Showing 583 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

Papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth

  • NLW ex 2044
  • file
  • 1939-1946

Papurau, 1939-46, yn ymdrin ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd yn 1939, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn ymwneud yn bennaf â chynnal yr ysgol yn ariannol; cylchlythyrau a chofnodion cyfarfodydd llywodraethwyr yr ysgol, 1944-6; a llyfrynnau printiedig yn ymwneud â'r ysgol.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Papurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y Wladfa

  • NLW ex 2331
  • file
  • 1965

Papurau a gasglwyd ynghyd gan y diweddar Miss Catherine (Katie) Richards ar ôl ymweliad â'r Ariannin i ddathlu canmlwyddiant y Wladfa ym 1965. Mae'r papurau yn cynnwys rhaglenni gweithgareddau dathlu, torion o'r wasg, rhestr o aelodau Undeb Cymry Ariannin, yn ogystal â rhai cardiau post a ffotograffau yn ymwneud â'r achlysur.

Papurau W. J. Gruffydd,

  • NLW MS 17305D.
  • file
  • 1899, 1901 /

Papurau gan ac yn llaw W. J. Gruffydd sy'n cynnwys llythyr dyddiedig 12 Medi 1899 oddi wrth W. J. Gruffydd at Thomas Owen Jones, Coventry (rhoddwr y llawysgrifau) sy'n amgau cywydd wedi'i chyfeirio at T. O. Jones ac sy'n dwyn yr un dyddiad â'r llythyr; a cherddi yn dwyn y teitlau 'Baled Bywyd' a 'L'Envoi'. Dynodir fod y ddwy gerdd olaf, yn ôl pob tebyg, wedi'u cyfansoddi yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a dyddir hwynt 4 Ionawr 1901 = Holograph manuscripts of W. J. Gruffydd comprising a letter dated 12 September 1899 from W. J. Gruffydd to Thomas Owen Jones, Coventry (donor of the papers) enclosing a cywydd addressed to T. O. Jones which bears the same date as the letter; and poems entitled 'Baled Bywyd' and 'L'Envoi', both apparently written at Jesus College, Oxford and dated 4 January 1901.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Papurau teuluol Delwyn Tibbott,

  • NLW ex 2831.
  • file
  • 1889-1942, 1977.

Eitemau amrywiol yn ymwneud â theulu'r rhoddwr, gan gynnwys llyfr ymwelwyr Eleazar Tibbott, brawd ei daid, 1910, yn ystod cyfnod ei waeledd, a phregethau ganddo; dyddiadur gwaith, 1912-1913, ei dad-cu fel Arolygwr dan Ddeddf Insiwriant Lloyd George 1911; cyfrol a gyflwynwyd i'w daid yn 1942 ar achlysur ei ymddeoliad o'i swydd fel ysgrifennydd Eglwys y Tabernacl, Aberystwyth; a nodiadau esboniadol i gyd-fynd â hwy.

Papurau Rhiannon Francis Roberts

  • Ychwanegwyd at Papurau Rhiannon Francis Roberts
  • file
  • 1944-1988

Papurau ychwanegol Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) yn cynnwys llythyrau, 1944-1988, oddi wrth R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams ac eraill.

Additional papers of Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) including letters, 1944-1988, from R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams and others.

Roberts, Rhiannon Francis, 1923-1989

Results 81 to 100 of 583