Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 839147 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Gohebiaeth amrwyiol

Gohebiaeth amrywiol (1991-1993 yn bennaf), gan gynnwys papurau sy'n ymwneud â Darlith Flynyddol gyntaf Dolen Cymru gan O. T. Sefako, 1991; copïau o Ysgol Alwedigaethol L.N.C.W Makhethisa, Pitseng, rhifau 1-4, 1991-1992; a cheisiadau grant y Loteri a Chomic Relief, 1997-2000.

Y Cyngor Prydeinig

Gohebiaeth amrywiol gyda'r Cyngor Prydeinig, yn ymwneud yn bennaf â datblygu cysylltiadau, a threfnu ac ariannu teithiau rhwng Cymru a Lesotho.

Strategaeth

Papurau'n ymwneud â strategaeth Dolen Cymru, gan gynnwys strategaethau drafft 1995-2000 a 2001-2006; cais Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, 2001; penodi cyfarwyddwr datblygu, 2001-2002; a chodi arian ar gyfer swyddog addysg.

Datblygiadol a chyfansoddiadol

Cyfansoddiad Dolen Cymru/Lesotho-Wales, [c.1990au], strategaethau drafft, 1995-2000, 2007-2010, 2008-2011, 2012-2017, a chynllun busnes, 2005-2008. Hefyd, araith (yn y Gymraeg) gan Mohlabi Tsekoa, uchel gomisiynydd Lesotho, i'r Eisteddfod, 1995; ethol is-lywyddion newydd, 1997-1998; papurau'n ymwneud â Chanolfan Cymru arfaethedig yn Lesotho, c.2008; papur drafft, 'Wales and Scotland in Africa: opportunities for a coordinated UK approach to development', c.2011, gan gynnwys edrych ar Bartneriaeth Scotland-Malawi, Wales For Africa, Dolen Cymru, a'r ymgais aflwyddiannus i efeillio Cymru gyda Somaliland; papurau yn ymwneud â chydweithrediad rhwng Dolen Cymru a Lesotho-Wales Link a'r cysyniad o Ganolfan Lesotho Cymru, c.2014. Hefyd, 'Dolen Cymru, a chronology, 1982-2004', 'Prif weithgareddau cyfnod gwaith prosiect Dolen 1997-2000', a chytundeb lefel gwasanaeth rhwng Dolen Cymru a Lesotho-Wales Link, d.d.

Llywodraeth lleol

Llythyrau yn ymwneud â chysylltiadau Lesotho â Solace (Prif Weithredwyr Cymdeithas Awdurdodau Lleol), yn enwedig Basildon, 1986, a Chaerdydd, 1988.

Meddygol a iechyd

Llythyrau amrywiol yn ymwneud â materion meddygol ac iechyd, gan gynnwys apêl am gwybodaeth ynglyn â sgrifen ar fur un o'r tai bach crwn Leprosarium Bothsabela yn yr iaith Sesotho, 'Rhodd gan myfyrwyr - genod o Gymru - Awst 1936'.

Uchel Comisiwn

Gohebiaeth amrywiol a phapurau eraill, yn bennaf gydag Uchel Gomisiwn Teyrnas Lesotho, Llundain.

Côr Athrawon Maseru

Llythyrau amrywiol yn ymwneud ag ymweliad Côr Athrawon Maseru â Chymru, Gorffennaf 1988, gan gynnwys cystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Ymweliadau

Papurau paratoadol ac adroddiadau ar ymweliadau gan ddirprwyaethau Cymreig i Lesotho, 1987-1997, ac ymweliadau gan ddirprwyaethau Lesotho â Chymru, 1990-1998.

Ymweliadau

Llythyrau, teithlenni, adroddiadau a phapurau eraill yn ymwneud ag ymweliadau gan ddirprwyaethau Lesotho â Chymru a'r DU, ac ymweliadau gan ddirprwyaethau o Gymru i Lesotho.

Iechyd

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys gohebiaeth, adroddiadau, papurau pwyllgorau a.y.b.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, yn cynnwys y daith ar gyfer ymweliad Lineo Phachaka, cynghorydd anghenion arbennig â Gweinidogaeth Addysg Lesotho â Chymru, Ebrill, ac adroddiad byr ar yr ymweliad, Mai 1993; a llythyr gan Lineo Phachaka, Ionawr 1994.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys adroddiad gwerthuso cymuned Ardal Quthing 2007; Comisiwn Cenedlaethol AIDS Lesotho, 'Coordination framework for the national response to HIV and AIDS', Mawrth 2007; ac adroddiad gan Manon Dafydd, 'Sut mae llywodraethau Cymru a Lesotho yn ôl i'r clefyd HIV yn y ddwy wlad', [c.2007].

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys ymweliad Pwyllgor HIV/AIDS Senedd Lesotho â Chymru, Mawrth; 'NHS appraisal: a short stay in Lesotho, 2006-2007', gan Dr D. Liesbeth Meuwissen a Dr Carl Clowes, Ebrill, ynghyd â 13 ffotograff; a drafft 'Requirements for medical students, medical, dental and professional staff working in Lesotho with the support of Dolen Cymru / Lesotho Wales Link', Rhagfyr 2008.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys Memoranda Cyd-ddealltwriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gweinyddiaeth Iechyd a Lles Cymdeithasol Lesotho, a rhwng Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a Chymuned Iechyd Ardal Quthing; a phapurau cyfarfodydd Pwyllgor Iechyd, Mai a Medi.

Canlyniadau 161 i 180 o 839147