Papurau, [1948]-[1985], yn ymwneud â'r llenor Gwenallt, gan gynnwys rhaglen deyrnged a gyflwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw, 1980, y sgript gan Dafydd Rowlands [diweddar ŵr Mrs Margaret Rowlands].
Cyfrol o farddoniaeth David Davies, tad yr artist John Elwyn a pherchennog ffatri wlân Emlyn yn Adpar, gan gynnwys cerddi a anfonodd i eisteddfodau lleol, [1892]-[1937].
Atgofion John P. Davies am ei blentyndod yn Nyffryn Aman gyda'r digrifwr a'r perfformiwr Ryan Davies, a'u cyfnod yn gwneud gwasanaeth milwrol yn y Llu Awyr, [2000x2009], ynghyd ag atgofion yr awdur o'i brofiadau yn gwasanaethu ym Mesopotamia, 1955-57.
Llyfr nodiadau, [?1897], yn cynnwys cerddi amrywiol, gan gynnwys enghraifft wych o gerdd hir yn nhraddodiad yr arwrgerdd yn dwyn y teitl 'Brawdoliaeth gyffredinol', o bosib gan William Davies, Bronheulwen, Llanidloes ['Brawdoliaeth gyffredinol' oedd testun yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897].
Papurau, 1950-1966, gohebiaeth yn bennaf yn ymwneud ag Urdd Siarad Cymraeg, sef mudiad a sefydlwyd gan y Parch. Ddr R. Leonard Hugh ac eraill ym mis Mai 1947, ynghyd â llyfr nodiadau a chyfrifon a ddefnyddiwyd ym mhabell yr USC yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth, 1952 ac yn Y Rhyl, 1953.
Cofysgrifau Capel Bethel, Llanpumsaint, 1935-2014, yn cynnwys cofrestr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau, 1950-2014; cofnodion ariannol, 1941-2013; a llyfr cofnodion, 1953-1958. = Records of Bethel Chapel, Llanpumsaint, 1935-2014, including a register of births, baptisms and burials, 1950-2014; financial records, 1941-2013; and a minute book, 1953-1958.
Y gyfrol gyntaf mewn cyfres o chwech yn cynnwys adysgrifau o bregethau ar y Testament Newydd gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, wedi eu copïo yn nhrefn y Beibl. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys pregethau ar Efengyl Mathew ac fe'i cwblhawyd ar 5 Tachwedd 1760 (t. 1244). = The first volume in a series of six containing transcripts of sermons on the New Testament by the Rev. Griffith Jones of Llanddowror, transcribed in Bible order. This volume contains sermons on the Gospel of St Matthew and was completed on 5 November 1760 (p. 1244). Mae'r gyfrol wedi ei ysgrifennu mewn dwy law: mae'r rhestr cynnwys anghyflawn (ff. ii-iii) a nifer o gywiriadau ac arnodiadau yn y testun yn llaw'r Parch. Thomas Evans, curad Llanddowror a rheithor Walton, sir Benfro; ni adnabuwyd copïwr y prif destun (tt. 35-1244) gan y catalogydd. O'r 93 pregeth a gopïwyd i'r gyfrol yn wreiddiol (gw. y nodyn y tu mewn i'r clawr blaen) erbyn hyn mae pump, gan gynnwys y cyntaf, yn anghyflawn, ac mae un ar goll yn gyfan gwbl (tt. 476-[486]). = The volume is in two hands: the incomplete table of contents (ff. ii-iii) and a number of corrections and annotations to the text are in the hand of the Rev. Thomas Evans, curate of Llanddowror and rector of Walton, Pembrokeshire; the scribe of the main body of the text (pp. 35-1244) has not been identified by the cataloguer. Of the 93 sermons originally transcribed in the volume (see note inside front cover) five are now incomplete, including the first, and one is missing in its entirety (pp. 476-[486]).
Cofnod o gyfarfod i ddathlu cyfraniadau Roy Saer a Robin Gwyndaf i fyd traddodiadau gwerin rhwng 1964 a 2013, a luniwyd gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru, 2 Tachwedd 2013, mewn teipysgrif.
Casgliad o bapurau amrywiol yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru, wedi eu casglu ynghyd gan Meri Huws yn ystod y 1970au fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel ymgyrchydd iaith ac yn adlewyrchu ei diddordebau gwleidyddol.
Llawysgrif dwy sioe gerdd: 'Culhwch ac Olwen' [gan Rhiannon Ifans] a 'Dŵr' [sioe am hanes Tryweryn gan Bethan Bryn a Jeremy Turner a berfformiwyd yng Ngŵyl Gerdd Dant Aberystwyth, 2003], gyda rhai gosodiadau cerdd dant.