Print preview Close

Showing 59941 results

Archival description
Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyffredinol LWL, Rhag. 2013; nodiadau ar gyfer cyfarfod bwrdd crwn rhwng Dr Thomas Thabane, prif weinidog Lesotho, a Mike German, llywydd Dolen Cymru, Ebrill; nodyn hunangofiannol gan Dr Carl Clowes am gyflwyniad ar Nant Gwrtheyrn i Gymdeithas Treftadaeth Basotho, Ebrill 2014; a rhestr o leoliadau ILO yn Lesotho, 2013-2016.

Dysgwyr

Cerdd: ‘Gobaith’ (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Taith’ (y tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn caffi; dyddiadur wythnos; llythyr yn annog rhywun i ddysgu Cymraeg; adolygiad o unrhyw ffilm neu raglan deledu; a chasgliad o ddeunydd i ddenu ymwelwyr i’ch ardal mewn unrhyw ffurf (gwaith grŵp neu unigol).

Cofnodion cyfarfod y Grŵp Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Grŵp Ymgynghorol (yn flaenorol y Pwyllgor Ymgynghorol) y Ganolfan, Hydref 2014, a Chwefror a Mehefin 2015; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2015; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2014-2015 (2015); a llythyrau (2015) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau), Tachwedd a Rhagfyr 2014, ac Ionawr, Mawrth, Ebrill, Gorffennaf, a Medi 2015; a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Graddau Ymchwil, Tachwedd 2014.

Ffeiliau cyffredinol

Ffeiliau yn cynnwys deunydd cymysg a drefnwyd gan Ieuan Wyn Jones gan gynnwys deunydd ar Blaid Cymru, ymgyrchoedd etholiadau, Keith Best, datganoli, gwaith llywodraeth, clymbleidio, yr Undeb Ewropeaidd a Threth y Pen.

Barddoniaeth

Awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: ‘Gwe’; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Breuddwyd’; ‘englyn unodl union: ‘Graffiti’; englyn unodl union ysgafn: ‘Moderneiddio’; cywydd : ‘Perthyn’; hir a thoddaid: ‘Pengwern’; telyneg: 'Argae'; soned: ‘Adwy’; baled: ‘Plygain’; carol Blygain; saith triban: 'Dyddiadur wythnos'; casgliad o chwe cherdd ar gyfer plant cynradd: (testun yn agored); a blodeugerdd o gerddi gan feirdd gwlad ardal benodol.

Rhyddiaith

Ysgoloriaeth Emyr Feddyg (braslun nofel pennod agoriadol nofel, straeon byrion neu ysgrifau); stori fer: ‘Gadael’; stori ffantasi; stori fer ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau; llên micro: Casgliad o 8 darn ar ffurf llên micro: ‘Profiad’; ysgrif yn ymwneud â byd natur; dyddiadur: 10 darn amrywiol un ar ffurf dyddiadur gwledig addas i gyfres mewn papur bro; a charwriaeth drwy e-bost: cyfres o negeseuon yn dangos datblygiad/dirywiad mewn perthynas dros gyfnod penodol.

Rhodd 2021

Papurau gwleidyddol Ieuan Wyn Jones gan gynnwys deunydd yn ymwneud a'i ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau i Senedd y Deyrnas Gyfunol, ei waith fel Aelod Seneddol dros Ynys Mon, gwaith o fewn Plaid Cymru, fel Aelod o'r Cynulliad dros Ynys Mon, Llywydd Plaid Cymru, Arweinydd Grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol a Dirprwy Prif Weinidog Cymru.

Ffeiliau pwnc

Papurau Ieuan Wyn Jones wedi trefnu fesul pwnc yn cynnwys deunydd ar fesydd yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd, Deddf yr iaith Gymraeg, Rhyfel Bosnia, rheoleiddio'r marchnad teclynnau clyw, a threfniadau Plaid Cymru.

Results 161 to 180 of 59941