • File
  • [18 gan., hwyr]

Dwy gerdd gan Rhys Jones o'r Blaenau, [18 gan., hwyr], wedi eu hysgrifennu mewn dwy law debyg iawn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ar dwy ddalen rydd. = Two poems by Rhys Jones, Blaenau, [late 18 cent.], written in very similar late eighteenth-century hands on two separate leaves.
Cyhoeddwyd y cerddi, 'Cywydd a wnaeth Rees Jones yn y Werddon' (f. 1) ac 'Englynion y Gisd Goch…1766' (f. 2), yn W. Leslie Richards, 'Dwy gerdd o'r ddeunawfed ganrif', Llên Cymru, 15 (1984-8), 355-359; ceir y ddwy, yn llaw y bardd ei hun, yn NLW MS 3059D (Mostyn MS 163), tt. 189 a 202. = Both poems, 'Cywydd a wnaeth Rees Jones yn y Werddon' (f. 1) and 'Englynion y Gisd Goch…1766' (f. 2), were published in W. Leslie Richards, 'Dwy gerdd o'r ddeunawfed ganrif', Llên Cymru, 15 (1984-8), 355-359; both may be found, in the poet's own hand, in NLW MS 3059D (Mostyn MS 163), pp. 189 and 202.

Jones, Rhys, 1713-1801

Cerddi/Beth Yw Cynghanedd?

Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau teg o'r cerddi Byd yr Aderyn Bach a Y Ci Coch gan ac yn llaw Waldo Williams, y ddwy gerdd yn ddi-deitl yn y gyfrol hon ac wedi'u harwyddo 'Waldo'; toriad papur newydd (Y Faner, 30 Awst 1939 a 6 Medi 1939) yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Beth yw Cynghanedd?' gan Waldo Williams, ynghyd â rhan o baragraff cyntaf yr erthygl yn llaw Waldo Williams; torion papur newydd (Y Faner, 23 Chwefror 1944 a 18 Tachwedd 1944) yn cynnwys y cerddi Y Plant Marw ac Elw ac Awen gan Waldo Williams; ac englyn gan ac yn llaw Waldo Williams i gyfarch ei gyfaill yr awdur a'r bardd T. Llew Jones wedi iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958, ynghyd â'r nodyn 'Cyfarfod dathlu Llew yn neuadd Pantycelyn Aberystwyth'. Ceir nodyn o'r dyddiad 'Hyd. 20. 1948' [?yn llaw Waldo Williams] ar un dudalen a cheir enw Dilys Williams, chwaer Waldo, a'r nodyn 'Cynghanedd' ar y clawr. Lluniwyd y gerdd Y Plant Marw yn gynnar ym 1944 a'i chyhoeddi yn rhifyn 23 Chwefror 1944 o'r Faner, tra cyhoeddwyd y ddwy soned Elw ac Awen mewn rhifyn mis Tachwedd o'r Faner yr un flwyddyn.

Cerddi'r Parchedig John Roberts, [Llanfwrog]

Tri llyfryn teipysgrif a gyflwynwyd i Emlyn Evans a’i wraig Eileen gan eu cyn-weinidog y Parchedig John Roberts, Caernarfon, gyda'r teitlau ‘Ebyrth gorfoledd’, ‘Ambell gyffro’ yn cynnwys emynau a cherddi ganddo, a ‘Bardd yr Haf’ yn cynnwys cerddi coffa i'r bardd R. Williams Parry.

Cerdyn coffa Mary Llewellyn

Cerdyn coffa ('In Memoriam') Mary Llewellyn, Denver, Colorado, Unol Daleithiau, a fu farw ychydig ddyddiau wedi genedigaeth ei merch, Gwladys Mary Llewellyn (gweler Gwladys Llewellyn dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).

Cerdyn post at Waldo Williams oddi wrth Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)]

Cerdyn post, marc post 4 Medi 1920, a anfonwyd at Waldo Williams gan [ei chwaer] Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)], yn llongyfarch Waldo, yn ôl pob tebyg am ennill Gwobr James yng nghyfarfod gwobrwyo Ysgol Ramadeg Arberth, lle bu'n ddisgybl o 1917 hyd 1922 (gweler Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams).

Results 161 to 180 of 1284