Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Lears; Halfords; Lloyds Chemist; Littlewoods; Lakeland; Laura Ashley; PC World; Panasonic; Partners; Peacocks

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1986-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a storfeydd cenedlaethol yn trafod polisi iaith Gymraeg, yn cynnwys llythyrau (1995-1996), o’r Arglwydd Hooson. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiad i’r wasg (1996); cofnodion cyfarfod (1990); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Teithio a Thrafnidiaeth

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, nodiadau, a phapurau, 1989-1999, yn ymwneud â pholisïau iaith cwmnïau a gwasanaethau trafnidiaeth amrywiol. Mae’r rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau yn trafod polisi iaith Maes Awyr Caerdydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth sawl Aelod Seneddol Cymraeg; Aelodau Seneddol Ewropeaidd; Yr Arglwydd Prys-Davies; y cwmni TBI Airport Holdings; a gohebiaeth ar y mater yn gysylltiedig â’r papur Cymraeg Americanaidd, Ninnau. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a datganiadau i’r wasg yn ymwneud â pholisïau iaith sawl cwmni trafnidiaeth.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Chwefror 1999; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1998-1999 (1999); cofnodion cyfarfod, Medi 1998; ac agenda a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 1999; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1997-1998 (1998); adroddiad ariannol y Ganolfan, 1998-1999 (1999); copi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 2 (1999); a phoster cynhadledd ‘Cymru a’r Cymry 2000’ (1999). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1998-1999), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; Branwen Jarvis; Keith Robbins; M. Wynn Thomas; Derec Llwyd Morgan; a John Andrews.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agendâu, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr 2000 a Mai 2000; cofnodion cyfarfod, Hydref 1999; adroddiad ariannol, 1999-2000 (2000), ac adroddiad blynyddol, 1999-2000 (2000); agenda a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 2000; dyraniadau cyllid (2000); cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil, Medi 2001; a manylion prosiect ‘The Welsh Romantic Tradition’ (2000). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1999-2000), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Myrddin ap Dafydd; Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Aeres Davies; Yvonne Hawkins; Ian George; Sara Lee Branch; Branwen Jarvis; Derec Llwyd Morgan; Roy Evans; John King; R. H. Williams; Gillian Birch; a John Andrews.

Papurau amrywiol

Llythyr printiedig, 1954, wrth iddo ffarwelio â’r eglwys yn Llanfair Caereinion, sgwrs am ‘Tegla’ ar gyfer Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1980, ynghyd â manylion am ei yrfa a’i gyhoeddiadau, [1983] a llungopi o bapur bro Nene, Ebrill 2000, yn cofnodi 'Cinio llenyddol efo Islwyn Ffowc Elis'.

Results 681 to 700 of 1033