Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Adroddiadau ysgol,

Ei adroddiadau ysgol tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bala, 1927-1933, ynghyd ag adroddiad a dderbyniodd yn Ysgol y Cyngor, Llawrybetws, 1927.

Ymweliadau tramor,

Papurau'n ymwneud â'i ymweliad ag Iwgoslafia, Medi 1976, gydag Undeb y Llenorion, taith Côr Meibion Bro Glyndwr i'r Iseldiroedd, 1988, a thaith i Fflandrys i goffáu Hedd Wyn, 1992. Ceir ei basbort hefyd, 1958-1968.

DLitt,

Rhaglen y seremoni ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, 14 Gorffennaf 1990, a rhaglen yn cynnwys sgript cyfarfod Cylch Llenyddol Bro Glyndŵr a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Cyfnod, y Bala, i'w longyfarch ar ei radd, Chwefror 1990. Ceir hefyd fwydlen y noson gyda chartŵn o waith E. Meirion Roberts ar y clawr.

Roberts, E. Meirion.

Papurau academaidd,

Papurau'n ymwneud â'r cyfnod a dreuliodd yn y brifysgol ym Mangor, gan gynnwys ai atgofion am y blynyddoedd 1934-1938, ynghyd â'i draethawd MA, 1961.

Papurau arholiad,

Papurau a osodwyd gan Fwrdd Canol Cymru, 1923; papurau arholiad Prifysgol Cymru, 1934-36, ynghyd â chardiau aelodaeth cymdeithasau, taflen ei seremoni raddio yn BA, 1937 a rhaglen, 11 Gorffennaf 1990, y seremoni pan y'i dyfarnwyd yn Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor, a thoriad o'r Cyfnod yn cofnodi'r achlysur.

Nodiadau ymchwil,

Dau lyfr nodiadau'n cynnwys nodiadau o Archifau'r Coleg Seisnig yn Rhufain, Archifau'r Fatican ac eraill am y pererinion o Gymru, ynghyd â llythyr oddi wrth olygydd Trivium (Cylchgrawn Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan) yn ymwneud â'i erthygl 'Welsh Pilgrims at Rome', a gwahanlithoedd o'r erthygl a gyhoeddwyd mewn dwy ran yn y cylchgrawn, 1971-1972. Ceir hefyd ffolder yn dwyn y teitl 'Recusants' sy'n cynnwys ei waith ymchwil a braslun o'i ddarlith 'Rome and Wales', Croesoswallt, 1959.

Papurau proffesiynol,

Papurau, 1926-1992, yn ymwneud â'i waith fel tiwtor addysg i oedolion, ei swydd yng Ngholeg Harlech a'i ddyletswyddau cyhoeddus eraill.

Addysg i oedolion,

Papurau, [1938]-1992, yn ymwneud â'r cyfnod y bu'n cynnal dosbarthiadau i oedolion dan nawdd Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Llyfrau nodiadau,

Llyfrau nodiadau, 1939-1963, gan gynnwys cyrsiau ar 'Y cenhedloedd bychain’, 'Hanes Cymru hyd 1890', 'Hanes Llenyddiaeth Gymraeg’, 'Theori wleidyddol’, ynghyd â chyrsiau Ysgol Haf 1950.

Ceisiadau am swyddi,

Ceisiadau am swyddi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Astudiaethau Efrydiau Allanol ym Mhrifysgol Caeredin, [cyn 1955], tiwtor cynorthwyol yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor, 1955, a darlithydd cynorthwyol yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol Caerdydd (llenyddiaeth ddiweddar), 1957.

E Bymhet Geing,

Cyfrol yn cynnwys Pumed Keinc y Mabinogi yn ei law sef parodi ganddo mewn 'Hen Gymraeg' am ddau frawd yn ardal Penllyn, [1976].

Torion o'r wasg,

Torion o’r wasg, [1926]-[1966], gan gynnwys adolygiadau o weithiau Saunders Lewis, o’i golofn ‘Saunders Lewis yn trafod …’ yn Y Faner, a cherddi ganddo.

Traethawd BA Saunders Lewis,

Copi, 1966, o draethawd BA Anrhydedd 'Imagery and poetic themes of S. T. Coleridge', Prifysgol Lerpwl, 1920, gan Saunders Lewis, ac mae'r gwreiddiol ar gadw yn Llyfrgell y Brifysgol honno.

Cais am Wobr Nobel,

Llythyrau, 1970, yn ymwneud â chefnogi enwebiad Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel (Llenyddiaeth), oddi wrth David Hughes Parry, Idris [Foster], Aneirin Talfan Davies, Proinsias Mac Cana, Rachel [Bromwich], Per Denez, David Jenkins ac eraill. Cyfeiriwyd y mwyafrif ohonynt at J. E. Caerwyn Williams. Ceir copi teipysgrif o'r cais, 1971, a llyfryddiaeth.

Parry, David Hughes, Sir, 1893-1973.

Results 21 to 40 of 207