Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth Oscar Mac Uilis/Oscar Willis
- 1/2/6
- Ffeil
- [1990x2018]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopïau o lythyrau, 23 Mehefin 1956, 13 Medi 1956, 21 Medi 1956, at Waldo Williams oddi wrth Oscar Mac Uilis (Oscar Willis).
Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth Oscar Mac Uilis/Oscar Willis
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopïau o lythyrau, 23 Mehefin 1956, 13 Medi 1956, 21 Medi 1956, at Waldo Williams oddi wrth Oscar Mac Uilis (Oscar Willis).
Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Tadhg Ó Murchú
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi o lythyr, 26 Mai 1961, at Waldo Williams oddi wrth y Tad Tadhg Ó Murchú.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi o gerdd yn dwyn y teitl 'Y Baban Diwrnod Oed'. 'Pethau Waldo' wedi'i nodi yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo Williams, ar ddalen flaen y llungopi.
Llythyr oddi wrth y Parchedig Robert Parri Roberts
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi o lythyr, 24 Hydref 1962, oddi wrth y Parchedig Robert Parri Roberts at 'Mr Hughes' - o bosib John Hughes, Llangernyw (gweler Llythyr at Mr a Mrs John Hughes, Llangernyw dan bennawd Angharad Williams (née Jones)). Yng nghymal clo'r llythyr sonia Robert Parri Roberts am Waldo Williams fel ei "[g]yfaill pur - y Bardd mawr, Waldo Williams". Ar waelod y ddalen flaen ceir arysgrif o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo (gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).
Guild y Bobl Ifainc, Blaenconin
Rhan oPapurau Waldo Williams
Manylion o gyfraniadau Waldo Williams ac aelodau o'i deulu i weithgareddau Guild y Bobl Ifainc Capel Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, 1927 - 1935, y wybodaeth yn deillio o bapur newydd lleol (yn ôl pob tebyg, The Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News - gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 161).
Rhan oPapurau Waldo Williams
Deunydd gan, ym meddiant neu'n ymwneud â John Edwal Williams, tad Waldo Williams, gan gynnwys cyfnodolion a phamffledi yn bennaf o ddiddordeb sosialaidd; torion papur newydd yn cynnwys erthyglau gan John Edwal a gyhoeddwyd yn y wasg leol; deunydd yn ymwneud â gyrfa John Edwal; deunydd yn ymwneud â theulu John Edwal, gan gynnwys gwybodaeth achyddol, manylion cyfrifiadau a deunydd gan neu yn ymwneud â William (Gwilamus) a Lewis Williams, brodyr John Edwal; a gohebiaeth.
Llythyr at Mr & Mrs John Hughes, Llangernyw
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi o lythyr, dyddiedig 3 Gorffennaf 19[?88], at Mr & Mrs John Hughes, Llangernyw oddi wrth 'Gareth' o'r Baptist Missionary Society, Llundain yn diolch am ei ymweliad â bwthyn Syr Henry Jones, ewyrth Angharad Williams (née Jones), yn Llangernyw (am Syr Henry Jones, gweler yr enw hwnnw dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).
Rhan oPapurau Waldo Williams
Deunydd gan, at, ym meddiant neu'n ymwneud â Dilys Williams, chwaer ieuengaf Waldo Williams, gan gynnwys gohebiaeth at ac oddi wrth Dilys; amrywiol ddeunydd ym meddiant Dilys; a theyrnged i Dilys a gyhoeddwyd yn Y Cymro yn dilyn ei marwolaeth.
Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Margaret [Snell]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llythyr, 2 Awst [blwyddyn heb ei nodi], at Dilys Williams oddi wrth Margaret [Snell] (née Edmond), merch Mwynlan Mai Edmond (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), mam Dilys. Cyfeirir at sawl aelod o'r teulu, gan gynnwys gwaeledd Mwynlan Mai.
Llythyr, 5 Ionawr [blwyddyn heb ei nodi], at Dilys Williams oddi wrth Margaret [Snell] (née Edmond), ynghyd â llungopïau o'r cardiau oedd ynghlwm wrth flodau angladdol Mwynlan Mai. Yn y llythyr, crybwyllir sawl aelod o'r teulu, yn ogystal â hanesyn am Waldo yn ystod ymweliad Margaret a'i chwaer Glenys ag Elm Cottage, Llandysilio-yn-Nyfed, Sir Benfro pan yn blant.
Gohebiaeth oddi wrth Dilys Williams
Rhan oPapurau Waldo Williams
Gohebiaeth oddi wrth Dilys Williams at gyfeillion a chydnabod, gan gynnwys Benni ac Elsie Lewis, Llanwnda, Wdig, a'r llenor a'r bardd Meic Stephens.