Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Rhodd 1975,

Llythyrau at Hughes a'i Fab, 1909-1949, cyfansoddiadau llenyddol Eisteddfod Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1942, a chyfansoddiadau eisteddfod Chwilog, 1946.

Pryniad 2005-2006,

Papurau personol, papurau proffesiynol a phapurau llenyddol D. Tecwyn Lloyd, ynghyd â rhai'n ymwneud â hanes lleol a phapurau pobl eraill, [1870]-1998, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau a phapurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol megis ei astudiaeth o Saunders Lewis. Ceir deunydd yn gysylltiedig â'i waith fel golygydd i'r cylchgrawn Taliesin ac fel tiwtor addysg i oedolion.

Papurau personol,

Llythyrau, dyddiaduron, papurau'n deillio o'i gyfnod yn yr ysgol ac yn y coleg a phapurau'n ymwneud â'i waith ymchwil yn Yr Eidal, [1906]-1992 .

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau, 1924-1992, gan gynnwys llythyrau oddi wrth aelodau'r teulu, cyfeillion, ysgolheigion a llenorion yn ymwneud â'i swyddi amrywiol, ei ddiddordebau llenyddol, ei waith ymchwil a'i gyhoeddiadau, ac yn ei longyfarch ar ei anrhydeddu gyda gradd Doethur mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru yn 1990.

Dyddiaduron,

Dyddiaduron, 1931-1992. Mae iddynt le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif gan fod Tecwyn Lloyd yn trafod gwaith llenorion eraill ac yn feirniad llenyddol a sylwedydd craff hefyd. Nid ydynt yn ddyddiaduron yn yr ystyr draddodiadol gan ei fod yn llunio’r cofnodion yn achlysurol gan edrych nôl ar ddigwyddiadau. Ceir hefyd sylwadau ganddo ar nifer o unigolion amlwg yn y byd llenyddol a chyhoeddus yng Nghymru.

Dyddiadur,

Yn cynnwys cofnodion achlysurol rhwng 24 Hydref 1938 a 11 Chwefror 1941 mewn llyfr nodiadau.

Dyddiadur,

Yn cynnwys cofnodion achlysurol rhwng 3 Ebrill 1941 a 30 Rhagfyr 1948 mewn llyfr nodiadau.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 1 Ionawr 1949 a 23 Rhagfyr 1958 mewn llyfr nodiadau gan gynnwys ei gyfnod yn astudio yn Yr Eidal, 1951-1952.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 30 Rhagfyr 1958 a 29 Awst 1963 mewn llyfr cofnodion. Ceir llythyr oddi wrth T. E. Nicholas, 1962, yn rhydd yn y gyfrol a thorion o'r wasg pan ddyfarnwyd MA iddo yn 1961.

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 11 Medi 1963 a 13 Gorffennaf 1968 mewn llyfr cofnodion gan gynnwys copi o raglen y ddrama 'Y Cythreuliaid' a droswyd ganddo, 1965.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 14 Gorffennaf 1968 a 6 Ionawr 1992 mewn llyfr cofnodion.

Results 21 to 40 of 207