Dangos 81 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau J. Gwyn Griffiths,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Achos Chris Rees,

Llythyrau'n ymwneud ag achos Chris Rees, a garcharwyd yn 1955 am wrthod gwneud gwasanaeth milwrol, gan gynnwys neges oddi wrtho a ysgrifennwyd o Garchar Abertawe fel ymgeisydd Plaid Cymru (etholaeth Gŵyr) yn Etholiad Cyffredinol 1955, llythyr o gefnogaeth oddi wrth Kate Roberts a thorion o'r wasg.

Roberts, Kate, 1891-1985

Achos John Jenkins,

Papurau, 1972-1985, yn ymwneud ag achos John Jenkins a'i gais yn 1980 i ddilyn cwrs diploma mewn gwaith cymdeithasol a wrthodwyd gan Brifysgol Abertawe. Ceir llythyrau oddi wrth Tedi [E. G. Millward], Meredydd Evans ac eraill, llythyrau at y wasg a thorion, copi teipysgrif o'r ddeiseb a arwyddwyd gan aelodau o Brifysgol Cymru, 1981, a phapurau hefyd yn ymwneud â'i garchariad yn 1983.

Millward, E. G. (Edward Glynne), 1930-

Adolygiadau o lyfrau,

Torion o'i adolygiadau, [1943]-[1987], a gyhoeddwyd mewn papurau fel y South Wales Evening Post, Y Faner, Y Ddraig Goch, Seren Cymru, ynghyd â llawer mewn teipysgrif.

Aristoteles: Barddoneg (1978, 2001),

Papurau, 1974-1978, yn ymwneud â chyhoeddi'i gyfieithiad Aristoteles: Barddoneg gyda rhagymadrodd a nodiadau ganddo. Ceir llythyrau oddi wrth Ceri Davies, R. Brinley Jones, Saunders Lewis, Alan Llwyd, Meic Stephens a llythyr oddi wrth Ceri Davies am ailgyhoeddi'r gyfrol yn 2001.

Davies, Ceri.

Beirniadaethau eisteddfod,

Beirniadaethau ar y fedal ryddiaith, [Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952], y soned yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint, 1969, ynghyd â llythyr oddi wrth ei gyd-feirniad J. Tysul Jones, y soned arbrofol yn [Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1970] a'r bryddest yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd, 1972, gan gynnwys llythyrau oddi wrth ei gyd-feirniaid Haydn Lewis a Bobi Jones. Ceir hefyd ei feirniadaeth ar y cyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg, Eisteddfod Ryngolegol Abertawe, 1984.

Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986.

Bro a Bywyd D.J. Williams, (1983),

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi'i gyfrol yn y gyfres Bro a Bywyd yn 1983 gan gynnwys llythyrau, 1940-1967, oddi wrth D. J. Williams, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans yn diolch am y gyfrol ac adolygiadau hefyd. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â D. J. Williams, Y gaseg ddu a gweithiau eraill (1970), wedi'u casglu a'u golygu gyda rhagymadrodd gan J. Gwyn Griffiths.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Cath a Llygoden (1994),

Papurau'n ymwneud â pharatoi'r cyfieithiad o nofel Günter Grass, Katz und Maus, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Gwilym Ll[oyd] Edwards, y cyfieithydd, a phroflenni. J. Gwyn Griffiths oedd golygydd cyfres yr Academi o gyfieithiadau.

Edwards, Gwilym Lloyd, 1920-

Ceisiadau,

Papurau, 1933-1986, gan gynnwys cais am radd DD, 1980, tystlythyrau, 1933-1934 a curriculum vitae, cais am gadair yn y Clasuron, Prifysgol Abertawe, 1967, ymchwil proffesiynol, ynghyd ag adroddiad 'Taith Ymchwil yn yr Undeb Sofiet', 1986.

Cenedlaetholdeb a'r clasuron (1997),

Papurau'n ymwneud â threfniadau Cyngres Canmlwyddiant Urdd y Graddedigion a gynhaliwyd yng Ngregynog, Mawrth 1994, gan gynnwys llythyr oddi wrth Telfryn [Pritchard], 1994, a'r ddarlith mewn teipysgrif.

Pritchard, R. Telfryn (Roger Telfryn), 1940-

Cerddi Groeg clasurol (1989),

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi'r gyfrol a olygwyd ganddo, gan gynnwys llythyr oddi wrth Ceri Davies, 1986, llythyrau oddi wrth [R.] Telfryn Pritchard, 1987, a Gareth Alban Davies, 1988, ynghyd ag adolygiad gan Ceri Davies, 1989.

Davies, Ceri.

Cerddi o'r Lladin (1962),

Rhifyn o’r Llenor, Gaeaf, 1934, yn cynnwys papurau’n ymwneud â chyhoeddi’r gyfrol o drosiadau a olygwyd ganddo, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Hudson [Williams], 1954, Cynan, 1947, Mari Headley [Ellis], 1947, E. Tegla Davies, 1954, T. I. Ellis, 1947, a chyfieithiadau drafft.

Hudson-Williams, T. (Thomas), 1873-1961.

Cerddi,

Cerddi mewn teipysgrif a gyhoeddwyd yn Cerddi’r Holl Eneidiau yn 1981 ac yn ddiweddarach yn Hog dy fwyell (2007), casgliad o gerddi J. Gwyn Griffiths a olygwyd gan ei fab Heini Gruffudd.

Cydymaith (1986),

Llythyrau, 1978-[1982], oddi wrth olygydd cynorthwyol yr Academi Gymreig yn ei wahodd i gyfrannu i'r cyfeirlyfr, ynghyd â chanllawiau i gyfranwyr.

Cydymaith (1997),

Llythyrau, [1995]-[1997], yn ymwneud â'r cyhoeddiad, ynghyd â drafftiau o'i gyfraniadau a chanllawiau gwirio a diweddaru.

Cyfieithiadau,

Trosiad T. Hudson-Williams o Athaliah gan Jean Racine, [1948], ynghyd â rhagymadrodd a gyhoeddwyd yn Y Genhinen, 1926, a llythyr oddi wrtho, 1948; ei drosiad o Storïau Erben, 1954, ac o Storïau Tolstoi, 1955; a chyfieithiad T. P. Williams o Barabbas gan Pär Lagerkvist, 1975.

Hudson-Williams, T. (Thomas), 1873-1961.

Canlyniadau 1 i 20 o 81