Dangos 10 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofnodion Capel Y Morfa, Abergele
Rhagolwg argraffu Gweld:

CMA: Cofnodion Capel Y Morfa, Abergele

  • GB 0210 MORELE
  • fonds
  • 1930-2003

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Capel y Morfa, Abergele, gan gynnwys dau lyfr cofnodion, 1930-1996, dau lyfr cyfrifon, 1967-2002, pamffledi yn ymwneud â hanes y capel a'r henaduriaeth, 1966-2003, a phapurau perthnasol eraill, 1966-2003.

Morfa (Church : Abergele, Wales)

Llyfr cofnodion

Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi teipysgrif o gytundeb tir Ty'n Llyn, Abergele, Dinbych, 1866, lle adeiladwyd Capel y Morfa; a chopi llawysgrif o ewyllys, 1960.

Pamffledi

Mae'r ffeil yn cynnwys pamffledi, 'Capel y Morfa: Hanes yr Achos 1866-1966', 1966, 'Eglwys Bresbyteraidd Cymru: Henaduriaeth Dyffryn Clwyd: Hanes yr Achos', 1994, a 'Blwyddlyfr Henaduriaeth Dyffryn Clwyd 2003', 2002.

Rhaglenni cyfarfodydd

Mae'r ffeil yn cynnwys rhaglenni cyfarfodydd: 'Cyfarfod Dathlu Canmlwyddiant Capel Morfa', 1966, 'Gwasanaeth sefydlu y Parch. Ifan Rhisiart Roberts', 1992, a 'Cyfarfod Sefydlu Mr. Robert E. H. Parry', 1996.