- A2/6
- file
- [?1957]
Copi llawysgrif o'r erthygl, 'Dyddiadur William Thomas o Lanfihangel-ar-Elai'; ynghyd â dyfyniadau o'r dyddiadur. Gweler Morgannwg I (1957).
Copi llawysgrif o'r erthygl, 'Dyddiadur William Thomas o Lanfihangel-ar-Elai'; ynghyd â dyfyniadau o'r dyddiadur. Gweler Morgannwg I (1957).
Mân nodiadau, gan fwyaf, ar unigolion a phynciau amrywiol (rhai gan eraill): Brut y Tywysogion, Thomas Wilkins, Antoni Powel, Awbreaid, Lewis Hopcyn, Rhys Morgan, Dafydd Nicolas, eisteddfodau, Edward Evan, Rhys Meurig, Rhyddiaith Morgannwg, Barry Island, copïwyr llawysgrifau a hanes Morgannwg, teulu'r Stradlings, Tomas ab Ieuan, Wil Hopcyn, llyfrgell y Bont-faen, ayyb.
Ysgolheictod Cymraeg ac argraffu
Darlithoedd ac erthyglau G. J. Williams ar ysgolheictod Cymraeg ac argraffu yng Nghymru. Yn eu plith ceir deunydd amrywiol ar Gruffydd Robert, Milan, Edward Lhuyd, Charles Edwards, a Dafydd Jones o Drefriw.
Darlithoedd ac erthyglau, yn cynnwys 'Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw' (a 'The Welsh Press, Yesterday and Today'); 'Cyhoeddi Llyfrau Cymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'; 'Stephen Hughes a'i Gyfnod' (gw. Y Cofiadur, 4 (1926)); ynghyd â nodiadau ar gyhoeddiadau ddiwedd yr ail ganrif-ar-bymtheg.
Papurau'n ymwneud ag astudiaeth G. J. Williams o waith Charles Edwards, gan gynnwys copi llawysgrif o'i ragymadrodd i'r gyfrol Y Ffydd Ddi-ffuant, ..., gan Charles Edwards (1936), a llythyrau perthynol, 1935.
Papurau'n cynnwys 'Atodiad. Llythyrau eraill at Ddafydd Jones o Drefriw', 1757-1778. Gweler 'Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw', wedi eu copïo a'u golygu gan G. J. Williams yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1943), Atodiad, Cyfres III, rhif 2.
Llawysgrif erthygl yn dwyn y teitl 'Yr Eisteddfod a'r Orsedd'; ynghyd â phapurau perthynol amrywiol. Gweler hefyd Y Llenor, I (1922).
Llawysgrif darlith yn dwyn y teitl 'Eisteddfod y Cymry'.
Bwndel o nodiadau, y tudalennau wedi eu rhifo E1-372, yn ymwneud â hanes y beirdd, yr Orsedd, ayyb.
Llawysgrif traethawd MA Griffith John Williams, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'.
Nodiadau darlithoedd amrywiol yn olrhain hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, gan gynnwys 'Yr Iaith Gymraeg', 'Yr Elfen Ladin yn y Gymraeg', a 'Y Gymraeg ym Morgannwg'.
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams, [1911x1963], ar lenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid; nifer o ddarlithoedd ac erthyglau; ynghyd ag adysgrifau o lawysgrifau o wahanol ffynonellau a nodiadau amrywiol.
Adysgrifau o gywyddau ac awdlau, wedi eu codi o lawysgrifau amrywiol; ynghyd â nodiadau perthynol.
Adysgrifau, y mwyafrif wedi eu codi o lawysgrifau Llanover, ac ychydig o lawysgrifau Caerdydd; ynghyd â nodiadau perthynol.
Nodiadau amrywiol ar yr Hengerdd a'r Trioedd yn bennaf.
Deunydd amrywiol perthynol i weithgaredd G. J. Williams fel ymchwilydd, golygydd a darlledwr, gan gynnwys papurau'n ymwneud â Llên Cymru a'r Llenor; llyfryddiaethau; sgyrsiau radio; almanaciau; memorandwm ar hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; a thorion papur.
Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.
Torion papur, [1920x1963], yn ymwneud â Iolo Morganwg, llenyddiaeth Gymraeg, crefydd, diwylliant ac addysg yng Nghymru. Yn eu plith ceir un bwndel o dorion, 1954-1956, o ysgrifau 'Cartrefi Cymru' gan Bob Owen, Croesor, yn Y Cymro.
Owen, Bob, 1885-1962
Papurau'n ymwneud â ffurfio cronfa i waddoli Darlith Goffa G. J. Williams; ynghyd â nifer o deyrngedau ac ysgrifau coffa.