Showing 150 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Print preview View:

Cyfansoddiadau G. J. Williams

Drafftiau teipysgrif a llawysgrif, o bryddestau a cherddi yn bennaf, gan G. J. Williams. Bu nifer ohonynt yn fuddugol mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, 1912-1920. Mae rhai wedi eu cofnodi mewn llyfrau nodiadau a cheir nifer o gerddi i'w wraig, Elizabeth, yn eu plith.

Cyfansoddiadau gan eraill

Ychydig gyfansoddiadau gan eraill. Yn eu plith ceir teipysgrif o gerddi gan Waldo Williams; copi teipysgrif o'r ddrama 'Yr Anfarwol Ifan Harris' gan Idwal Jones; adysgrif o gerdd, heb deitl, a gyfansoddwyd gan Dafydd Huws ('Eos Iâl); llawysgrif y gerdd 'Marwolaeth y Cristion' gan Evan Jones, dyddiedig Chwefror 23ain 1870; cerdd, heb deitl, wedi ei dyddio 'May 5/[18]96', mewn llaw ddieithr; llythyr, 1912, oddi wrth 'Isallt' at 'Isgoed', ynghyd â chopïau o nifer o'i gerddi; a chopi llawysgrif o gerdd gan Gwilym Cowlyd i William Ewart Gladstone.

Beirniadaethau

Beirniadaethau eisteddfodol amrywiol, gan gynnwys copi llawysgrif o feirniadaeth G. J. Williams yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1940; ynghyd â nodiadau beirniadaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961, a llythyr perthynol oddi wrth Meuryn (R. J. Rowlands), Mehefin 1961.

Rowlands, R. J. (Robert John), 1915-

Plaid Cymru

Darlithoedd a phapurau'n ymwneud â hanes Plaid Cymru, 1924-1967, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid yn ne Cymru, 1924; papurau'n ymwneud â gyrfa Saunders Lewis yn sgîl llosgi'r Ysgol Fomio, 1936-1943; cofnodion cangen Dinas Caerdydd o Blaid Cymru, 1932-1936; a deunydd printiedig amrywiol, 1926-1965.

Hanes Plaid Cymru

Darlithoedd, nodiadau a thorion papur yn ymwneud â hanes Plaid Cymru, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid Genedlaethol yn Ne Cymru, a gynhaliwyd ym Mhenarth, 7 Ionawr 1924. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi o lythyr, 1967, oddi wrth Elizabeth Williams yn ymwneud â'r cyfarfodydd cyntaf.

Williams, Elisabeth Elen, 1891-1979

Saunders Lewis

Papurau'n ymwneud yn bennaf â gyrfa Saunders Lewis yn sgîl llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Yn eu plith ceir deiseb yn datgan cefnogaeth iddo a phapurau'n ymwneud â'r cyfarfod protest a gynhaliwyd yn Abertawe, 22 Mai 1937.

Cangen Dinas Caerdydd

Gohebiaeth a mantolenni yn ymwneud yn bennaf â changen Dinas Caerdydd o Blaid Cymru, Pwyllgor Rhanbarth Dwyrain Morgannwg a Phwyllgor Rhanbarth De Morgannwg, 1932-1936. Bu G. J. Williams yn lywydd cangen Caerdydd, 1933-1934. Ymhlith y papurau ceir llythyr ymddiswyddiad Dr Iorwerth C. Peate o gadeiryddiaeth Pwyllgor Rhanbarth De Morgannwg, 1933.

Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982

Papurau amrywiol

Darlithoedd amrywiol, [1919x1963]; deunydd yn ymwneud ag apêl Sain Ffagan, 1958; pregeth yn llaw G. J. Williams, [1911x1963]; a llythyrau, 1962, yn ymwneud â hanes y Cob Cymreig.

Darlithoedd

Darlith a draddododd G. J. Williams yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn seiliedig ar arddangosfa o bortreadau rhai o enwogion Cymru; darlith yn dwyn y teitl 'Tri Chan Mlwyddiant yr Annibynwyr', ynghyd ag ychydig nodiadau ar Undodiaeth yn Sir Aberteifi.

Llawysgrifau wedi'u crynhoi

Llawysgrifau a gohebiaeth, [16 gan., hwyr]-[?1939], a gasglwyd gan G. J. Williams yn ystod ei oes, yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg a chyfieithiadau Saesneg; cyfarwyddiadau meddygol; pregeth; traethawd ar gerddoriaeth; cerdd Saesneg gan Iolo Morganwg; a llythyrau oddi wrth William Owen [-Pughe], Iolo Morganwg, John Jones ('Tegid')a D. Lleufer Thomas.

Pregeth

Pregeth yn dwyn y teitl 'Beth a rydd Dyn yn gyfnewid am ei Enaid', wedi ei dyddio '21 April [17]52'. Nodir lleoliad a dyddiad y cyfarfodydd lle traddodwyd y bregeth ar y dudalen olaf.

Englynion a cherddi rhydd

Llawysgrif yn cynnwys englynion, carolau a cherddi rhydd gan Elis Roberts, Hugh Jones, Llangwm, Hugh Prichard, Llanbedr, John Jones, David Jones y Goelas, ac Evan Evans, Llanrwst. Fe'u casglwyd ynghyd gan Evan Evans, Llanrwst.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys calendr printiedig am y flwyddyn 1858, ychydig englynion gan I. D. Conway ('Ieuan Dyffryn Conwy'), sef Evan Evans, Llanrwst; ynghyd ag ychydig gyfrifon ariannol, a drafft o lythyr, 30 Ebrill 1884, oddi wrth Evan Evans, yn ymwneud â materion ariannol.

Evans, Evan, Llanrwst

Results 21 to 40 of 150