Showing 583 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1965

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenallt, Bobi Jones, Alun Talfan Davies, John Gwilym Jones, Kate Roberts, Bedwyr Lewis Jones, Gwyn Thomas, Rhiannon Davies Jones, Alun Jones, Y Cilie, Gareth Miles a G. J. Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1961

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; D. Myrddin Lloyd, T. H. Parry-Williams, John Gwilym Jones, R. Gerallt Jones a J. E. Caerwyn Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1960

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod cyfarfodydd cynnar yr Academi ac ethol ei swyddogion cyntaf; Yr Athro Griffith John Williams (Llywydd), Iorwerth Peate (Cadeirydd), Bobi Jones (Ysgrifennydd) a Gwilym R. Jones (Trysorydd), ynghyd â llungopïau o'r drafodaeth a fu yn y wasg a sylwadau ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, John Gwilym Jones, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Saunders Lewis, J. M. Edwards, Thomas Parry, Gwenallt, Waldo Williams, Aneirin Talfan Davies, Pennar Davies, Euros Bowen, D. J. Williams, T. J. Morgan a D. Myrddin Lloyd.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1958

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwenallt, Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Euros Bowen, Aneurin Talfan Davies, Alun Llywelyn-Williams, Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, John Gwilym Jones a Pennar Davies. Ar gefn drafft o lythyr gan Bobi Jones mae copi o eirda a roddwyd iddo gan Griffith John Williams ym 1952.

Jones, Bobi, 1929-2017

Dyddiadur

  • NLW MS 16633A.
  • file
  • 1840

Copi o Almanac am 1840…, gol. gan John William Thomas (Llanrwst, [1839]), gyda chofnodion dyddiadur, Ionawr-Rhagfyr 1840 (gyda bylchau), gan Thomas Richard, [Ty'ncoed, Lledrod, Ceredigion], yn cofnodi yn bennaf cyfarfodydd crefyddol (ff. 10-39 passim). = A copy of Almanac am 1840…, ed. by John William Thomas (Llanrwst, [1839]), with brief diary entries, January-December 1840 (with gaps), by Thomas Richard, [Ty'ncoed, Lledrod, Cardiganshire], mainly recording religious meetings (ff. 10-39 passim).
Ceir cyfeiriadau hefyd at weithio ar y cynhaeaf yn ardal Weobley, swydd Henffordd (ff. 27 verso-28, 29 verso), a chyfrifon parthed ei waith fel saer celfi (f. 20). = Thre are also references to his work on the harvest in the Weobley area, Herefordshire (ff. 27 verso-28, 29 verso), and accounts relating to work as a cabinet maker (f. 20).

Richard, Thomas, active 1840.

Clustnodau defaid sir Gaernarfon,

  • NLW MS 16479A.
  • file
  • [19 gan., ail ½].

Llyfr nodiadau, [19 gan., ail ½], mewn llaw anhysbys, yn cofnodi tua saith cant o glustnodau defaid o blwyfi Llanllechid, Llanbeblig, Bettws, Beddgelert, Llanddeiniolen, Capel Curig, Dolwyddelen, Bryncir a Dolbenmaen, sir Gaernarfon. = Notebook, [19 cent., second ½], in an unidentified hand, recording some seven hundred sheep ear-marks from the parishes of Llanllechid, Llanbeblig, Bettws, Beddgelert, Llanddeiniolen, Capel Curig, Dolwyddelen, Bryncir and Dolbenmaen, Caernarvonshire.

Llythyrau at J. Owain Evans,

  • NLW MS 16797D.
  • file
  • [1886x1918] /

Tri llythyr, 1886, yn Saesneg, at Vincent Evans oddi wrth T. E. Ellis, O. M. Edwards a John Ceiriog Hughes ('Ceiriog'); tair llythyr ar ddeg (un yn Saesneg) ac un cerdyn post, 1903-1918, at J. Owain Evans oddi wrth Eliseus Williams ('Eifion Wyn'), ynghyd â thoriad o'r Darian a gohebiaeth, yn Saesneg a Chymraeg, [1917], oddi wrth y Comisiwn Yswiriant Iechyd Cenedlaethol parthed Thomas Evans, tad Robert Evans ('Cybi'); deuddeg llythyr, yng Nghymraeg a Saesneg, 1912-1914, at J. Owain Evans oddi wrth Robert Roberts ('Isallt'), ynghyd â thoriad o'r Rhedegydd, 15 Chwefror 1913, sy'n dwyn llythyr oddi wrth 'Isallt', toriad parthed 'Isallt' o'r News Chronicle, d.d., a barddoniaeth Cymraeg a Saesneg, 1911-1913, yn llaw 'Isallt' = Three letters, 1886, in English, to Vincent Evans from T. E. Ellis, O. M. Edwards and John Ceiriog Hughes ('Ceiriog'); thirteen letters (one in English), and one postcard, 1903-1918, to J. Owain Evans from Eliseus Williams ('Eifion Wyn'), together with a cutting from Y Darian and correspondence, in English and Welsh, [1917], from the National Health Insurance Commission in relation to Thomas Evans, father of Robert Evans ('Cybi'); twelve letters, in Welsh and English, 1912-1914, to J. Owain Evans from Robert Roberts ('Isallt'), together with a cutting from Y Rhedegydd, 15 February 1913, which contains a letter from 'Isallt', a cutting relating to 'Isallt' from the News Chronicle, n.d., and poetry in Welsh and English, 1911-1913, in 'Isallt's hand.

'Eifion Wyn' ac 'Isallt'.

Gweithiau gan Dafydd Guto Ifan,

  • NLW ex 2350.
  • file
  • 2004-2013.

Llyfryddiaethau Caradog Prichard, D. Tecwyn Evans, Dr Lewis William Lloyd (1939-1997), Elizabeth Watkin-Jones ac Albert Evans-Jones (Cynan) wedi'u paratoi gan Dafydd Guto Ifan, rhwng 2004 a 2013, ynghyd ag erthygl ganddo yn dwyn y teitl 'Ffynonellau: Y Ffilm: The Inn of [the] Six[th] Happiness (1958)', Tachwedd 1958.

Ifan, Dafydd Guto.

Papurau J. Gwyn Griffiths

  • NLW ex 2337
  • file
  • 1948-1982

Papurau, 1948-1982, a gasglwyd ynghyd gan yr Athro J. Gwyn Griffiths, y mwyfarif yn lythyron yn ymwneud â chyhoeddiad a olygwyd ganddo ar D. J. Williams, Abergwaun. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Kate Roberts, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. Gwenallt Jones, Gwynfor Evans, Aneirin Talfan Davies a Bobi Jones. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys papurau yn ymwneud â Phlaid Cymru, gan gynnwys llyfr cofnodion, 1948-1958, Cangen Abertawe o'r Blaid, a phapurau amrywiol eraill.

Griffiths, John Gwyn

Gohebiaeth gyffredinol: 1959

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys, trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Alun Llywelyn-Williams, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Iorwerth Peate, Saunders Lewis, G. J. Williams, D. J. Williams, J. M. Edwards a Crwys. Yn ogystal â hyn ceir trafodaeth ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin.

Jones, Bobi, 1929-2017

Cyfres y clasuron: gohebiaeth, 1977-1980

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol yn ymwneud â chyhoeddi Cyfres y Clasuron, adroddiadau a llythyrau yn ymwneud â materion gweinyddol yn ogystal â gohebiaeth gweddol fanwl rhwng Geraint Gruffydd a Saunders Lewis ynglŷn â chyhoeddi Meistri a'u Crefft, Gwynn ap Gwilym, gol. (Caerdydd, 1981), 1977-1980.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Barddoniaeth John Jones, Ceunant,

  • NLW MS 16829A.
  • file
  • [1875x1925].

Cyfrol yn cynnwys barddoniaeth gan John Jones, Ceunant ac eraill, ynghyd â ryseitiau meddyginiaethol a rhai ar gyfer y gegin a'r tŷ, yr oll mewn [?o leiaf dwy] law anhysbys = A volume of poetry by John Jones, Ceunant and others, together with culinary, domestic and medical recipes, all written in [?at least two] hands.
Nodir mai gan 'Gwilym Llugwy' (William Owen, Betws y Coed) mae un o'r englynion (f. 7). Ceir ôl adolygu a chywiro ar beth o'r cerddi, sy'n awgrymu efallai mai gwaith un o'r sgrifenwyr ydyw'r rhai neillduol hynny = One of the englynion is noted as being by 'Gwilym Llugwy' (William Owen, Betws y Coed) (f. 7). There are marks of editing and correction on some of the poems, which suggests that these particular ones may be in the autograph of one of the scribes.

Pregethau'r Parch. William Harris, Heolyfelin,

  • NLW MS 16266B.
  • file
  • [?19 gan., hwyr] /

Llyfr nodiadau (ff. i, 1-97) a dalennau heb eu rhwymo (ff. 98-140) yn cynnwys pum pregeth, [?19 gan., hwyr], ar y Testament Newydd yn llaw'r Parch. William Harris, gweinidog capel y Bedyddwyr Heolyfelin, Aberdâr, Morgannwg. = A notebook (ff. i, 1-97) and unbound leaves (ff. 98-140) containing five autograph sermons on the New Testament, [?late 19 cent.], by the Rev. William Harris, minister of Heolyfelin Baptist Church, Aberdare, Glamorgan.

Harris, W. (William), 1830-1911.

Gohebiaeth gyffredinol: 1974-1976

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, gan gynnwys llawer o ohebiaeth ynglŷn â materion ariannol a'r newidiadau cyfansoddiadol oedd yn yr arfaeth. Ceir cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin ac at y cais i ennill Gwobr Nobel i Saunders Lewis yn ogystal â chyfeiriadau at dderbyn Geraint Gruffydd a Wil Sam yn aelodau o'r Academi.

Results 1 to 20 of 583